Skip to Main Content

Cadolygiadau Systematig a Chyflym

This page is also available in English

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng adolygiad cyflym ac adolygiad systematig?

 

Adolygiad Cyflym

Adolygiad Systematig

Amserlen

4-24 wythnos

Blwyddyn neu fwy

Ffynonellau

Cronfeydd data yn bennaf

Cynhwysfawr, gan gynnwys chwilio â llaw, llenyddiaeth lwyd

Chwilio

Mae rhai cyfyngiadau yn berthnasol – fel arfer ystod dyddiadau ac iaith

Cynhwysfawr o fewn cwmpas y prosiect

Sut i gynnal adolygiad cyflym

Yn syml, mae adolygiadau cyflym yn ffurf symlach ar adolygiadau systematig. Mae adolygiad cyflym ac adolygiad systematig yn defnyddio'r un broses chwilio sylfaenol, gyda methodoleg dryloyw y gellir ei hail-adrodd, ac arfarnir y llenyddiaeth yn feirniadol yn yr un modd. Gan fod adolygiad cyflym yn cael ei gynnal ag amserlen fyrrach nag adolygiad systematig, mae rhai o'r camau yn cael eu hepgor neu eu symleiddio. Gallai hyn gynnwys defnyddio llai o gronfeydd data, un adolygydd, neu beidio â chwilio'r llenyddiaeth lwyd.

Enghreifftiau o Adolygiadau Systematig a Chyflym