Gall Tîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell (LRST) helpu o ran ymholiadau cyffredinol ynghylch allbynnau, cyfnodau embargo, hawlfraint, adrodd swyddogaethau ayyb.
Adborth RIS – e-bostiwch LibraryResearchSupport@abertawe.ac.uk neu cofnodwch alwad dechnegol trwy Ddesg Wasanaeth GGS
Mae System Gwybodaeth Ymchwil Prifysgol Abertawe wedi'i chynllunio i fod yn storfa sengl ganolog o ymchwil cyhoeddedig ac ymchwil ar y gweill yn y Brifysgol. Gellir lanlwytho'r holl gyhoeddiadau ymchwil a ysgrifennwyd, neu a ysgrifennwyd ar y cyd ag eraill, gan staff Prifysgol Abertawe i'r system ac mae hyn yn bwydo'r gwasanaethau canlynol:
Anogir awduron i gadw’r hawliau penodol i hunan archifo gwaith a gyhoeddwyd. Fel crëwr y gwaith, chi fydd yn berchen ar yr hawlfraint fel arfer oni bai eich bod yn ei throsglwyddo i barti arall neu os yw’n eiddo i’ch cyflogwr. Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaith nad oes ymrwymiad arnoch i drosglwyddo hawlfraint unigryw, mae’r rhan fwyaf o gyhoeddwyr academaidd o siwrnalau tanysgrifio traddodiadol yn disgwyl i chi wneud hynny yn amod o’i gyhoeddi. Derbynnir mai chi fydd â hawlfraint y drafft cyntaf fel arfer; ond ar ôl ei dderbyn i’w gyhoeddi bydd yn ofynnol i chi roi hawlfraint y fersiynau eraill i’r cyhoeddwr drwy lofnodi cytundeb trosglwyddo hawlfraint.
Mae polisïau cyllido a sefydliadol yn ei gwneud yn ofynnol i allbynnau grant fod ar gael mewn storfa agored fel arfer, felly argymhellir eich bod yn ystyried yr hawliau yr ydych yn dymuno’u cadw cyn i chi lofnodi unrhyw gytundeb. Gallwch gyd-drafod â’ch cyhoeddwr i gadw’r holl hawliau sydd eu hangen arnoch i archifo’r gwaith eich hun ar y we, neu gyhoeddi’ch gwaith gan ddefnyddio’r model agored. Mae’n dderbyniol gofyn am gytundeb cyhoeddi arall.
Defnyddio Adendwm Ysgolhaig
Mae Addasiad Prifysgol Abertawe i’r Cytundeb Cyhoeddi yn caniatáu i chi gadw hawliau defnydd digidol a mynediad wrth drosglwyddo’r hawlfraint i’r cyhoeddwr. Lawr lwythwch ac argraffwch yr adendwm (dolen isod), llenwch ef a’i lofnodi. Anfonwch gopi at eich cyhoeddwr a gofyn iddo ei lofnodi a’i atodi i’r cytundeb trosglwyddo hawlfraint. Dylech chi gadw copïau wedi’u llofnodi o unrhyw gytundeb neu drwydded rhyngoch chi a’ch cyhoeddwr.
Rhagor o wybodaeth
Hawlfraint: Gwybodaeth i Ymchwilwyr
Mae eitemau testun llawn sy'n cael eu hadneuo gyda Cronfa yn ddarostyngedig i hawlfraint. Mae'r amodau defnyddio'n amrywio a gellir nodi'r hawlfraint ar y dudalen sy'n gysylltiedig â phob eitem.
Gellir defnyddio neu atgynhyrchu meta-ddata mewn unrhyw fformat, heb ganiatâd ymlaen llaw, at ddibenion nid er elw, ar yr amod bod y dynodwr OAI neu ddolen i'r meta-ddata gwreiddiol yn cael ei gynnwys.
Nid yw Prifysgol Abertawe'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am achosion o dorri hawlfraint gan drydydd partïon.
Bydd ymchwil a gyhoeddir sy'n cael ei lanlwytho i System Gwybodaeth Ymchwil Prifysgol Abertawe ar gael yn awtomatig drwy Cronfa, Storfa Mynediad Agored y Brifysgol (https://cronfa.swansea.ac.uk). Pan fydd gwaith wedi'i adneuo, bydd Cronfa yn cadw copi o allbwn yr ymchwil am o leiaf 10 mlynedd, a bydd yn ymdrechu i sicrhau ei fod ar gael ac yn ddarllenadwy drwy'r amser. Mae hyn yn golygu y gellir trosglwyddo eitemau i fformatau ffeil newydd yn ôl yr angen. Bydd deunydd ar gael i gynulleidfa fyd-eang ei weld.
Polisi Cynnwys a Chasglu'r System Gwybodaeth Ymchwil (RIS)
Bydd y system yn cynnwys unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud ag allbwn ymchwil, gan gynnwys:
Mae eitemau testun llawn sy'n cael eu hadneuo gyda Cronfa yn ddarostyngedig i hawlfraint. Oni nodir yn wahanol, mae'r holl hawliau wedi'u cadw, ac ni chaniateir defnyddio eitemau ond yn unol â deddfwriaeth hawliau genedlaethol. Gall defnyddwyr wneud copi sengl at ddiben ymchwil anfasnachol neu astudio preifat, o fewn terfynau delio'n deg o dan yr eithriad i hawlfraint a gynhwysir yn adran 29 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Caiff y cyhoeddwr, neu ddeiliaid hawliau eraill, ganiatáu atgynhyrchu neu ailddefnyddio'r fersiwn testun llawn ymhellach. Trwyddedau Creative Commons (CC) fel arfer yw'r trwyddedau a ddefnyddir yn amlaf ar gyfer cynnwys Mynediad Agored.
Y trwyddedau CC mwyaf poblogaidd ar gyfer allbynnau ymchwil mynediad agored:
Attribution (CC BY)
Mae'r drwydded hon yn caniatáu i ddefnyddwyr ddefnyddio eitem mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys yn fasnachol, ar yr amod eu bod yn cydnabod crëwr y gwaith gwreiddiol.
Attribution-NonCommercial (CC BY-NC)
Mae'r drwydded hon yn caniatáu i ddefnyddwyr ddefnyddio eitem mewn unrhyw awlfraint
ffordd, ar yr amod eu bod yn cydnabod crëwr y gwaith gwreiddiol. Rhaid bod eu gwaith yn anfasnachol.
Attribution-NonCommercial-NoDerivs (CC BY-NC-ND)
Mae'r drwydded hon yn caniatáu i ddefnyddwyr lawrlwytho a rhannu eitem heb wneud unrhyw addasiadau. Rhaid iddynt gydnabod y crëwr ac ni chaniateir iddynt ddefnyddio'r gwaith at ddiben masnachol.
Mae trwyddedau CC eraill ar gael ar eu gwefan: https://creativecommons.org/licenses/
Lle bo cofnodion yn nodi mai'r cyhoeddwr yw deiliad yr hawlfraint, gall defnyddwyr wirio unrhyw delerau penodol ar wefan y cyhoeddwr.
Mae'r wybodaeth am drwyddedau sydd wedi'i chynnwys yn Cronfa yn gywir adeg ei chyhoeddi hyd eithaf ein gwybodaeth. Rydym yn cadw hawl lwyr i addasu, golygu neu ddileu unrhyw ran o gynnwys y storfa, fel y gwelwn orau. Os ydych yn credu bod cynnwys yn groes i ddeddfwriaeth y DU, cysylltwch â ni, gan gynnwys URL y cofnod a'r rheswm dros y cais i'w ddileu.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.