Skip to Main Content

Storfa Sefydliadol

This page is also available in English

Ynglŷn â RIS a Cronfa

Mae System Gwybodaeth Ymchwil Prifysgol Abertawe wedi'i chynllunio i fod yn storfa sengl ganolog o ymchwil cyhoeddedig ac ymchwil ar y gweill yn y Brifysgol. Gellir lanlwytho'r holl gyhoeddiadau ymchwil a ysgrifennwyd, neu a ysgrifennwyd ar y cyd ag eraill, gan staff Prifysgol Abertawe  i'r system ac mae hyn yn bwydo'r gwasanaethau canlynol:

  • Cronfa, wyneb y System Gwybodaeth Ymchwil sy’n hygyrch i’r cyhoedd.
  • Adran 'Cyhoeddiadau' tudalennau gwe'r staff.
  • Proses Adolygiad Datblygiad Proffesiynol staff ymchwil yn ABW.
  • Cyflwyniadau'r Brifysgol i'r REF
  • Adroddiadau canolog a'r rhestr flynyddol o gyhoeddiadau ymchwil

Mewngofnodi i RIS

RIS home page screenshot                                            PORTH MEWNGOFNODI RIS

 

 

 

 

  • Gall staff gael mynediad i'r system yn 'MyApps' dangosfwrdd gan ddefnyddio’ch manylion mewngofnodi yn y Brifysgol
  • Gallwch drosglwyddo materion technegol gan ddefnyddio Desg Wasanaeth GGS yn ardal My Apps ar fewnrwyd y staff.
  • Ymholiadau RIS neu Cronfa: ebost LibraryResearchSupport@abertawe.ac.uk

Defnyddio'r System Gwybodaeth Ymchwil

Gall staff gael mynediad i'r system yn 'MyApps' dangosfwrdd gan ddefnyddio’ch manylion mewngofnodi yn y Brifysgol

Gall Tîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell (LRST) helpu o ran ymholiadau cyffredinol ynghylch allbynnau, cyfnodau embargo, hawlfraint, adrodd swyddogaethau ayyb. 

Gallwch drosglwyddo materion technegol gan ddefnyddio Desg Wasanaeth GGS yn ardal My Apps ar fewnrwyd y staff.

e-bostiwch LibraryResearchSupport@abertawe.ac.uk

 

  • Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau nad yw cynnwys a uwchlwythir i Cronfa yn torri hawlfraint.
  • Mae’r polisi cyhoeddiadau ymchwil yn rhoi hawl awtomatig i fyfyrwyr a staff sy’n ymgymryd ag ymchwil i gadw hawliau i ailddefnyddio eu gwaith eu hunain. Mae hefyd yn caniatáu mynediad agored llawn ac ar unwaith at yr holl erthyglau ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid – rhai sydd wedi’u hariannu a heb eu hariannu – a gyhoeddwyd mewn cyfnodolyn, trafodion cynhadledd neu ar blatfform cyhoeddi. Mae’r polisi hefyd yn cynnwys penodau llyfrau.
  • Mae gan bob aelod o staff fynediad i’r System Gwybodaeth Ymchwil drwy fewnrwyd. Gallwch lanlwytho dogfennau eich hunain ar yr amod eich bod naill ai'n berchen ar yr hawlfraint neu fod eich cyhoeddwr yn caniatáu cyflwyno.
  • Yn ddelfrydol, dylid cyflwyno dogfennau pan gânt eu derbyn i'w cyhoeddi, er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni gofynion Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil.
  • Argymhellir cyflwyno dogfennau PDF oherwydd bod y rhain yn hygyrch yn eang.  Gallwch hefyd gyflwyno ffeiliau Docx, TIFF, PostScript a PowerPoint.
  • Mae'n rhaid i chi sicrhau nad yw unrhyw ddogfen a gyflwynir yn mynd yn groes i hawliau unrhyw unigolyn neu sefydliad arall, nac yn cynnwys unrhyw wybodaeth ddifenwol neu sensitif. Dylid cymryd gofal i sicrhau nad oes risg o dorri'r rheolau diogelu data gyda chynnwys unrhyw ddata.
  • Cwrdd â'ch rhwymedigaethau cyllidwr.
  • Mae allbynnau ymchwil a ddosberthir drwy Cronfa yn hawdd eu chwilio, yn rhad ac am ddim i'r defnyddiwr ac maen nhw ar gael ar unwaith yn amodol ar gyfyngiadau hawlfraint y cyhoeddwr 
  • Mae Cronfa yn rhoi'r cyfle i ymchwilwyr hyrwyddo eu gwaith ymchwil ar draws llwyfan byd-eang
  • Mae'r Brifysgol yn elwa ar gael ffenestr siop o waith ymchwil hygyrch sy'n gymorth o ran denu darpar fyfyrwyr, staff, buddsoddwyr neu gydweithwyr
  • Rhoddir URL parhaol i bob eitem a gyflwynir i'r ystorfa sefydliadol
  • Mae cynnwys yr ystorfa hon wedi'i fynegeio drwy Google a gwasanaethau eraill
  • Mae RIS yn bwydo eich platfform meddalwedd PDR a'ch tudalen proffil staff

Anogir awduron i gadw’r hawliau penodol i hunan archifo gwaith a gyhoeddwyd. Fel crëwr y gwaith, chi fydd yn berchen ar yr hawlfraint fel arfer oni bai eich bod yn ei throsglwyddo i barti arall neu os yw’n eiddo i’ch cyflogwr. Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaith nad oes ymrwymiad arnoch i drosglwyddo hawlfraint unigryw, mae’r rhan fwyaf o gyhoeddwyr academaidd o siwrnalau tanysgrifio traddodiadol yn disgwyl i chi wneud hynny yn amod o’i gyhoeddi. Derbynnir mai chi fydd â hawlfraint y drafft cyntaf fel arfer; ond ar ôl ei dderbyn i’w gyhoeddi bydd yn ofynnol i chi roi hawlfraint y fersiynau eraill i’r cyhoeddwr drwy lofnodi cytundeb trosglwyddo hawlfraint.

Mae polisïau cyllido a sefydliadol yn ei gwneud yn ofynnol i allbynnau grant fod ar gael mewn storfa agored fel arfer, felly argymhellir eich bod yn ystyried yr hawliau yr ydych yn dymuno’u cadw cyn i chi lofnodi unrhyw gytundeb. 

Mae'r polisi cyhoeddiadau ymchwi 2023 l hwn yn galluogi ymchwilwyr i gadw eu hawliau i ailddefnyddio eu gwaith eu hunain ac yn mynnu bod pawb yn cael mynediad agored llawn ac ar unwaith at yr holl:  

  • Erthyglau ymchwil a ariennir a rhai nas ariennir a adolygwyd gan gymheiriaid, wedi'u cyhoeddi mewn cyfnodolyn, cynhadledd neu ar blatfform cyhoeddi.    

  • Penodau llyfrau.  

  • Fersiwn cyn argraffu: fel arfer drafft yr awdur cyn iddo gael ei adolygu, a dderbynnir i'w gyhoeddi heb gynnal adolygiad gan gymheiriaid.  Mae'r rhan fwyaf o gyhoeddwyr yn caniatáu i fersiynau cyn argraffu gael eu harchifo heb gyfyngiad.
  • Fersiwn o'r llawysgrif wedi'i dderbyn gan yr awdur: fel arfer yr erthygl derfynol a adolygwyd gan gymheiriaid sydd wedi'i derbyn i'w chyhoeddi ond sydd heb ei fformatio yn unol â chynllun terfynol y cyhoeddwr. 
  • Fersiwn cyhoeddedig PDF (fersiwn o'r cofnod) yn cynnwys cynllun a threfniant teipograffyddol y cyhoeddwr ac sydd fel arfer yn darparu dolen i'r fersiwn cyhoeddedig drwy wal dalu. Fel arfer ni chaniateir i chi lanlwytho'r fersiwn pdf a grëwyd gan y cyhoeddwr i'r Gronfa i’w archifo oni bai fod gennych ganiatâd y cyhoeddwr.  Gallwch gyflwyno'r fersiwn cyhoeddedig os ydych wedi talu ffi prosesu erthygl i'r cyfnodolyn ar gyfer mynediad agored aur.

Telerau Defnyddio

CORE logo
 
 
Telerau Defnyddio

Mae eitemau testun llawn sy'n cael eu hadneuo gyda Cronfa yn ddarostyngedig i hawlfraint. Mae'r amodau defnyddio'n amrywio a gellir nodi'r hawlfraint ar y dudalen sy'n gysylltiedig â phob eitem.

Gellir defnyddio neu atgynhyrchu meta-ddata mewn unrhyw fformat, heb ganiatâd ymlaen llaw, at ddibenion nid er elw, ar yr amod bod y dynodwr OAI neu ddolen i'r meta-ddata gwreiddiol yn cael ei gynnwys.

Nid yw Prifysgol Abertawe'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am achosion o dorri hawlfraint gan drydydd partïon.

Ynglŷn â Cronfa

Bydd ymchwil a gyhoeddir sy'n cael ei lanlwytho i System Gwybodaeth Ymchwil Prifysgol Abertawe ar gael yn awtomatig drwy Cronfa, Storfa Mynediad Agored y Brifysgol (https://cronfa.swansea.ac.uk). Pan fydd gwaith wedi'i adneuo, bydd Cronfa yn cadw copi o allbwn yr ymchwil am o leiaf 10 mlynedd, a bydd yn ymdrechu i sicrhau ei fod ar gael ac yn ddarllenadwy drwy'r amser. Mae hyn yn golygu y gellir trosglwyddo eitemau i fformatau ffeil newydd yn ôl yr angen. Bydd deunydd ar gael i gynulleidfa fyd-eang ei weld.

Polisi Cynnwys a Chasglu'r System Gwybodaeth Ymchwil (RIS)
Bydd y system yn cynnwys unrhyw ddeunydd sy'n ymwneud ag allbwn ymchwil, gan gynnwys:

  • erthyglau mewn cyfnodolion
  • papurau cynadleddau a gweithdai
  • traethodau PhD
  • adroddiadau a phapurau gweithio heb eu cyhoeddi
  • llyfrau, penodau ac adrannau
  • delweddau
  • setiau data
  • graffigwaith
  • recordiadau sain

Polisi Data

Polisi Cyffredinol
Gall eitemau gael eu hail-gynhyrchu, eu harddangos, eu perfformio neu eu rhoi i drydydd partïon am:

  • ymchwil neu astudiaeth bersonol, dibenion addysgol, dibenion nid-er-elw heb ganiatâd ymlaen llaw
    os:
  • derbynnir manylion llawn yr awduron, y teitl a manylion llyfryddiaethol neu, URL ar gyfer y dudalen metadata wreiddiolnad yw'r cynnwys yn cael ei newid mewn unrhyw ffordd

Amodau Ailddefnyddio

  • Ni ddylai eitemau llawn gael eu gwerthu'n fasnachol heb ganiatâd ffurfiol deiliaid yr hawlfraint
  • Ni ddylai eitemau llawn gael eu casglu gan robotiaid oni bai ar sail dros dro i fynegeio testun llawn neu ddadansoddi dyfyniadau
  • Mae rhai eitemau a dogfennau wedi'u tagio'n unigol â chaniatadau ac amodau gwahanol ar gyfer hawliau
Gwybodaeth am Drwyddedau ac Ailddefnyddio

Mae eitemau testun llawn sy'n cael eu hadneuo gyda Cronfa yn ddarostyngedig i hawlfraint. Oni nodir yn wahanol, mae'r holl hawliau wedi'u cadw, ac ni chaniateir defnyddio eitemau ond yn unol â deddfwriaeth hawliau genedlaethol. Gall defnyddwyr wneud copi sengl at ddiben ymchwil anfasnachol neu astudio preifat, o fewn terfynau delio'n deg o dan yr eithriad i hawlfraint a gynhwysir yn adran 29 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.

Caiff y cyhoeddwr, neu ddeiliaid hawliau eraill, ganiatáu atgynhyrchu neu ailddefnyddio'r fersiwn testun llawn ymhellach. Trwyddedau Creative Commons (CC) fel arfer yw'r trwyddedau a ddefnyddir yn amlaf ar gyfer cynnwys Mynediad Agored.

Y trwyddedau CC mwyaf poblogaidd ar gyfer allbynnau ymchwil mynediad agored:

Attribution (CC BY)
Mae'r drwydded hon yn caniatáu i ddefnyddwyr ddefnyddio eitem mewn unrhyw ffordd, gan gynnwys yn fasnachol, ar yr amod eu bod yn cydnabod crëwr y gwaith gwreiddiol.

Attribution-NonCommercial (CC BY-NC)
Mae'r drwydded hon yn caniatáu i ddefnyddwyr ddefnyddio eitem mewn unrhyw awlfraint

ffordd, ar yr amod eu bod yn cydnabod crëwr y gwaith gwreiddiol. Rhaid bod eu gwaith yn anfasnachol.

Attribution-NonCommercial-NoDerivs (CC BY-NC-ND)
Mae'r drwydded hon yn caniatáu i ddefnyddwyr lawrlwytho a rhannu eitem heb wneud unrhyw addasiadau. Rhaid iddynt gydnabod y crëwr ac ni chaniateir iddynt ddefnyddio'r gwaith at ddiben masnachol.

Mae trwyddedau CC eraill ar gael ar eu gwefan: https://creativecommons.org/licenses/

Lle bo cofnodion yn nodi mai'r cyhoeddwr yw deiliad yr hawlfraint, gall defnyddwyr wirio unrhyw delerau penodol ar wefan y cyhoeddwr.

 

CC0
To the extent possible under law, Swansea University Library has waived all copyright and related or neighboring rights to the metadata in Cronfa Swansea University Repository. This work is published from: United Kingdom.

Cronfa record metadata is made available under a Creative Commons CC0 Public Domain License.
The repository is an online archive and is not a publisher.