iFind, sef catalog y llyfrgell, yw’r brif ffordd o chwilio am adnoddau a ddarperir gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe.
Mae'r rhestr ddarllen ar gyfer eich modiwl yn ffynhonnell hanfodol o ddeunydd adolygu. Gallwch ddod o hyd i restr ddarllen eich modiwl drwy chwilio iFindReading neu fynd i adran rhestr ddarllen Canvas.
Mae gan Lyfrgell y Bae ardal ganolog o lyfrau a gofod astudio ac adenydd Gogledd a De gyda lle astudio ychwanegol. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, a gallwch weld y rhif galw ar feingefn pob llyfr.
Edrychwch ar ein canllawiau ar sut i ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell, i chwilio am adnoddau.
Lleoliadau Llyfrau yn Llyfrgell y Bae
Lleolir llyfrau yn ardal ganolog Llyfrgell y Bae. Y prif amrediad o farciau dosbarth ar gyfer llyfrau busnes a rheolaeth yw HF. Dyma rai enghreifftiau o farciau dosbarth a phenawdau pwnc defnyddiol:
Nod Dosbarth | Penawdau Pwnc |
HF5001-HF6182 | Rheoli busnes, cyfrifeg, hysbysebu, marchnata e-fasnach a phynciau cysylltiedig eraill |
HF5549-HF5549.5 |
Rheoli personél |
HF5601-HF5689 |
Cyfrifeg |
Cliciwch ar y botwm isod i weld rhestr o'n holl gronfeydd data e-lyfrau. Mireiniwch eich chwiliad ymhellach trwy ddewis Pwnc o'r gwymplen.
LibraryPlus - Cefnogaeth ychwanegol i'ch astudiaethau
Rydym wedi cynllunio'n arbennig nifer o wasanaethau, o'r enw LibraryPlus, sy'n gallu gwneud eich bywyd fel myfyriwr yn hawsach.
Pwy sy'n gallu defnyddio LibraryPlus? Pob myfyriwr, yn enwedig:
Ewch i'r wefan LibraryPlus am fwy o wybodaeth