Mae'r canllaw hwn yma i'ch helpu i ddod o hyd i'r adnoddau bydd eu hangen arnoch i ymchwilio i'r cyfnod canoloesol. Rhowch gipolwg ar bob un o'r adrannau ac e-bostiwch dîm y llyfrgell os bydd angen cymorth arnoch - artslib@abertawe.ac.uk. Gallwch gael sgwrs â ni ar-lein hefyd!
(Llun - Tournament with ladies watching, BL Additional 12228 ff. 214v-215)
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Helo, ni yw Sean Barr, Bernie Williams, Jill Morris Siân Neilson a Carine Harston ac rydym yma i’ch helpu i ddod o hyd i wybodaeth, i ddefnyddio cronfeydd data, cyfeirnodi ac unrhyw beth arall sy’n ymwneud â’r llyfrgell.
Mae’r Brifysgol yn cynllunio ar gyfer dychwelyd i’w champysau ac ailagor gwasanaethau gan roi’r flaenoriaeth uchaf i iechyd a diogelwch myfyrwyr a staff. Yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth Cymru a rheolwyr y Brifysgol, mae staff y Llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Adrannau Iechyd a Diogelwch ac Ystadau i gynllunio proses ddychwelyd ddiogel, fesul cam, a fydd yn ein galluogi i sicrhau pellter cymdeithasol o ddau fetr, mannau hylif diheintio dwylo a chyn lleied o gyswllt â phosib wrth ddarparu gwasanaethau. Edrychwch ar ein tudalen we i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf.
Dyma restr o’r cronfeydd data sy’n berthnasol i fyfyrwyr Astudiaethau Canoloesol. Archwiliwch yr a-z neu edrychwch ar y tudalennau canlynol ar gyfer mwy o gyfarwyddyd i’r cronfeydd data. Os ydych chi’n clicio ar ‘edrych ar fwy o ganlyniadau’ gallwch archwilio ein holl gronfeydd data, derbyn mynediad i ddisgrifiadau cronfa data a hidlo drwy’r math o gronfa ddata.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.