Pa wasanaethau Llyfrgell a chymorth TG sydd bellach ar gael?

Dylai myfyrwyr a chydweithwyr manteisio ar adnoddau a gwasanaethau cymorth yn electronig lle bynnag y bo modd. Mae ein canllaw i'r Llyfrgell ar-lein ar gael ac mae'n darparu gwybodaeth am fanteisio ar adnoddau electronig a chymorth gan Wasanaethau Cwsmeriaid a Llyfrgellwyr Pwnc. Mae gwybodaeth am ofyn am gymorth TG gan y Tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid ar gael ar ein tudalen Cymorth a Chefnogaeth.

Sylwer y gall oriau gwasanaeth newid ar fyr rybudd i ymateb i ofynion Llywodraeth Cymru a thîm Rheoli'r Brifysgol. Ewch i'r tudalennau oriau agor am y manylion diweddaraf.

Cais a Chasglu

Os oes angen adnodd argraffedig arnoch ac os nad oes ffordd arall o gael gafael arno, gallwch ddefnyddio ein Gwasanaeth Cais a Chasglu i archebu eitem o Gatalog y Llyfrgell a'i chasglu o'r Llyfrgell o'ch dewis. Mae adalwadau pellach wedi'u troi bant felly ni fydd angen i ddefnyddwyr pryderi am ddychwelyd eitemau sydd wedi'u hadalw tra nad ydynt yn gallu dod i’r campws. Ewch i'r tudalennau Oriau Agor i gael y manylion diweddaraf am bob llyfrgell.

Neilltuo Lleoedd Astudio

I ddefnyddio gweithfannau cyfrifiadur personol a lleoedd astudio yn llyfrgelloedd Campws y Bae a Pharc Singleton, mae angen archebu ymlaen llaw. Mae manylion llawn a dolen i'r dudalen archebu ar gael ar y dudalen Archebu lle astudio/cyfrifiadur yn y llyfrgell.

Casglu cardiau adnabod

Gall myfyrwyr gasglu cardiau adnabod o'r desgiau gwybodaeth yn llyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton, gan ddibynnu ar ba gampws mae eich cwrs wedi'i leoli. Os nad ydych yn dod i'r campws ar hyn o bryd i weithio neu astudio, gofynnir i chi beidio â dod i gasglu cerdyn.

Gwasanaethau Cyflenwi/Sganio Dogfennau

Mae manylion llawn am y gwasanaeth ar gael yng nghanllaw'r Llyfrgell i Gyflenwi Dogfennau.

Y Ganolfan Drawsgrifio

Mae’r Canolfan Drawsgrifio ar agor i fyfyrwyr y mae angen fformatau hygyrch arnynt.

Benthyca gliniaduron

Mae gliniaduron ar gael i'w benthyca o lyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton. Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr yn y Colegau i flaenoriaethu myfyrwyr ag anawsterau ariannol neu amgylchiadau esgusodol eraill. Cysylltwch â thimau Ymgysylltu â Myfyrwyr neu Weinyddol eich Coleg yn y lle cyntaf i ofyn am fenthyca gliniadur. Byddant yn cadarnhau eich angen ac yn cysylltu â staff y Llyfrgell. Mae 72 o loceri hunanwasanaeth newydd wedi cael eu gosod yn llyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton yn ddiweddar a bydd benthyciadau gliniadur hunanwasanaeth ar gael yn fuan iawn.

Mynediad o bell at gyfrifiaduron y Brifysgol

Gall myfyrwyr gael mynediad o bell at dros 2000 o gyfrifiaduron y Brifysgol bellach. Mae manylion llawn a chyfarwyddiadau cysylltu ar gael ar y dudalen gwasanaeth mynediad o bell at gyfrifiaduron.