Mae’r wythnos hon yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Bwyta. Gall anhwylderau bwyta effeithio ar bobl o bob rhywedd, oed, ethnigrwydd, neu gefndir, ac maent yn salwch meddwl difrifol. Os ydych chi’n pryderu am eich hun neu am rywun arall, gallwch chi dderbyn gwybodaeth a chefnogaeth ar wefan Beat gan gynnwys Mathau o anhwylderau bwyta, Adfer, Gwasanaethau Cymorth, a Chefnogi Rhywun. Hefyd, mae adran sy’n sôn am anhwylderau bwyta yn ein Casgliad Lles o lyfrau hunan-gymorth. Os yw pethau’n anodd i chi ar hyn o bryd, darllenwch dudalennau Gwasanaeth Lles y Brifysgol ar gyfer cyngor a chymorth.
Wythnos Ymwybyddiaeth am Anhwylderau Bwyta, 1af i 7fed Mawrth 2021
03/02/2021
Philippa Price
No Subjects
No Tags