Cydweithredodd Llyfrgell Prifysgol Abertawe gydag Undeb y Myfyrwyr i ofyn i fyfyrwyr awgrymu teitlau y dylent gael eu hychwanegu at y Llyfrgell sy’n adlewyrchu dadwladychu, amrywiaeth, llesiant, a lles. Roedd 27 o’r teitlau a awgrymwyd ar gael i’w prynu o gyllideb y Llyfrgell ar ffurf e-lyfrau. Prynwyd copïau papur o’r rhain a nifer ychwanegol o deitlau nad oeddent ar gael yn electronig gan Undeb y Myfyrwyr i’w cadw yn y Llyfrgelloedd ar Gampws Parc Singleton ac ar Gampws y Bae. Mae’n bleser gan y Llyfrgell gyhoeddi y bydd yn cynnal ymgynghoriad pellach â myfyrwyr yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf i adnabod mwy o deitlau yn y maes hwn.
Mae hyn wedi bod yn rhan o brosiect parhaus i sicrhau amrywiaeth yn ein casgliad y Llyfrgell. Cewch ragor o wybodaeth ar ein tudalennau Amrywio Casgliadau’r Llyfrgell.
Teitlau E-lyfrau sydd bellach ar gael trwy gatalog y Llyfrgell: