We are trialling Box of Broadcasts aka BoB until the end of July. You can access BoB from the Online Library guide on the database tab or from iFind. BoB provides access to a range of radio and TV stations. You can record upcoming shows or search the archive of material. The best way to start is using the search function. This searches titles, metadata and transcripts. You can watch privately, use for teaching and create clips.
We also have access to Planet Estream which contains a TV & Radio Archive. You can access it from this link https://mrclabsestream.swan.ac.uk/ and you will need to click on Anonymous User and logout and then login with your normal login details. Click on the Create button and then the TV & Radio archive to explore the content. You can keyword search titles and transcripts where available. You will need to download content to the Swansea Planet eStream to play it.
We are very keen for feedback on both of these services as we look to provide the best and most suitable resources to support the University. Please email any comments to artslib@swansea.ac.uk
___________________________________________________________________________________________________
Rydyn ni’n treialu Box of Broadcasts (BoB) tan ddiwedd mis Gorffennaf. Gallwch chi gyrchu BoB o’r Canllaw Llyfrgell Ar-lein ar y tab cronfa ddata neu drwy iFind. Mae BoB yn rhoi mynediad at ystod o orsafoedd radio a theledu. Gallwch chi recordio sioeau a fydd yn cael eu darlledu neu chwilio’r deunyddiau yn yr archifau. Y ffordd orau o ddechrau yw trwy ddefnyddio’r swyddogaeth chwilio. Mae hyn yn chwilio am deitlau, metaddata a thrawsgrifiadau. Gallwch chi wylio mewn preifat, ei ddefnyddio at ddibenion addysgu a chreu clipiau.
Mae hefyd gennym ni fynediad at Planet Estream sy’n cynnwys Archifau Teledu a Radio. Gallwch chi gyrchu hyn trwy ddilyn y ddolen hon https://mrclabsestream.swan.ac.uk/ a bydd angen i chi glicio ar ddefnyddiwr dienw a allgofnodi ac yna mewngofnodi gyda'ch manylion mewngofnodi arferol. Cliciwch ar y botwm ‘Create’ ac yna ar yr archif Teledu a Radio er mwyn archwilio’r cynnwys. Gallwch chi chwilio gan ddefnyddio geiriau allweddol mewn teitlau a thrawsgrifiadau lle bod modd. Bydd angen i chi lawrlwytho cynnwys i Planet Estream Abertawe er mwyn ei chwarae.
Rydyn ni’n awyddus iawn i dderbyn adborth ar y ddau wasanaeth hwn wrth i ni geisio darparu’r adnoddau gorau a mwyaf priodol er mwyn cefnogi’r Brifysgol. E-bostiwch eich sylwadau i artslib@abertawe.ac.uk