Daw’r llun diolch i https://www.bbc.co.uk/
Ydych chi wedi gorffen eich arholiadau?... Ydych chi’n chwilio am adloniant ysgafn?... Ydych chi wedi diflasu ar Netflix ac Amazon Prime?... Gall y Llyfrgell helpu!
Rydyn ni’n cynnig mynediad at 3 phlatfform ffrydio fideos AM DDIM gwych:
- AVON: Academic Video Online yn darparu mynediad diderfyn at dros 80,000 o fideos gan gynnwys rhaglenni dogfen, cyfweliadau, recordiadau maes a ffilmiau. Mae isdeitlau ar gael ar gyfer yr holl fideos, yn ogystal â thrawsgrifiadau parhaol. Gall defnyddwyr e-bostio fideos, eu hymgorffori yn Canvas a chreu clipiau fideo.
- Mae Kanopy yn wasanaeth ar-lein i ffrydio ffilmiau a rhaglenni dogfen. Mae'n cynnwys rhaglenni dogfen poblogaidd, enillwyr ac enwebeion Oscar, ffilmiau bytholwyrdd a ffilmiau annibynnol. Gall defnyddwyr ym Mhrifysgol Abertawe gael mynediad llawn at ddwsinau o ffilmiau a brynwyd gan y Llyfrgell at ddiben addysgu. Byddwch yn gweld y ffilmiau hyn ar ôl i chi fewngofnodi a gallwch chi eu cyrchu o unrhyw ddyfais, gan gynnwys cyfrifiadur a dyfeisiau IOS ac Android.
- Box of Broadcasts (BoB) - llyfrgell enfawr o dros 2 filiwn o raglenni teledu a radio a ffilmiau nodwedd sydd wedi'u darlledu gan y BBC, ITV, Ch4, Ch5 a dros 70 o sianeli eraill. Creu rhestri chwarae i wylio yn hwyrach neu olygu clipiau a'u hymgorffori yn eich cyflwyniadau.