Mae Knovel yn darparu cyfeiriad cyffredinol a chipolwg ar arferion gorau, cymwysiadau prosesu a dylunio, data o briodoleddau deunydd a sylwedd, a hafaliadau ar gyfer disgyblaethau peirianneg penodol.
Casgliad o wybodaeth cyfeirnodi peirianneg, awdurdodol sydd yn cael ei ddiweddaru yn rheolaidd.
Mae safonau'n diffinio arfer gorau mewn llawer o feysydd gwahanol. Maent yn cael eu rhoi at ei gilydd gan grwpiau o arbenigwyr ac yn dod mewn nifer o wahanol fathau, o set o ddiffiniadau i gyfres o reolau llym.
I weld dogfennau Safonau Prydeinig ar-lein bydd angen i chi lawrlwytho ac agor y ffeil PDF mewn darllenydd PDR megis Adobe Reader. Hefyd, gofynnir i chi lawrlwytho a gosod yr ategyn FileOpen am fod hyn yn diogelu’r dogfennau.
Os byddwch yn dod ar draws unrhyw broblemau wrth agor y safon, ceisiwch agor o'ch ffolder Lawrlwythiadau, trwy dde-glicio (neu ddefnyddio bysell Command ar iOS) a dewis "Open with Adobe Acrobat Reader".
Mae IEEE Xplore yn gronfa ddata testun llawn sy'n rhoi mynediad i holl gyfnodolion a'r rhan fwyaf o bapurau cynhadledd yr IEEE - sy'n ddefnyddiol i fyfyrwyr peirianneg drydanol, cyfrifiadureg ac electroneg.
Os ydych yn cyrchu MarketLine oddi ar y campws, bydd angen i chi glicio 'Shibboleth' ar y dudalen mewngofnodi ac yna dewis Prifysgol Abertawe fel eich sefydliad.