Skip to Main Content

Ieithoedd Modern, Cyfieithu ac Astudiaethau Dehongli

This page is also available in English

Hanfodion llyfrgell MyUni - Ymchwilio

Mae Hanfodion Llyfrgell MyUni yn cynnwys adran ar Ymchwil. Dilynwch y ddolen isod i ddysgu sut i gynllunio strategaeth chwilio a chynnal eich chwiliad. (Mae angen i chi fewngofnodi i Canvas i gael mynediad i'r ddolen.)

Awgrymiadau chwilio

Allweddeiriau

  • Chwiliwch am yr allweddeiriau. Peidiwch â theipio brawddeg hir
  • A oes cyfystyron neu dermau cysylltiedig (ehangach neu fwy penodol) a allai fod yn berthnasol?

Cynyddu nifer y canlyniadau

  • Gallwch ddefnyddio symbol cwtogi (seren * fel arfer) i ddod o hyd i derfyniadau gwahanol ar gyfer eich allweddair. Er enghraifft byddai chwilio am darllen* yn dangos canlyniadau am darllen, darllenwyd, darllenadwy ayyb.
  • Gallwch chwilio am dermau amgen ar yr un pryd drwy eu cysylltu â'r gair or; er enghraifft, gallwch chwilio am adolescent or teenager.

Lleihau nifer mawr o ganlyniadau

  • Os oes gennych ormod o ganlyniadau, rhowch gynnig ar chwilio ar sail y teitl yn unig yn hytrach na'r cofnod llawn. Dylech gael llai o ganlyniadau a rhai mwy perthnasol.
  • Defnyddiwch ddyfynodau os hoffech i'ch termau chwilio ymddangos fel ymadrodd:  er enghraifft, “deallusrwydd artiffisial”.  
  • Defnyddiwch yr opsiynau hidlo ar ochr tudalen y canlyniadau er mwyn gwneud eich chwiliad yn fwy penodol.

Mae gwerthuso eich ffynonellau yn feirniadol yn elfen hanfodol o unrhyw chwiliad llenyddiaeth. Mae angen i chi ystyried a yw eich ffynonellau'n:

  • Dibynadwy
  • Digon academaidd
  • Diduedd

Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi eich hun am yr wybodaeth rydych wedi dod o hyd iddi.

Pwy?

  • Pwy yw'r awdur neu sefydliad sy'n gyfrifol am yr wybodaeth?
  • A ydynt yn gymwys i ysgrifennu ar y pwnc hwn?

Pryd?

  • A yw'r wybodaeth yn gyfredol?
  • A ydyw o bwys?

Pa fath o wybodaeth?

  • Ai barn neu ffaith ydyw?
  • A yw'n ddibynadwy ac yn annibynnol?
  • A yw'n canolbwyntio ar ymchwil/academaidd neu'n fasnachol?

Sage Research Methods

Cymorth Ymchwil a Mynediad Agored

Mae'r cwrs Ôl-raddedig hwn yn cynnwys dolenni i wybodaeth sy'n ddefnyddiol i chi fel Ôl-raddedig, gan gynnwys Canllawiau Llyfrgell a ffynonellau allanol. Mae'n gweithio orau trwy lywio i'r adran y mae angen gwybodaeth arnoch amdani, er bod yna lawer o ddolenni defnyddiol yn yr adran Cymorth hefyd. Defnyddiwch y canllaw hwn i'ch helpu drwy gydol eich gyrfa ôl-raddedig.