Skip to Main Content

Ieithoedd Modern, Cyfieithu ac Astudiaethau Dehongli

This page is also available in English

iFind, Catalog y Llyfrgell

Chwiliad Uwch

Methu dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch?

Eich rhestr ddarllen

Link to iFind Reading

Mae'r rhestr ddarllen ar gyfer eich modiwl yn ffynhonnell hanfodol o ddeunydd adolygu. Gallwch ddod o hyd i restr ddarllen eich modiwl drwy chwilio iFindReading neu fynd i adran rhestr ddarllen Canvas.

Dod o hyd i'ch llyfrau

Mae'r Llyfrgell a Chanolfan Gwybodaeth ar Gampws Parc Singleton ar 4 llawr ac mae wedi'i rhannu'n adenydd y Dwyrain a'r Gorllewin. Rydych yn mynd i mewn i'r Llyfrgell ar lefel 3 yn Adain y Gorllewin. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, a gallwch weld y rhif galw ar feingefn pob llyfr. 

Edrychwch ar ein canllawiau ar sut i ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell, i chwilio am adnoddau.

Lleoliadau Llyfrau yn Llyfrgell Parc Singleton

Mae'r rhan fwyaf o'r llyfrau a’r cyfnodolion a ddefnyddir gan fyfyrwyr Ieithoedd Modern, Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd yn bennaf ar farc dosbarth P ar lefel 1 ochr orllewin Llyfrgell Parc Singleton.

Mae darllen cefndirol ar Hanes, Cymdeithas a Diwylliant Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen ac America Ladin ar ochr orllewin Lefel 2 gyda marciau dosbarth DC, DD, DG, and DP ac F yn eu trefn.

Dyma enghreifftiau o farciau dosbarth a phenawdau pwnc defnyddiol:

Marciau dosbarth Penawdau pwnc Lleoliad
PC2001-3761 Iaith Ffrangeg Lefel 1 Adain y Gorllewin
PN1993 Ffilmiau Ffrangeg Lefel 1 Adain y Gorllewin
PQ1-3999 Llenyddiaeth Ffrangeg Lefel 1 Adain y Gorllewin
PF Iaith Almaeneg Lefel 1 Adain y Gorllewin
PN1993 Ffilmiau Almaeneg Lefel 1 Adain y Gorllewin
PT Llenyddiaeth Almaeneg Lefel 3 Adain y Dwyrain
PC1001-1977 Iaith Eidaleg Lefel 1 Adain y Gorllewin
PN1993 Ffilmiau Eidaleg Lefel 1 Adain y Gorllewin
PQ4001-5999 Llenyddiaeth Eidaleg Lefel 1 Adain y Gorllewin
PC4001-4977 Iaith Sbaeneg Lefel 1 Adain y Gorllewin
PN1993 Ffilmiau Sbaeneg Lefel 1 Adain y Gorllewin
PQ6001-8999 Llenyddiaeth Sbaeneg ac America Ladin Lefel 1 Adain y Gorllewin
P306 - P308 Astudiaethau Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd Lefel 1 Adain y Gorllewi

Mae'r rhan fwyaf o'r geiriaduron iaith cyffredinol yn y rhifau canlynol:

Saesneg PE279 - PE3727
Arabeg PJ6640
Tsieinëeg PL1145 – PL1488
Ffrangeg PC2075 – PC3747
Almaeneg PF3120-PF4327
Groeg PA1139
Eidaleg PC1130-PC1977
Pwyleg PG6640
Portiwgaleg PC5145 – PC5335
Rwsieg PG2127-PG2693
Sbaeneg PC4031 – PC4797
Y Gymraeg PB2190-PB2194

 

 

 

 

 

 

 

 

Mae geiriaduron busnes yn HB61, HD, HF1001-1002. Bancio a chyllid  - HG151. Termau rheoli - HD30.15

Mae geiriaduron gwyddoniaeth a thechnoleg yn Q, R, a T, (h.y. termau cyfrifiadura yn QA76.15, termau biolegol - QH, peirianneg awyrofod - TL509, termau meddygol - R121).

Mae'r geiriaduron cyfreithiol yn K120, yn Llyfrgell y Gyfraith ar adain ddwyreiniol Lefel 4.
 

Mae llyfrau cyfeirio'n aml yn ddefnyddiol iawn wrth ddechrau chwilio am wybodaeth am bwnc. Mae'r rhestr ddarllen isod yn cynnwys llawer o gyfeirlyfrau sy'n ddefnyddiol ar gyfer Ieithoedd Modern, Astudiaethau Cyfieithu a Chyfieithu ar y Pryd:

Casgliadau E-Lyfrau

Cliciwch ar y botwm isod i weld rhestr o'n holl gronfeydd data e-lyfrau. Mireiniwch eich chwiliad ymhellach trwy ddewis Pwnc o'r gwymplen.

Cliciwch yma am gronfeydd data e-lyfrau

LibraryPlus

LibraryPlus - Cefnogaeth ychwanegol i'ch astudiaethau 

Rydym wedi cynllunio'n arbennig nifer o wasanaethau, o'r enw LibraryPlus, sy'n gallu gwneud eich bywyd fel myfyriwr yn hawsach.

Pwy sy'n gallu defnyddio LibraryPlus? Pob myfyriwr, yn enwedig:

  • Myfyrwyr rhan-amser
  • Myfyrwyr bellter
  • Myfyrwyr yn y gweithle
  • Myfyrwyr sydd ar leoliad (e.e. Gwyddor Iechyd)
  • Myfyrwyr Anabl
  • Gofalwyr​

Ewch i'r wefan LibraryPlus am fwy o wybodaeth