Mae Hanfodion Llyfrgell MyUni yn cynnwys adran ar Ymchwil. Dilynwch y ddolen isod i ddysgu sut i gynllunio strategaeth chwilio a chynnal eich chwiliad. (Mae angen i chi fewngofnodi i Canvas i gael mynediad i'r ddolen.)
Allweddeiriau
Cynyddu nifer y canlyniadau
Lleihau nifer mawr o ganlyniadau
Mae gwerthuso eich ffynonellau yn feirniadol yn elfen hanfodol o unrhyw chwiliad llenyddiaeth. Mae angen i chi ystyried a yw eich ffynonellau'n:
Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi eich hun am yr wybodaeth rydych wedi dod o hyd iddi.
Pwy?
Pryd?
Pa fath o wybodaeth?
Mae nifer o restrau gwirio a all eich helpu pan ddaw i werthuso'ch ffynonellau'n feirniadol.
Defnyddiwch Sage Research Methods i ddysgu am ddulliau ymchwil gwahanol, dod o hyd i astudiaethau achos a defnyddio adnoddau ystadegol.
Cynnwys
Mynediad at gannoedd o e-lyfrau ar ddulliau a methodoleg ymchwil. Hefyd ceir podlediadau a fideos i esbonio rhai cysyniadau.
Adnoddau
Mae nifer o adnoddau i'ch helpu gyda'ch prosiect ymchwil neu'ch traethawd hir:
Dechreuwch ystyried eich termau chwilio allweddol drwy nodi'r cysyniadau allweddol yn eich cwestiynau ymchwil ac yna ystyried cyfystyron, termau cysylltiedig, sillafiadau gwahanol, talfyriadau, termau mwy penodol a chyffredinol y gallai awdur neu awduron fod wedi'u defnyddio i drafod y pwnc.
Gall fframweithiau cwestiynau ymchwil eich helpu i lunio'ch cwestiwn ymchwil a nodi cysyniadau ar gyfer eich adolygiad llenyddiaeth strwythuredig neu ymchwil empirig.
Rydym wedi rhestru ychydig o fframweithiau cwestiynau ymchwil yma ond mae llawer mwy. Os nad yw'ch pwnc yn cyd-fynd â fframwaith gallwch hefyd wahanu'ch pwnc yn wahanol gysyniadau chwilio.
Gall y fframwaith PICO eich helpu i lunio'ch cwestiwn ymchwil a nodi cysyniadau ar gyfer chwiliad meddygol/clinigol. Fe'i defnyddir yn helaeth mewn adolygiadau systematig ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Cwestiwn enghreifftiol: A yw'r defnydd o olchi dwylo yn lleihau'r risg o heintiau a gafwyd yn yr ysbyty.
Problem/Claf/Poblogaeth | Pwy neu beth yw canolbwynt eich ymchwil | Hospital acquired infection |
Ymyriad (Intervention) | Pa ymyrraeth neu driniaeth ydych chi'n ymchwilio iddi | Golchi dwylo |
Cymhariaeth | A ydych yn cymharu'r ymyrraeth hon (nid yw bob amser yn angenrheidiol) | Geliau llaw neu sanitizers |
Canlyniad (Outcome) | Pa effaith mae'r ymyrraeth hon yn ei chael | Lleihau heintiau |
Gall y fframwaith PEO eich helpu i fframio cwestiwn ymchwil ansoddol.
Cwestiwn enghreifftiol: Sut mae Alzheimer yn effeithio ar ansawdd bywyd y gofalwr
Poblogaeth | Pwy yw canolbwynt eich ymchwil | Rhoddwyr gofal |
Amlygiad (Exposure) | Beth yw'r mater sydd o ddiddordeb i chi | Alzheimer's |
Canlyniad (Outcome) | Y canlyniadau rydych chi am eu harchwilio | Ansawdd bywyd |
Gall fframwaith SPICE eich helpu i lunio'ch cwestiwn ymchwil a nodi cysyniadau ar gyfer chwiliad Gwyddorau Cymdeithasol neu ofal iechyd.
Cwestiwn enghreifftiol: Mewn cymunedau incwm isel yn y DU, sut mae mynediad i fannau gwyrdd yn effeithio ar les meddyliol
Lleoliad (Setting) | Lleoliad yr astudiaeth | DU |
Persbectif/Poblogaeth | Y grŵp rydych chi'n ei astudio | Cymunedau incwm isel |
Ymyrraeth / Diddordeb, o ffenomen (Intervention/Interest, of Phenomenon) |
Pa ymyrraeth neu driniaeth ydych chi'n ymchwilio iddi | Mynediad i fannau gwyrdd |
Cymhariaeth | A ydych yn cymharu'r ymyrraeth hon (nid yw bob amser yn angenrheidiol) | Dim mynediad i fannau gwyrdd |
Gwerthusiad (Evaluation) | Beth yw'r canlyniadau | A yw'n effeithio ar iechyd meddwl |
Booth, A. (2004). Formulating answerable questions. Yn A. Booth & A. Brice (Arg.), Evidence based practice for information professionals: A handbook (tt. 61-70). Facet Publishing.
Gall y fframwaith SPIDER eich helpu i lunio'ch cwestiwn ymchwil a nodi cysyniadau ar gyfer chwiliad Gwyddorau Cymdeithasol neu ofal iechyd, ac mae'n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cwestiynau ymchwil ansoddol neu ddull cymysg.
Cwestiwn eghreifftiol: Beth yw profiadau rhieni ifanc o fynychu addysg cynenedigol? (Cooke et al., 2012)
Sampl | Grŵp o bobl rydych chi'n ymchwilio iddyn nhw | Rhieni ifanc |
Ffenomen o ddiddordeb (Phenomenon of Interest) | Beth sy'n cael ei ymchwilio | Profiad o addysg cynenedigol |
Cynllun (Design) | Dulliau ymchwil a ddefnyddir | Holiaduron neu gyfweliadau |
Gwerthusiad (Evaluation) | Pa ganlyniadau sy'n cael eu mesur | Sylwadau neu brofiadau |
Math o ymchwil (Research type) | Beth yw'r math o ymchwil | Ansoddol |
Cooke, A., Smith, D., & Booth, A. (2012). Beyond PICO: The SPIDER tool for qualitative evidence synthesis. Qualitative Health Research, 22(10), 1435-1443.
Mae'r cwrs Ôl-raddedig hwn yn cynnwys dolenni i wybodaeth sy'n ddefnyddiol i chi fel Ôl-raddedig, gan gynnwys Canllawiau Llyfrgell a ffynonellau allanol. Mae'n gweithio orau trwy lywio i'r adran y mae angen gwybodaeth arnoch amdani, er bod yna lawer o ddolenni defnyddiol yn yr adran Cymorth hefyd. Defnyddiwch y canllaw hwn i'ch helpu drwy gydol eich gyrfa ôl-raddedig.