Skip to Main Content
Dod o hyd i Ddata ac Ystadegau
InfoBase Cymru
Mae InfoBase Cymru’n cynnig mynediad rhwydd i amrediad eang o wybodaeth am Gymru.
Nomis This link opens in a new window
Mae Nomis yn wasanaeth a ddarperir gan y ONS, sy'n rhoi mynediad rhad ac am ddim i'r ystadegau mwyaf manwl a diweddaraf am farchnad lafur y DU gan ffynonellau swyddogol.
Swyddfa Ystadegau Gwladol This link opens in a new window
Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yw safle ystadegau swyddogol y Deyrnas Unedig ar gyfer ystadegau iechyd, addysg, materion cymdeithasol, economeg, masnach a llafur, a holl feysydd polisi'r llywodraeth, gan gynnwys Cyfrifiad 2021.
StatsCymru This link opens in a new window
Mae StatsCymru yn wasanaeth ddi-dâl i’w ddefnyddio, sy'n caniatáu i chi weld, defnyddio, creu a lawr lwytho tablau data ar gyfer Cymru.
Data Cymru - Ward Profile
This "beta" release Ward Profile dashboard allows you to find information about your ward from the 2021 Census.
Proffil Wardiau a Sirol Sir Gaerfyrddin
Mae proffîl unigol ar gyfer y 58 ward wedi cael ei baratoi. Mae'r proffîl yn crynhoi rhai o brif nodweddion pob ward ynghyd â gwybodaeth leol.
Proffil Wardiau Castell-nedd Port Talbot
Ar hyn o bryd nid oes gan Cyngor Castell-nedd Port Talbot proffil wardiau ar eu wefan. Ewch i wefan NOMIS a chwiliwch trwy ddefnyddio eich côd post.
Proffil Wardiau Ceredigion
Ar hyn o bryd nid oes gan Cyngor Sir Ceredigion proffil wardiau ar eu wefan. Ewch i wefan NOMIS a chwiliwch trwy ddefnyddio eich côd post.
Proffil Wardiau Cyngor Sir Penfro
Ar hyn o bryd nid oes gan Cyngor Sir Penfro proffil wardiau ar eu wefan. Ewch i wefan NOMIS a chwiliwch trwy ddefnyddio eich côd post.
Profiliau Wardiau Abertawe
Mae proffiliau ward yn cyfuno amrywiaeth o wybodaeth ystadegol allweddol a gwybodaeth arall am bob ward etholiadol yn Abertawe.
Data Cymru - Proffil Ward
Mae'r dangosfwrdd Proffil Ward "beta" hwn yn eich galluogi i ddod o hyd i wybodaeth am eich ward o Gyfrifiad 2021.
Swyddfa Ystadegau Gwladol - Proffil Ward
Cael data yn ôl gwahanol fathau o ardal, er enghraifft eich cymdogaeth, ward neu blwyf drwy ddefnyddio'r offeryn hwn i adeiladu proffil ardal arferiad.
Police.uk
Dyma wefan ar gyfer Cymru a Lloegr y gellwch ei defnyddio i ddysgu mwy am eich cymdogaeth.
Heddlu De Cymru
Gallwch ddod o hyd i gysylltiadau heddlu lleol ar gyfer eich ward a beth yw'r blaenoriaethau plismona yn yr ardal hon.
Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu gwybodaeth a data i rai sy’n gwneud penderfyniadau a’r cyhoedd ar faterion iechyd. Yn gweithio gyda phartneriaid lleol a chenedlaethol i wella iechyd a gwasanaethau iechyd, a lleihau anghydraddoldebau iechyd.
Asesiadau Llesiant Lleol
Linciau at Asesiadau Llesiant Lleol ar gyfer 19 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.
Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Cymru
Mae'n cynnwys set gynhwysfawr o wybodaeth am iechyd, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Maent yn cwmpasu ystod eang o bynciau yn cynnwys gweithgaredd GIG sylfaenol a chymenudol, amseroedd aros, a staff y GIG.
Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau
Adroddiad blynyddol sy'n cynnwys gwybodaeth am berfformiad contractwyr a chydnabod arferion da.
European Sources Online This link opens in a new window
Mae European Sources Online (ESO) yn gronfa ddata ar-lein sy’n rhoi mynediad at wybodaeth ar sefydliadau a gweithgarwch yr Undeb Ewropeaidd, gwledydd, rhanbarthau a sefydliadau rhyngwladol eraill Ewrop, ac ar faterion pwysig i ddinasyddion a rhanddeiliaid Ewropeaidd. Mae ESO yn rhoi mynediad i filoedd o wefannau, dogfennau a chyhoeddiadau a ddetholwyd gan arbenigwyr o’r UE a sefydliadau rhyngwladol eraill, llywodraethau cenedlaethol, melinau trafod, sefydliadau rhanddeiliaid, papurau gwaith ayyb, erthyglau testun llawn o’r Financial Times ac European Voice. Ceir cofnodion llyfryddiaethol i werslyfrau academaidd allweddol ac erthyglau cyfnodol. Ceir hefyd gyfres o Ganllawiau Gwybodaeth wedi’u llunio gan Dîm Golygyddol ESO. Fe’i diweddarir yn ddyddiol.
EuroStat This link opens in a new window
Gelwir Swyddfa Ystadegau Cymunedau Ewrop yn Lwcsembwrg yn Eurostat. Nid yw Eurostat yn casglu data ei hun, ond mae'n casglu data o asiantaethau ystadegau gwladol yr aelod-wladwriaethau. Yna mae angen iddi sicrhau bod y data'n cyd-fynd fel y gellir gwneud cymariaethau ystyrlon ar draws sawl gwlad.
UK Data Service This link opens in a new window
Mae Gwasanaeth Data y Deyrnas Unedig yn adnodd cynhwysfawr a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), sy'n un pwynt mynediad at ystod eang o ddata eilaidd, gan gynnwys arolygon graddfa fawr y llywodraeth, macroddata rhyngwladol, microddata busnesau, astudiaethau ansoddol a data'r Cyfrifiad rhwng 1971 a 2011.
Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru
Rhith-sefydliad cenedlaethol, amlweddog yw Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ac mae’n cael ei ariannu a’i oruchwylio gan Is-adran Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd Llywodraeth Cymru. Mae’n darparu seilwaith i gefnogi a chynyddu gallu ym maes ymchwil a datblygu, yn rhedeg ystod o gynlluniau ariannu ymatebol ac yn rheoli dyrannu cyllid ymchwil a datblygu’r GIG.