iFind, sef catalog y llyfrgell, yw’r brif ffordd o chwilio am adnoddau a ddarperir gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe.
Mae'r rhestr ddarllen ar gyfer eich modiwl yn ffynhonnell hanfodol o ddeunydd adolygu. Gallwch ddod o hyd i restr ddarllen eich modiwl drwy chwilio iFindReading neu fynd i adran rhestr ddarllen Canvas.
Mae'r Llyfrgell a Chanolfan Gwybodaeth ar Gampws Parc Singleton ar 4 llawr ac mae wedi'i rhannu'n adenydd y Dwyrain a'r Gorllewin. Rydych yn mynd i mewn i'r Llyfrgell ar lefel 3 yn Adain y Gorllewin. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, a gallwch weld y rhif galw ar feingefn pob llyfr.
Mae'r Ganolfan Adnoddau Dysgu @ Parc Dewi Sant ar y llawr cyntaf. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, a gallwch weld y rhif galw ar feingefn pob llyfr.
Edrychwch ar ein canllawiau ar sut i ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell, i chwilio am adnoddau.
Lleoliadau Llyfrau
Mae llyfrau a chyfnodolion Gwyddorau Iechyd yn bennaf ar y nod dosbarth R ar Lefel 2 Dwyrain Llyfrgell Parc Singleton ac yn y Ganolfan Adnoddau Dysgu @ Parc Dewi Sant. Rhai enghreifftiau o nodau dosbarth a phenawdau pwnc defnyddiol:
Nod Dosbarth | Penawdau Pwnc | Lleoliad |
QP34 | Ffisioleg Dynol | Lefel 2 Dwyrain |
RA971 | Arweinyddiaeth mewn Gofal Iechyd | Lefel 2 Dwyrain |
RC89 | Meddygaeth Frys | Lefel 2 Dwyrain |
RC440 | Iechyd Meddwl mewn Gofal Iechyd | Lefel 2 Dwyrain |
RG950 | Bydwreigiaeth | Lefel 2 Dwyrain |
RM701 | Therapi Llaw | Lefel 2 Dwyrain |
RM735 | Therapi Galwedigaethol | Lefel 2 Dwyrain |
RT23 | Cyfathrebu mewn Gofal Iechyd | Lefel 2 Dwyrain |
RT73 | Ymarfer Myfyriol mewn Gofal Iechyd | Lefel 2 Dwyrain |
RT81.5 | Ymchwil Gofal Iechyd | Lefel 2 Dwyrain |
Cliciwch ar y botwm isod i weld rhestr o'n holl gronfeydd data e-lyfrau. Mireiniwch eich chwiliad ymhellach trwy ddewis Pwnc o'r gwymplen.
LibraryPlus - Cefnogaeth ychwanegol i'ch astudiaethau
Rydym wedi cynllunio'n arbennig nifer o wasanaethau, o'r enw LibraryPlus, sy'n gallu gwneud eich bywyd fel myfyriwr yn hawsach.
Pwy sy'n gallu defnyddio LibraryPlus? Pob myfyriwr, yn enwedig:
Ewch i'r wefan LibraryPlus am fwy o wybodaeth