Skip to Main Content

Gwyddorau Iechyd

This page is also available in English

Gwerthuso gwefannau

Mae dod o hyd i wybodaeth ar y rhyngrwyd yn hawdd, ond mae dod o hyd i wybodaeth sydd o safon dda ac sy’n ddibynadwy yn anoddach nag y byddwch yn ei ddisgwyl. Darllenwch ein geiriau o gyngor yn yr adran hon ar sut i wneud y defnydd gorau o gynnal chwiliadau ar-lein. Cyn i chi ddefnyddio unrhyw adnodd o’r rhyngrwyd ar gyfer eich aseiniad dylech chi ofyn i’ch hun “A yw’r dudalen we hon gystal â’r wybodaeth y byddwch chi’n dod o hyd iddi mewn llyfr neu gyfnodolyn academaidd?”

Gall unrhyw un greu tudalennau gwe felly, cyn i chi gyfeirnodi gwefan, dylech chi wirio bod y wybodaeth yn ddibynadwy ac yn gywir.

Dylech wirio:

  • Pwy ysgrifennodd y wybodaeth? A ydynt yn meddu ar y cymwysterau priodol? A ydynt wedi ysgrifennu deunydd arall ar y pwnc? A ydynt yn dangos rhagfarn?
  • Pryd gafodd y wybodaeth ei chyhoeddi? A yw’n ddigon cyfoes ar gyfer eich anghenion chi?
  • Pam cafodd y dudalen ei gosod ar y we? A yw’n gwerthu neu’n hyrwyddo rhywbeth? A yw’n rhagfarnllyd?

Chwiliwch am gliwiau yn yr URL

  • .com – cwmni masnachol
  • .co.uk – cwmni masnachol yn y Deyrnas Unedig​​
  • .edu – sefydliad academaidd yn yr Unol Daleithiau
  • .ac.uk – sefydliad academaidd yn y Deyrnas Unedig
  • .org - sefydliad dielw
  • .gov neu .gov.uk – safle llywodraeth yr Unol Daleithiau neu’r Deyrnas Unedig

Ydych chi’n cael trafferth wrth geisio dod o hyd i’r hyn sydd ei hangen arnoch chi ar Google?

Dyma rai geiriau o gyngor i’ch helpu i wella eich canlyniadau!

  • Rhowch gynnig ar ddefnyddio Chwilio Manwl Google   
  • ​Os ydych chi’n chwilio am union ymadrodd rhowch gynnig ar ddefnyddio dyfynodau "Critical Appraisal Tools" 
  • Rhowch gynnig ar ddefnyddio chwiliad safle Google "Critical Appraisal Tools" site:ac.uk Bydd hyn yn dychwelyd canlyniadau gan sefydliadau academaidd yn y DU yn unig.

Ydych chi’n parhau i brofi trafferthion wrth geisio dod o hyd i ddigon o adnoddau academaidd ar Google?

Rhowch gynnig ar ddefnyddio Google Scholar sy’n chwilio am lenyddiaeth ysgolheigaidd yn unig. Mae modd cysylltu Google Scholar â thanysgrifiadau Prifysgol Abertawe, ceir cyfarwyddiadau cyflawn yn y canllawiau isod.

Gwefannau defnyddiol