Yn cynnwys miloedd o adroddiadau megis proffiliau cwmni (yn cynnwys dadansoddiadau SWOT), proffiliau diwydiant, proffiliau gwlad, (yn cynnwys dadansoddiadau PESTLE), astudiaethau achos, newyddion a deliau ariannol.
Os ydych yn cyrchu MarketLine oddi ar y campws, bydd angen i chi glicio 'Shibboleth' ar y dudalen mewngofnodi ac yna dewis Prifysgol Abertawe fel eich sefydliad.
Yn cynnwys adroddiadau ymchwil marchnad ar fwyd, diod, hamdden, technoleg ac e-fasnach. Mae yna hefyd adroddiadau ar dueddiadau, brandiau, ffordd o fyw (DU) ac agweddau a theuddiadau (Tsieina).
Os ydych chi’n cyrchu Mintel oddi ar y campws, bydd yn rhaid i chi glicio ‘Federated login’ ar y dudalen fewngofnodi ac yna dewis Prifysgol Abertawe fel eich sefydliad.
Mae gan Statista ffocws byd-eang ac mae'n rhoi'r ffeithiau a'r data diweddaraf a mwyaf perthnasol am farchnadoedd, defnyddwyr a diwydiannau. Mae'n cynnwys 1.9m o ystadegau, rhagolygon ac astudiaethau ynghylch 80,000 o bynciau a 170 o ddiwydiannau ledled y byd. Mae modd lawrlwytho data'n hawdd i'r rhan fwyaf o fformatau cyffredin.