Adneuo E-Thesis cyfryngol ar gyfer Prifysgol Abertawe
Mae’r Llyfrgell yn falch o gynnig gwasanaeth ystorfa e-draethodau ymchwil cyfryngol ar gyfer traethodau ymchwil Prifysgol Abertawe.
Mae hwn yn wasanaeth swyddogol ar y cyd â’r Gwasanaethau Academaidd.
O fis Hydref 2021, rhaid i bob lefel Traethodau ymchwil gradd ymchwil, gan gynnwys PhD, Doethuriaethau Proffesiynol, MPHil, Meistr Ymchwil ac MRes gael eu cyflwyno fel fersiwn electronig ar ôl cwblhau eu hastudiaethau'n llwyddiannus.
- Ceir disgwyliad bod testun llawn e-draethawd hir yn cael ei gyflwyno yn y System Gwybodaeth Ymchwil (RIS) er mwyn ei gadw fel cofnod sefydliadol.
- Bydd yr E-draethawd ymchwil yn cael ei ychwanegu gan weinyddwr y storfa at y Gronfa. Mae angen cytundeb cyflwyno gan yr awdur cyn y gellir rhyddhau e-gopi o’r testun cyflawn i’r cyhoedd trwy Cronfa, ystorfa’r sefydliad.
- Mae cyflwyno dogfen yn electronig i Cronfa yn cydymffurfio â pholisi mynediad agored UKRI ar gyfer grantiau hyfforddi a pholisïau data ymchwil. Mae disgwyl i unigolion sydd wedi derbyn grant hyfforddi sicrhau bod fersiwn mynediad agored ar gael yn yr ystorfa cyn pen 12 mis ar ôl cwblhau eu gradd.
- Mae angen cytundeb adneuo'r awdur cyn i ni allu darparu'r fersiwn electronig testun llawn i'r cyhoedd drwy Gronfa, y storfa sefydliadol.
- Bydd rhyddhau drwy'r llyfrgell yn hwyluso gwiriadau rheoli fersiynau, cydymffurfiaeth hawlfraint cynnwys trydydd partïon a gwiriadau adneuo technegol.
Er mwyn dewis pa ddull cyflwyno sydd fwyaf priodol i chi, dylech ystyried:
- gofynion unrhyw arian yr ydych wedi ei dderbyn i astudio.
- materion hawlfraint, e.e. os oes cynnwys trydydd parti yn eich traethawd ymchwil.
- unrhyw ystyriaethau sensitif neu fasnachol.
Mae traethawd ymchwil mynediad agored:
- Yn darparu gwaith ysgolheigaidd sydd ar gael ar-lein, heb gost i’r defnyddiwr terfynol.
- Yn galluogi’r defnyddiwr terfynol i rannu fersiwn ddigidol ac i ailddefnyddio’r cynnwys cyn belled â’i fod yn cydnabod yr awdur gwreiddiol.
Yn ogystal â’r wybodaeth sydd ar gael yn y Canllaw hwn gan y Llyfrgell, mae tîm Cymorth Ymchwil y Llyfrgell yn cynnal sesiynau hyfforddi i edrych ar faterion yn ymwneud â darparu e-draethawd ymchwil testun cyflawn i’r ystorfa sefydliadol. Mae’r llyfrgell yn rhan o raglen datblygu sgiliau myfyrwyr ôl-raddedig y brifysgol. Rydym yn cynnig cyngor ar gyflwyno e-draethawd ymchwil trwy e-bost neu gymorth unigol.