Cronfa ddata biowyddoniaeth ar blatfform Web of Science. Mae’n cynnwys rhai dewisiadau chwilio ychwanegol, megis codau tacson a chydsyniad sy’n gallu bod yn ddefnyddiol gyda rhai pynciau. Mae gennym fynediad at eitemau hyd at 2008, felly bydd angen ichi ddefnyddio ffynhonnell arall i weld erthyglau mwy diweddar.
Mae Medline yn darparu gwybodaeth feddygol awdurdodol ar feddygaeth, nyrsio, deintyddiaeth, milfeddygaeth, y system gofal iechyd, gwyddorau cyn-glinigol a llawer mwy. Mae Medline yn defnyddio mynegeio MeSH (Penawdau Pwnc Meddygol) gan ddefnyddio hierarchaeth coeden, is-benawdau a galluoedd 'ffrwydro' i chwilio dyfyniadau o dros 5,400 o gyfnodolion biofeddygol cyfredol.
Mae'r gronfa ddata yn darparu gwybodaeth am weithgareddau biolegol moleciwlau bach a gellir ei chwilio trwy chwiliadau testun neu strwythur.
Mae PubMed yn darparu mynediad am ddim i MEDLINE®, cronfa ddata yr NLM® o gyfeiriadau a chrynodebau mynegeio i ofal meddygol, nyrsio, deintyddol, milfeddygol, iechyd ac erthyglau cyfnodolion gwyddorau cyn-glinigol. Ychwanega gyfeiriadau newydd yn ddyddiol.
Mae Scopus yn gronfa ddata crynoadau a chyfeiriadau o lenyddiaeth ymchwil a ffynonellau we ansoddol ym meysydd Meddygaeth, Gwyddorau Cymdeithasol, Gwyddorau Ffisegol a Gwyddorau Bywyd. Mae’r gronfa ddata hefyd yn rhoi gwybodaeth ar ddadansoddi cyfeiriadau ar gyfer erthyglau, awduron a metrigau cyfnodolion.
Gwasanaeth mynegeio dyfyniadau gwyddonol sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i chwilio am ddyfyniadau. Mae'n rhoi mynediad i nifer o gronfeydd data sy'n cyfeirnodi ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn caniatáu chwiliadau manwl o is-feysydd arbenigol o fewn disgyblaeth academaidd neu wyddonol.
Cyhoeddwr yn y meysydd Gwyddoniaeth, Technoleg a Meddygaeth sydd â phortffolio helaeth o gyfnodolion mynediad agored sydd wedi’u hadolygu gan gymheiriaid. Mae ein cyfnodolion yn ymdrin â phob maes o fewn bioleg, meddygaeth ac iechyd.
Mae’r casgliad gwyddoniaeth fiofeddygol a gwyddorau bywyd gan HS Talks yn cynnig mynediad uniongyrchol at dros 1,800 o sgyrsiau dull seminar ar-lein sy’n trafod yr ymchwil a’r datblygiadau diweddaraf yn ogystal â’r hanfodion, wedi’u cyflwyno gan rai o’r arbenigwyr gorau ledled y byd – gan gynnwys enillwyr gwobrau Nobel.
Mae mirPub yn gronfa ddata a chymhwysiad gwe cysylltiedig sy'n darparu rhyngwyneb pwerus a greddfol i'r ymchwilwyr sydd am chwilio am gyhoeddiadau sy'n ymwneud â moleciwlau microRNA penodol. Mae mirPub hefyd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am gydberthynas y microRNAs hyn ag unrhyw glefydau, meinweoedd a genynnau. Mae'n hwyluso chwiliad cyhoeddiadau trwy ystyried teuluoedd microRNA a hanes y dull enwi microRNA.
Defnyddiwch Sage Research Methods i ddysgu am ddulliau ymchwil gwahanol, dod o hyd i astudiaethau achos a defnyddio adnoddau ystadegol.
Cynnwys
Mynediad at gannoedd o e-lyfrau ar ddulliau a methodoleg ymchwil. Hefyd ceir podlediadau a fideos i esbonio rhai cysyniadau.
Adnoddau
Mae nifer o adnoddau i'ch helpu gyda'ch prosiect ymchwil neu'ch traethawd hir:
Mae Cydweithrediad Campbell yn rhwydwaith ymchwil rhyngwladol. Mae’n creu adolygiadau systematig mewn addysg, trosedd a lles cyfiawnder a chymdeithasol ar effeithiau ymyriadau cymdeithasol. Chwiliwch yng nghronfa ddata Llyfrgell Campbell i gael mynediad at deitlau, protocolau.
Casgliad o gronfeydd data yw’r Llyfrgell Cochrane sy’n cynnwys gwahanol fathau o dystiolaeth annibynnol o safon wrth wneud penderfyniadau gofal iechyd yn cynnwys Cronfa Ddata Cochrane o Adolygiadau Systematig.
Mae Llyfrgell Cochrane yn gasgliad o gronfeydd data sy’n cynnwys tystiolaeth annibynnol, o ansawdd uchel i helpu i wneud penderfyniadau ym maes iechyd ac mae cynnwys Cronfa Ddata Cochrane o Adolygiadau Systematig.
Peiriant chwilio clinigol yw Trip ac mae wedi’i gynllunio i ganiatáu i ddefnyddwyr ddod o hyd i dystiolaeth ar ffurf ymchwil o safon uchel yn gyflym ac yn rhwydd, a’i defnyddio i gefnogi eu hymarfer ac/neu eu gofal.