Lleolir y rhan fwyaf o’r llyfrau a ddefnyddir ar gyfer astudiaeth Gwleidyddiaeth aPherthnasau Rhyngwladol ar Lefel 1 Gorllewin y Llyfrgell Singleton. Y marc dosbarth ar gyfer y llyfrau hyn yw J. Fodd bynnag byddwch yn canfod fod llyfrau eraill mewn gwahanol adrannau o’r llyfrgell yn ddefnyddiol hefyd. Mae nifer o lyfrau sy’n ymwneud â Gwleidyddiaeth a Llywodraeth yng Nghymru (llywodraeth ddatganoledig, Cynulliad Cenedlaethol ac ati) wedi’u lleoli yn y Casgliad Cymreig ar Lefel 1 y Gorllewin gyda’r marc dosbarth W/J. Mae rhai llyfrau am yr Undeb Ewropeaidd yn adran HC ar Lefel 2 y Gorllewin. Mae ychydig o lyfrau am strategaeth filwrol ac ymlediad niwclear ayyb wedi’u lleoli yn adran U sydd ar Lefel 1 y Dwyrain. Mae rhai llyfrau am Gyfraith Ryngwladol a Hawliau Dynol yn KC yn Llyfrgell y Gyfraith ar Lefel 4 y Dwyrain. Yn fwy na thebyg gwelwch fod llyfrau ynglŷn â hanes modern (yn yr ystod C-F ar Lefel 2 y Gorllewin) o ddiddordeb hefyd.
Gellir canfod y rhan fwyaf o gyfnodolion gwleidyddiaeth yn ystod J-JZ ar Lefel 1 y Gorllewin (e.e. . JA1 Gwyddoniaeth Wleidyddol; JK1 Llywodraeth America; JN1 Sefydliadau Gwleidyddol a gweinyddu).
Wrth ddefnyddio iFind i chwilio am lyfr penodol rydym yn argymell defnyddio cyfenw’r awdur ac un neu ddau o eiriau allweddol o’r teitl.
iFind, sef catalog y llyfrgell, yw’r brif ffordd o chwilio am adnoddau a ddarperir gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe.
I ddod o hyd i leoliad y llyfr yr ydych ei angen, defnyddiwch iFind, ein catalog llyfrgell. Mae yna ddyfais i chwilio am iFind ar y dudalen hon. Mae yna hefyd ganllaw i ddefnyddio iFind ar waelod yr adran hon ynghyd â chanllawiau fideo ar y dudalen ‘Dechrau Arni’. Rydym hefyd wedi atodi canllaw i’ch helpu i ddod o hyd i lyfrau yn y llyfrgell.
Os hoffech awgrymu llyfr i ni ei ychwanegu at stoc y llyfrgell, e-bostiwch: culturecommlib@swansea.ac.uk.
iFind, sef catalog y llyfrgell, yw’r brif ffordd o chwilio am adnoddau a ddarperir gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe.
Gellir dod o hyd i’r rhan fwyaf o’n e-lyfrau drwy iFind. Mae ein e-lyfrau ar gael drwy: Proquest, EBSCO. Bydd y tabiau hyn yn dweud ychydig yn rhagor i chi am y tair prif gronfa ddata. I logio i mewn, defnyddiwch eich rhif myfyriwr fel eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair arferol. Os bydd angen unrhyw help arnoch i gael mynediad at e-lyfrau a’u defnyddio, ebostiwch ni yn culturecommlib@swansea.ac.uk
Mae platfform VLeBooks yn darparu ystod o e-lyfrau ar nifer fawr o bynciau.
Mae casgliad helaeth EBSCO o deitlau e-lyfrau ar EBSCOhost yn caniatáu profiad chwilio cynhwysfawr a grymus. Gyda phob chwiliad, ymddengys teitlau e-lyfrau yn uniongyrchol ochr yn ochr â’ch cronfeydd data EBSCO eraill. Mae hyn yn datgelu i ddefnyddwyr wir ddyfnder cynigion eich llyfrgell a chynyddu defnydd a gwelededd o gasgliad cyfan eich llyfrgell.
Mae Proquest Ebook Central yn cynnig e-lyfrau awdurdodol mewn ystod eang o feysydd pwnc, ynghyd ag offer grymus i’ch cynorthwyo i ganfod, defnyddio a rheoli’r wybodaeth yr ydych ei hangen.
Defnyddiwch Sage Research Methods i ddysgu am ddulliau ymchwil gwahanol, dod o hyd i astudiaethau achos a defnyddio adnoddau ystadegol.
Cynnwys
Mynediad at gannoedd o e-lyfrau ar ddulliau a methodoleg ymchwil. Hefyd ceir podlediadau a fideos i esbonio rhai cysyniadau.
Adnoddau
Mae nifer o adnoddau i'ch helpu gyda'ch prosiect ymchwil neu'ch traethawd hir:
Mae Politics Trove yn rhoi mynediad ar-lein at werslyfrau a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Rhydychen. Mae’r adnodd yn eich galluogi i bersonoli ac ychwanegu nodiadau at y cynnwys.