Skip to Main Content

Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol

This page is also available in English

Hanfodion llyfrgell MyUni - Ymchwilio

Mae Hanfodion Llyfrgell MyUni yn cynnwys adran ar Ymchwil. Dilynwch y ddolen isod i ddysgu sut i gynllunio strategaeth chwilio a chynnal eich chwiliad. (Mae angen i chi fewngofnodi i Canvas i gael mynediad i'r ddolen.)

Awgrymiadau chwilio

Allweddeiriau

  • Chwiliwch am yr allweddeiriau. Peidiwch â theipio brawddeg hir
  • A oes cyfystyron neu dermau cysylltiedig (ehangach neu fwy penodol) a allai fod yn berthnasol?

Cynyddu nifer y canlyniadau

  • Gallwch ddefnyddio symbol cwtogi (seren * fel arfer) i ddod o hyd i derfyniadau gwahanol ar gyfer eich allweddair. Er enghraifft byddai chwilio am darllen* yn dangos canlyniadau am darllen, darllenwyd, darllenadwy ayyb.
  • Gallwch chwilio am dermau amgen ar yr un pryd drwy eu cysylltu â'r gair or; er enghraifft, gallwch chwilio am adolescent or teenager.

Lleihau nifer mawr o ganlyniadau

  • Os oes gennych ormod o ganlyniadau, rhowch gynnig ar chwilio ar sail y teitl yn unig yn hytrach na'r cofnod llawn. Dylech gael llai o ganlyniadau a rhai mwy perthnasol.
  • Defnyddiwch ddyfynodau os hoffech i'ch termau chwilio ymddangos fel ymadrodd:  er enghraifft, “deallusrwydd artiffisial”.  
  • Defnyddiwch yr opsiynau hidlo ar ochr tudalen y canlyniadau er mwyn gwneud eich chwiliad yn fwy penodol.

Mae gwerthuso eich ffynonellau yn feirniadol yn elfen hanfodol o unrhyw chwiliad llenyddiaeth. Mae angen i chi ystyried a yw eich ffynonellau'n:

  • Dibynadwy
  • Digon academaidd
  • Diduedd

Gofynnwch y cwestiynau canlynol i chi eich hun am yr wybodaeth rydych wedi dod o hyd iddi.

Pwy?

  • Pwy yw'r awdur neu sefydliad sy'n gyfrifol am yr wybodaeth?
  • A ydynt yn gymwys i ysgrifennu ar y pwnc hwn?

Pryd?

  • A yw'r wybodaeth yn gyfredol?
  • A ydyw o bwys?

Pa fath o wybodaeth?

  • Ai barn neu ffaith ydyw?
  • A yw'n ddibynadwy ac yn annibynnol?
  • A yw'n canolbwyntio ar ymchwil/academaidd neu'n fasnachol?

Sage Research Methods

Fframweithiau Cwestiynau Ymchwil

Dechreuwch ystyried eich termau chwilio allweddol drwy nodi'r cysyniadau allweddol yn eich cwestiynau ymchwil ac yna ystyried cyfystyron, termau cysylltiedig, sillafiadau gwahanol, talfyriadau, termau mwy penodol a chyffredinol y gallai awdur neu awduron fod wedi'u defnyddio i drafod y pwnc.

Gall fframweithiau cwestiynau ymchwil eich helpu i lunio'ch cwestiwn ymchwil a nodi cysyniadau ar gyfer eich adolygiad llenyddiaeth strwythuredig neu ymchwil empirig.

Rydym wedi rhestru ychydig o fframweithiau cwestiynau ymchwil yma ond mae llawer mwy. Os nad yw'ch pwnc yn cyd-fynd â fframwaith gallwch hefyd wahanu'ch pwnc yn wahanol gysyniadau chwilio.

Gall y fframwaith PICO eich helpu i lunio'ch cwestiwn ymchwil a nodi cysyniadau ar gyfer chwiliad meddygol/clinigol. Fe'i defnyddir yn helaeth mewn adolygiadau systematig ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Cwestiwn enghreifftiol: A yw'r defnydd o olchi dwylo yn lleihau'r risg o heintiau a gafwyd yn yr ysbyty.

Problem/Claf/Poblogaeth Pwy neu beth yw canolbwynt eich ymchwil Hospital acquired infection
Ymyriad (Intervention) Pa ymyrraeth neu driniaeth ydych chi'n ymchwilio iddi Golchi dwylo
Cymhariaeth A ydych yn cymharu'r ymyrraeth hon (nid yw bob amser yn angenrheidiol) Geliau llaw neu sanitizers
Canlyniad (Outcome) Pa effaith mae'r ymyrraeth hon yn ei chael Lleihau heintiau

Gall y fframwaith PEO eich helpu i fframio cwestiwn ymchwil ansoddol. 

Cwestiwn enghreifftiol: Sut mae Alzheimer yn effeithio ar ansawdd bywyd y gofalwr

Poblogaeth Pwy yw canolbwynt eich ymchwil Rhoddwyr gofal
Amlygiad (Exposure) Beth yw'r mater sydd o ddiddordeb i chi Alzheimer's
Canlyniad (Outcome) Y canlyniadau rydych chi am eu harchwilio Ansawdd bywyd

Gall fframwaith SPICE eich helpu i lunio'ch cwestiwn ymchwil a nodi cysyniadau ar gyfer chwiliad Gwyddorau Cymdeithasol neu ofal iechyd. 

Cwestiwn enghreifftiol: Mewn cymunedau incwm isel yn y DU, sut mae mynediad i fannau gwyrdd yn effeithio ar les meddyliol

Lleoliad (Setting) Lleoliad yr astudiaeth DU
Persbectif/Poblogaeth Y grŵp rydych chi'n ei astudio Cymunedau incwm isel
Ymyrraeth / Diddordeb,
o ffenomen
(Intervention/Interest, of Phenomenon)
Pa ymyrraeth neu driniaeth ydych chi'n ymchwilio iddi Mynediad i fannau gwyrdd
Cymhariaeth A ydych yn cymharu'r ymyrraeth hon (nid yw bob amser yn angenrheidiol) Dim mynediad i fannau gwyrdd
Gwerthusiad (Evaluation) Beth yw'r canlyniadau A yw'n effeithio ar iechyd meddwl

Booth, A. (2004). Formulating answerable questions. Yn A. Booth & A. Brice (Arg.), Evidence based practice for information professionals: A handbook (tt. 61-70). Facet Publishing.

Gall y fframwaith SPIDER eich helpu i lunio'ch cwestiwn ymchwil a nodi cysyniadau ar gyfer chwiliad Gwyddorau Cymdeithasol neu ofal iechyd, ac mae'n arbennig o ddefnyddiol ar gyfer cwestiynau ymchwil ansoddol neu ddull cymysg.

Cwestiwn eghreifftiol: Beth yw profiadau rhieni ifanc o fynychu addysg cynenedigol? (Cooke et al., 2012)

Sampl Grŵp o bobl rydych chi'n ymchwilio iddyn nhw Rhieni ifanc
Ffenomen o ddiddordeb (Phenomenon of Interest) Beth sy'n cael ei ymchwilio Profiad o addysg cynenedigol
Cynllun (Design) Dulliau ymchwil a ddefnyddir Holiaduron neu gyfweliadau
Gwerthusiad (Evaluation) Pa ganlyniadau sy'n cael eu mesur Sylwadau neu brofiadau
Math o ymchwil (Research type) Beth yw'r math o ymchwil Ansoddol

Cooke, A., Smith, D., & Booth, A. (2012). Beyond PICO: The SPIDER tool for qualitative evidence synthesis. Qualitative Health Research, 22(10), 1435-1443. 

Cymorth Ymchwil a Mynediad Agored

Mae'r cwrs Ôl-raddedig hwn yn cynnwys dolenni i wybodaeth sy'n ddefnyddiol i chi fel Ôl-raddedig, gan gynnwys Canllawiau Llyfrgell a ffynonellau allanol. Mae'n gweithio orau trwy lywio i'r adran y mae angen gwybodaeth arnoch amdani, er bod yna lawer o ddolenni defnyddiol yn yr adran Cymorth hefyd. Defnyddiwch y canllaw hwn i'ch helpu drwy gydol eich gyrfa ôl-raddedig.