Bydd y tabiau hyn yn mynd â chi drwy ddolenni i’r gwefannau mwyaf defnyddiol ar gyfer canfod Cyhoeddiadau Swyddogol Prydain. Isod mae PDF gyda chanllaw llawnach i adnoddau ar-lein.
Mae deddfwriaeth.gov.uk yn cynnwys y rhan fwyaf o fathau o ddeddfwriaeth y DU, gan gynnwys deddfwriaeth sylfaenol (statudau) a deddfwriaeth eilaidd (offerynnau statudol) ar gyfer Senedd y DU, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a Senedd Cymru. Mae'r cynnwys testun llawn yn dyddio yn ôl i ddiwedd yr 20fed ganrif ac mae peth gynnwys o'r 19eg ganrif ar gael hefyd.
Rhy’r Archif Ddigidol ar Ddiogelwch Gwladol fynediad at ddogfennau llywodraeth yr Unol Daleithiau sydd wedi’u diogelu, i ddarparu deunydd ffynhonnell sylfaenol er mwyn symud ymlaen ag ymchwil ym maes hanes, gwleidyddiaeth, a chysylltiadau rhyngwladol yr ugeinfed a'r unfed ganrif ar hugain. Mae'r dogfennau sydd wedi’u digideiddio ar gael mewn mwy na 40 o gasgliadau sy’n seiliedig ar bynciau, ac ychwanegir dau gasgliad newydd bob blwyddyn.
I chwilio am drafodaethau, cliciwch Chwilio am Drafodaethau ar yr hafan neu defnyddiwch Chwilio Manwl a dewiswch y dewisiadau Hansard a Thrafodaethau o’r ddewislen ar yr ochr chwith (a dad-ddewis dewisiadau eraill o dan Gyfres Papurau).
Mae’r safle hwn yn cynnwys casgliad mawr o gyhoeddiadau Seneddol Prydain o’r 18fed, 19eg a’r 20fed ganrif. Mae’r rhain yn cynnwys trafodion, adroddiadau, biliau a chofrestrfeydd seneddol. Mae’n cwmpasu holl feysydd polisi cymdeithasol, gwleidyddol, economaidd a thramor. Mae hefyd nawr yn cynnwys y casgliad digidol cyntaf o Bapurau Seneddol Tŷ’r Arglwyddi o’r 19eg ganrif.
Mae’r wefan hon yn rhoi mynediad i Hansard ei hun. Mae hyn yn ôl cyfrol, dim ond eisteddiadau’r Arglwyddi, y Tŷ Cyffredin neu Neuadd San Steffan. Gallwch hefyd weld Atebion Ysgrifenedig, Datganiadau Ysgrifenedig, adroddiadau Arglwyddi neu adroddiadau yr Uwch Bwyllgor.
Llun trwy garedigrwydd parliament.uk
Mae gwefan parliament.uk yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol fel canllawiau, fideos, crynodebau RSS, Briffiadau Ymchwil, Teledu’r Senedd, Hansard ac ati.
Mae'r dudalen adnoddau addysgu ar wefan parliament.uk yn cynnwys adnoddau defnyddiol:
Er enghraifft, mae’r ddarlith agored isod yn amlinellu hynt deddfwriaeth: