Mae EThOS wedi’i greu i gynnig un pwynt mynediad i draethodau ymchwil y DU ac yn chwarae rôl arwyddocaol wrth arddangos ymchwil y DU i’r byd. Mae gan EThOS, a gynhelir gan y Lyfrgell Brydeinig, fwy na 100 o brifysgolion y DU ynghlwm yn y prosiect. Gall gynnig ystod eang iawn o deitlau fel lawrlwythiadau testun llawn. Os bydd eitem rydych ei hangen eisoes yn EThOS yna mae ar gael i’w lawrlwytho i’ch bwrdd gwaith ar unwaith am ddim; os nad ydyw, gallwch brynu copi wedi’i sganio oddi wrth EThOS.
ProQuest Dissertations & Theses Global yw casgliad mwyaf cynhwysfawr y byd o draethodau hir a thraethodau ymchwil o bob cwr o’r byd, yn dyddio o 1743 hyd at heddiw. Mae’n cynnig mynediad testun llawn i waith graddedigion a ychwanegwyd ar ôl 1997, a mynediad testun llawn i ddetholiad o waith raddedigion a ychwanegwyd cyn 1997. Mae’n cynnwys nifer sylweddol o draethodau hir a thraethodau ymchwil rhyngwladol newydd ar ffurf dyfyniadau a thestun llawn.
Box of Broadcasts (BoB) - llyfrgell enfawr o dros 2 filiwn o raglenni teledu a radio a ffilmiau nodwedd sydd wedi'u darlledu gan y BBC, ITV, Ch4, Ch5 a dros 70 o sianeli eraill. Creu rhestri chwarae i wylio yn hwyrach neu olygu clipiau a'u hymgorffori yn eich cyflwyniadau.
Yn cynnwys llyfrgell ffilmiau newyddion British Pathé (3,500 awr o ffilmiau newyddion) ar-lein gyda chopïau lawrlwythadwy ar gael am ddim am gyfraniad bach. Gallwch chwilio yn ôl dyddiad, ystod blynyddoedd, allweddair a math o ffilm.
Gwyddoniadur ar-lein o ffilm a theledu Prydain. Mae’n cynnwys cannoedd o oriau o glipiau ffilm a theledu o gasgliadau Archif Genedlaethol y Sefydliad Ffilm Brydeinig.
Dros 11.000 o ffillmiau gan y BFI (British Film Institutute), archifau cenedlaethol a rhanbarthol.
Mae’r archif yn cynnwys 80,000 o recordiau dethol o gerddoriaeth, geiriau llafar ac amgylcheddau dynol a naturiol. Cliciwch ar Hanes Llafar ar y ddewislen ochr i gael mynediad at recordiau o gyfweliadau.
Mae EUScreen yn cynnig mynediad ar-lein am ddim i fideos, lluniau, testunau a sain gan ddarlledwyr Ewropeaidd ac o archifau clyweled. Gallwch archwilio cynnwys o’r 1900au cynnar hyd heddiw.
Mae’r adnodd hwn yn cynnwys digidolion o gasgliadau diwylliant poblogaidd o’r Unol Daleithiau a’r D.U. rhwng 1950 a 1975. Daw’r deunyddiau archifol gwreiddiol dan sylw o lyfrgelloedd ac archifau amrywiol. Pynciau’n cynnwys protestiadau myfyrwyr, hawliau sifil, prynwriaeth a Rhyfel Fietnam. Mae’r casgliad yn cynnwys pamffledi, llythyrau, ffeiliau llywodraeth, cyfrifon tystion, cylchgronau dirgel, deunyddiau gweledol a fideo, effemera a phethau cofiadwy. Mae Rhan II yn cynnwys deunydd ychwanegol, megis cerddoriaeth, pecynnau'r wasg, catalogau archebu drwy'r post, proflenni hysbysebu, lluniau ychwanegol o archifau Mirrorpix, a dogfennau ar aflonyddwch myfyrwyr a'r Helyntion yng Ngogledd Iwerddon o'r Archifau Cenedlaethol.
Cyfarwyddiadur ar y rhyngrwyd â 2000 o ddolenni anodedig i ffynonellau iaith Saesneg o wybodaeth a dadansoddiad o ansawdd uchel mewn amrywiaeth o feysydd sy'n ymwneud â materion rhyngwladol, cysylltiadau rhyngwladol, astudiaethau rhyngwladol, astudiaethau byd-eang ac addysg fyd-eang.
Mae Eldis yn wasanaeth gwybodaeth ar-lein sy'n cynnwys mynediad am ddim i ymchwil amrywiol, ddiweddar a pherthnasol ar faterion datblygu rhyngwladol. Mae'r gronfa ddata hon yn cynnwys dros 40,000 o grynodebau ac mae'n rhoi dolenni am ddim i ddogfennau ymchwil a pholisïau testun llawn gan dros 8,000 o gyhoeddwyr. Mae modd ei chwilota neu ei bori gan ddefnyddio Topics neu Country Profiles.
Mae gwefan CAIN yn cynnwys gwybodaeth a ffynonellau crai ar ‘y Trafferthion’ a’r wleidyddiaeth yng Ngogledd Iwerddon o 1968 hyd at y presennol.
Mae European Sources Online (ESO) yn gronfa ddata ar-lein sy’n rhoi mynediad at wybodaeth ar sefydliadau a gweithgarwch yr Undeb Ewropeaidd, gwledydd, rhanbarthau a sefydliadau rhyngwladol eraill Ewrop, ac ar faterion pwysig i ddinasyddion a rhanddeiliaid Ewropeaidd. Mae ESO yn rhoi mynediad i filoedd o wefannau, dogfennau a chyhoeddiadau a ddetholwyd gan arbenigwyr o’r UE a sefydliadau rhyngwladol eraill, llywodraethau cenedlaethol, melinau trafod, sefydliadau rhanddeiliaid, papurau gwaith ayyb, erthyglau testun llawn o’r Financial Times ac European Voice. Ceir cofnodion llyfryddiaethol i werslyfrau academaidd allweddol ac erthyglau cyfnodol. Ceir hefyd gyfres o Ganllawiau Gwybodaeth wedi’u llunio gan Dîm Golygyddol ESO. Fe’i diweddarir yn ddyddiol.
Mae'n hawdd dod o hyd i wybodaeth ar y rhyngrwyd, ond mae dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy o safon yn fwy anodd nag y byddech yn ei ddisgwyl. Rhowch gipolwg ar ein hawgrymiadau yn yr adran hon ar y ffyrdd mwyaf effeithiol o chwilio ar-lein. Cyn i chi ddefnyddio unrhyw adnodd ar y we yn eich aseiniad, dylech chi ofyn "Ydy'r dudalen we cystal â'r wybodaeth byddech yn ei chael mewn llyfr neu gyfnodolyn academaidd?"
Gall unrhyw un greu tudalennau gwe. Felly, cyn cyfeirio at wefan, gwriwch fod yr wybodaeth yn ddibynadwy ac yn gywir.
Gwiriwch:
Edrychwch am gliwiau yn yr URL
Ydych chi'n cael anhawster dod o hyd i'r hyn sydd ei angen arnoch ar Google?
Dyma rai awgrymiadau i wella'ch canlyniadau!
Ddim yn dod o hyd i ddigon o adnoddau academaidd drwy Google o hyd?
Rhowch gynnig ar ddefnyddio Google Scholar sy'n chwilio llenyddiaeth ysgolheigaidd yn unig. Gallwch gysylltu Google Scholar â thanysgrifiadau Prifysgol Abertawe drwy ddilyn y cyfarwyddiadau hyn:
Dyma rai dolenni defnyddiol efallai yr hoffech eu harchwilio ymhellach:
Sefydliad ymchwil cymdeithasol arloesol oedd Mass Observation a sefydlwyd yn 1937 i gofnodi bywyd beunyddiol ym Mhrydain. Mae’r adnodd ar-lein hwn yn cynnwys deunydd gwreiddiol a gasglwyd gan Mass Observation rhwng 1937 a 1967, gan gynnwys dyddiaduron a holiaduron a anfonwyd i mewn gan ei banel o wirfoddolwyr ac ymchwil a gasglwyd gan ymchwilwyr cyflogedig ar ffurf adroddiadau Ffeil a chasgliadau Pwnc.
Fe’i lansiwyd ym 1981 gan Brifysgol Sussex fel ailenedigaeth yr Arsylwad Torfol gwreiddiol ym 1937, a’i nod oedd cofnodi hanes cymdeithasol Prydain drwy recriwtio gwirfoddolwyr i ysgrifennu am eu bywydau a’u barn. Yn dal i dyfu, mae’n un o’r ffynonellau pwysicaf sydd ar gael am ddata cymdeithasol ansoddol yn y DU. Mae’r casgliad hwn yn cynnwys y cyfarwyddiadau (holiaduron) a anfonwyd gan yr Arsylwad Torfol yn y 1980au a’r 1990au a’r miloedd o ymatebion iddynt gan gannoedd o Arsylwyr Torfol. Mae’r pynciau a drafodir yn amrywio’n fawr, o’r personol iawn (rhyw, teulu) i fywyd pob dydd (siopa, gwyliau) i faterion byd-eang.
Mae’r adnodd hwn yn cynnwys digidolion o gasgliadau diwylliant poblogaidd o’r Unol Daleithiau a’r D.U. rhwng 1950 a 1975. Daw’r deunyddiau archifol gwreiddiol dan sylw o lyfrgelloedd ac archifau amrywiol. Pynciau’n cynnwys protestiadau myfyrwyr, hawliau sifil, prynwriaeth a Rhyfel Fietnam. Mae’r casgliad yn cynnwys pamffledi, llythyrau, ffeiliau llywodraeth, cyfrifon tystion, cylchgronau dirgel, deunyddiau gweledol a fideo, effemera a phethau cofiadwy. Mae Rhan II yn cynnwys deunydd ychwanegol, megis cerddoriaeth, pecynnau'r wasg, catalogau archebu drwy'r post, proflenni hysbysebu, lluniau ychwanegol o archifau Mirrorpix, a dogfennau ar aflonyddwch myfyrwyr a'r Helyntion yng Ngogledd Iwerddon o'r Archifau Cenedlaethol.
Rhowch gynnig ar ein canllaw ar ddod o hyd i Draethodau Hir.