Mae Politics Trove yn rhoi mynediad ar-lein at werslyfrau a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Rhydychen. Mae’r adnodd yn eich galluogi i bersonoli ac ychwanegu nodiadau at y cynnwys.
Mae JSTOR yn cynnwys testun llawn cyfnodolion, fel arfer o'r rhifyn cyntaf hyd at oddeutu 5 mlynedd yn ôl. Ar gyfer rhifynnau mwy diweddar, yn aml darperir dolenni i destun llawn erthyglau ar wefannau allanol. Mae'r pynciau'n cynnwys ecoleg, economeg, addysg, cyllid, hanes, iaith a llenyddiaeth, mathemateg ac ystadegau, athroniaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, gwleidyddiaeth ac astudiaethau poblogaeth.
Mae'r gronfa ddata hon yn cynnwys dros 3 miliwn o gyfeiriadau llyfryddiaethol at erthyglau mewn cyfnodolion, ynghyd â llyfrau, adolygiadau a detholiad o benodau sy'n dyddio'n ôl i 1951. Mae'n unigryw oherwydd ei bod yn cwmpasu amrywiaeth eang o ddeunydd rhyngwladol ac yn cynnwys dros 100 o ieithoedd a gwledydd. Caiff mwy na 2,800 o gyfnodolion eu mynegeio'n rheolaidd ac mae tua 7,000 o lyfrau'n cael eu cynnwys bob blwyddyn.
Gwasanaeth mynegeio dyfyniadau gwyddonol sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i chwilio am ddyfyniadau. Mae'n rhoi mynediad i nifer o gronfeydd data sy'n cyfeirnodi ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn caniatáu chwiliadau manwl o is-feysydd arbenigol o fewn disgyblaeth academaidd neu wyddonol.
Business Source Complete yw cronfa ddata fusnes ysgolheigaidd ddiffiniol y byd. Mae’n darparu y prif gasgliad o gynnwys llyfryddiaethol a thestun llawn. Fel rhan o’r sylw cynhwysfawr a gynigir gan y gronfa ddata hon, ceir mynegai a chrynodebau ar gyfer y cyfnodolion busnes ysgolheigaidd pwysicaf sy’n dyddio yn ôl i 1886. At hyn, darperir cyfeirnodau chwilio a nodwyd ar gyfer dros 1,300 o gyfnodolion.
Mae gan Nexis archifau y gellir eu chwilio sy'n cynnwys cannoedd o bapurau newydd a ffynonellau newyddion eraill o nifer o wledydd, gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen, yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys testun y rhan fwyaf o'r erthyglau mewn llawer o bapurau newydd o ddechrau'r 1990au hyd at heddiw. Mae'n cynnwys ychydig o bapurau newydd o'r 1970au a'r 1980au.
Dyma restr o’r cronfeydd data sy’n berthnasol i fyfyrwyr Gwleidyddiaeth a Pherthnasau Rhyngwladol. Archwiliwch yr a-z neu edrychwch ar y tudalennau canlynol ar gyfer mwy o gyfarwyddyd i’r cronfeydd data. Os ydych chi’n clicio ar ‘edrych ar fwy o ganlyniadau’ gallwch archwilio ein holl gronfeydd data, derbyn mynediad i ddisgrifiadau cronfa data a hidlo drwy’r math o gronfa ddata.