Mae eich llyfrgellwyr pwnc yma i’ch helpu. Gallwn eich cynorthwyo i ganfod gwybodaeth, defnyddio adnoddau’r llyfrgell a mynd i’r afael ag ymchwil a chyfeirio’n gywir.
Ar y tudalennau hyn fe ddewch o hyd i adnoddau allweddol, cynghorion ac arweiniad i gefnogi eich astudiaethau a’ch ymchwil. Cofiwch gallwch bob amser gysylltu gyda’ch llyfrgellwyr os byddwch angen unrhyw gymorth wrth chwilio am wybodaeth, defnyddio cronfeydd data, cyfeiriadau neu unrhyw beth arall sy’n ymwneud â’r llyfrgell.
Helo, ni yw Naomi Prady (Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd), Sian Neilson (Llyfrgellydd Pwnc), Bernie Williams (Llyfrgellydd Pwnc), a Carine Harston (Llyfrgellydd Pwnc) ac rydym yma i’ch helpu i ddod o hyd i wybodaeth, i ddefnyddio cronfeydd data, cyfeirnodi ac unrhyw beth arall sy’n ymwneud â’r llyfrgell.
Edrychwch ar wefan y llyfrgell i gael y newyddion diweddaraf am ein horiau agor a'n cyfleusterau.
Ewch i gael cip ar Politics Trove. Mae’n cynnwys 27 o lyfrau gwych ym maes gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol a ysgrifennwyd gan arbenigwyr ac a gynhyrchwyd gan Oxford University Press.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.