Skip to Main Content

Mynediad Agored Gwyrdd

This page is also available in English

Rhestr wirio syml ar gyfer cyhoeddi mynediad agored gwyrdd

Beth yw mynediad agored gwyrdd?

Mae Mynediad Agored Gwyrdd yn golygu cyflwyno fersiwn o'ch erthygl (fel arfer yr AAM) i storfa, gan sicrhau bod mynediad ati am ddim.

  • AAM: Y fersiwn ar ôl cael ei hadolygu gan gymheiriaid, ond cyn cael ei fformatio gan gyhoeddwr.
  • Storfeydd: Gallent fod yn rhai sefydliadol (e.e. storfa'r Brifysgol megis RIS), neu'n seiliedig ar bwnc (e.e. arXiv, Europe PMC).

1. Gwiriwch ofynion y cyllidwyr os oes gennych un

E.e.: UKRI 

  • Rhaid cyflwyno'r AAM ar unwaith ar ôl ei chyhoeddi.
  • Rhaid cyflwyno cais am drwydded CC BY. Gwiriwch a yw'r cyhoeddwr yn cynnig trwydded sy'n cydymffurfio â UKRI cyn i chi gyflwyno'r llawysgrif.
  • Ni chaniateir embargo.
  • Cofiwch gynnwys Datganiad Cadw Hawliau (RRS) yn eich llawysgrif:

"At ddibenion mynediad agored, mae'r awdur wedi cymhwyso trwydded Creative Commons Attribution (CC BY) i unrhyw fersiwn AAM".

Polisi UKRI:

2. Gwiriwch bolisïau hunan-archifo y cyhoeddwr

  • Mae JISC Open Policy Finder yn darparu crynodebau o bolisïau cyhoeddwyr ynghylch:

  • Pa fersiwn y gallwch chi ei chyflwyno (AAM, wedi'i chyhoeddi)

  • Cyfnodau embargo
  • Gofynion trwyddedu
  • Cadarnhewch pa fersiwn y mae hawl gennych ei chyflwyno:
  • Llawysgrif sydd wedi cael ei derbyn i'w chyhoeddi (AAM)
  • Fersiwn sydd wedi'i chyhoeddi (PDF) - ni chaniateir y fersiwn hon fel arfer, oni bai bod mynediad agored aur.

3. Cael eich AAM

  • Cadwch eich AAM gan eich cyhoeddwr ar ôl iddi gael ei derbyn.

  • Sicrhewch eich bod chi'n defnyddio trwydded CC-BY - gweler fideo byr [5 munud] yn trafod y gwahanol drwyddedau a beth maen nhw'n ei olygu iso

4. Cofiwch gynnwys Datganiad Cadw Hawliau (RRS) yn eich llawysgrif

Os ydych chi'n ansicr ynghylch pa eiriad i'w ddefnyddio ar gyfer y datganiad hwn, gweler fideo byr [1 funud 57 eiliad] yma. Mae hefyd fideo [2 funud 35 eiliad] yn trafod manteision defnyddio RRS yma

Mae rhestr o gyhoeddwyr sydd wedi cael gwybod am Bolisi Cadw Hawliau Prifysgol Abertawe isod.

5. Cyflwyno i RIS

Ceir arweiniad ar sut i fewngofnodi i RIS a chyflwyno eich llawysgrif yma.

Ychwanegu Metadata

Cofiwch gynnwys:

  • Teitl yr erthygl
  • Enw'r cyfnodolyn ac ISSN
  • Y dyddiad y cafodd ei derbyn
  • Enwau'r awduron
  • Gwybodaeth am y cyllidwr (os yw’n berthnasol) 

Gwiriwch fod y llawysgrif wedi cael ei chyflwyno'n llwyddiannus i RIS a bod yr holl wybodaeth briodol yn cael ei harddangos yn gywir.