Skip to Main Content

Terminolog Llyfrgell: Rhestr Termau'r Llyfrgell: Rhestr Termau’r Llyfrgell

This page is also available in English

intro...

Cliciwch ar y llythyren i fynd i'r adran honno...

A | B | C | Ch |  D | Dd | E | F | Ff | G | Ng | H | I | J | L | Ll | M | N | O | P | Ph |  R | Rh | S | T | Th | U | (V) | W | Y

A

Awdur: Yr unigolyn sydd wedi ysgrifennu'r llyfr, yr erthygl neu wybodaeth arall.

Llyfrgell y Bae: Mae'r llyfrgell ar Gampws y Bae. Mae'n cynnwys casgliadau llyfrgell ar gyfer y pynciau a addysgir sy'n cael eu haddysgu ar Gampws y Bae yn ogystal â chynnig amrywiaeth o fannau astudio a chymorth gan staff y llyfrgell.

Adnewyddu awtomatig: Caiff eitemau ar fenthyciad arferol (4 wythnos) i staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe eu hadnewyddu'n awtomatig. Oni bai fod defnyddiwr arall wedi cyflwyno cais am yr eitemau a fenthycwyd gennych, caiff benthyciadau arferol eu hadnewyddu'n awtomatig ar ddiwedd y cyfnod benthyca presennol. Ni chaiff eitemau ar fenthyciad byr, benthyciadau 24 awr, traethodau ymchwil, gliniaduron ar fenthyciad, nac unrhyw eitemau eraill sy'n cael eu benthyca gan fenthycwyr allanol, eu hadnewyddu'n awtomatig.

Adnewyddu: Os bydd angen llyfr arnoch am gyfnod hwy, gall fod yn bosib ymestyn y benthyciad fel y gallwch ei gadw’n hwy. Gweler yr adran Adnewyddu awtomatig

Adolygiad systematig: Mae adolygiad systematig yn adolygiad llenyddol sy’n ceisio canfod, arfarnu a chyfuno’r dystiolaeth orau sydd ar gael mewn perthynas â chwestiwn ymchwil penodol er mwyn cynnig atebion addysgiadol sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Ceir mwy o wybodaeth yn ein canllaw ar adolygiadau systematig. 

Allweddair: Dyma air sy'n nodi'r prif gysyniad neu bwnc mewn dogfen. Gellir defnyddio allweddeiriau i chwilio yn iFind neu gronfeydd data er mwyn dod o hyd i wybodaeth am y pwnc hwnnw.

Ar Gadw: Pryd bynnag y bydd eitem y mae myfyriwr wedi cyflwyno cais amdani ar gael i'w chasglu, bydd y myfyriwr yn cael e-bost i'w hysbysu ei bod ar gadw ac y bydd yr eitem yn cael ei chadw iddo ar silffoedd ar gadw'r llyfrgell am gyfnod penodol.

Archifau Richard Burton: Archifau Richard Burton yw cof corfforaethol a chronfa archifol Prifysgol Abertawe ac mae’n cadw deunydd o bwysigrwydd lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Mae’r archifau’n dethol ac yn cadw’r holl gofnodion o werth hanesyddol y mae’r Brifysgol yn eu creu neu’n cael gafael arnynt, ac yn sicrhau eu bod yn hygyrch.

Ardal astudio dawel: Pan fyddwch yn astudio yn yr ardaloedd hyn, dylid sicrhau bod sgyrsiau'n dawel a bod ffonau symudol yn fud. 

Ardal astudio distaw: Ardaloedd astudio yn y llyfrgell lle na ddylid sgwrsio, bwyta na defnyddio ffôn symudol.

Arddull MHRA: Rhestr o ganllawiau cyfeirio yw arddull MHRA, a ddefnyddir yn gyffredin ym mhynciau'r Dyniaethau. Yn ôl MHRA, cyfeirir at ffynonellau mewn troednodiadau, wedi'u dynodi gan rifau uwchysgrif yn y testun. Ceir rhagor o fanylion yn ein canllawiau cyfeirnodi yn arddull MHRA

Argraffiad:  Mae argraffiad yn fersiwn benodol o lyfr, cylchgrawn neu bapur newydd sy'n cael ei argraffu ar un adeg.

Yn ôl i’r brig

B

Benthyciad rhwng Llyfrgelloedd (ILL): Dyma ffordd i wneud cais am lyfr, erthygl mewn cyfnodolyn, neu gyhoeddiad arall nas cedwir gan ein llyfrgell ein hunain. Gweler hefyd y darn Cyflenwi Dogfennau

Yn ôl i’r brig

C

Cais: Yn iFind, mae’n bosib cyflwyno cais am eitemau rydym yn eu cadw sydd ar fenthyg i ddefnyddiwr arall ar hyn o bryd. Byddai cyflwyno cais drwy iFind yn hysbysu deiliad yr eitem bod rhywun wedi cyflwyno cais ar ei chyfer ac y bydda ganddo wythnos ar ôl dyddiad y cais i ddychwelyd yr eitem. Mae’r opsiwn i gyflwyno cais yn sicrhau bod gan bawb yn y brifysgol fynediad teg at adnoddau.

Canllawiau'r Llyfrgell: Lluniwyd Canllawiau'r Llyfrgell gan eich llyfrgellwyr i gynorthwyo myfyrwyr, staff ac ymchwilwyr i ddefnyddio'r llyfrgell a dod o hyd i adnoddau pwnc. 

Clywedol: Mae deunydd clywedol yn fath o adnodd yn iFind, sydd ar ffurf fideo fel arfer (h.y. DVD).  

Cronfa ddata: Casgliad o ddata wedi'i drefnu yw cronfa ddata, y ceir mynediad ati'n electronig o system gyfrifiadurol lle y'i cedwir fel arfer. Mae cronfeydd data llyfrgelloedd fel arfer yn cynnwys erthyglau mewn cyfnodolion, ond gallant hefyd gynnwys llyfrau, penodau o lyfrau, adroddiadau, fideos, data a llawer o fathau eraill o wybodaeth.

CronfaDyma gronfa ymchwil Prifysgol Abertawe.  Mae'n cynnwys erthyglau mewn cyfnodolion, llyfrau, penodau o lyfrau, traethodau ymchwil, papurau cynadleddau a gweithdai, data, adroddiadau, papurau gweithio a mwy sydd wedi'u hysgrifennu neu eu cyd-ysgrifennu gan staff Prifysgol Abertawe.

Crynodeb: Crynodeb byr o erthygl neu ddogfen

Cyfeiriad: Manylion ffynhonnell yr wybodaeth a ddefnyddir mewn darn o waith (traethawd, llyfr, erthygl, fideo, etc).

Cyfeirnodi APA: Dull o gyfeirnodi yn ôl ‘awdur-dyddiad’ְMae'n cynnwys dwy ran: dyfyniad yn y testun sy'n rhoi enw'r awdur a'r dyddiad cyhoeddi a rhestr o gyfeiriadau ar ddiwedd y darn o waith sy'n rhoi manylion llawn y ffynonellau a ddefnyddiwyd. Mae rhagor o fanylion yn ein canllawiau cyfeirnodi APA.

Cyflenwi Dogfennau: Os bydd angen ar staff neu fyfyrwyr Prifysgol Abertawe gynnwys hanfodol i'w gwaith ymchwil nas cedwir gan lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe, yna gallant ddefnyddio'r gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau i gael benthyciad rhwng llyfrgelloedd neu gopi gan lyfrgell arall.

Cyflwyno cais a chasglu: Mae’r llyfrgell wedi lansio gwasanaeth cais a chasglu newydd i ddarparu eitemau mynediad hawdd nad ydynt ar gael ar-lein i fyfyrwyr ac aelodau staff presennol. Dylid cyflwyno ceisiadau drwy iFind. Ceir manylion llawn y gwasanaeth hwn ar dudalen we’r gwasanaethau llyfrgell

Cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaidMae cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid (ardystiedig neu ysgolheigaidd) yn cynnwys erthyglau wedi'u hysgrifennu gan arbenigwyr a adolygir gan sawl arbenigwr arall yn y maes er mwyn sicrhau ansawdd yr erthygl.

Cyfnodolion: Cyhoeddiad megis cylchgrawn a gaiff ei gyhoeddi'n rheolaidd. . 

Cyfnodolyn ardystiedig: Gweler yr adran Cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid.

Cyfnodolyn ysgolheigaidd: Gweler yr adran Cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid.

Cyfnodolyn: Mae cyfnodolyn yn gasgliad o erthyglau (megis cylchgrawn) a gaiff eu cyhoeddi'n rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Mae cyfnodolion yn cyflwyno'r gwaith ymchwil diweddaraf, a chaiff erthyglau mewn cyfnodolion eu hysgrifennu gan arbenigwyr, ar gyfer arbenigwyr. Gellir eu cyhoeddi ar ffurf argraffedig neu ar-lein, neu'r ddwy.

Cyfres: Cyhoeddiad megis cyfnodolyn neu gylchgrawn a gyhoeddir yn rheolaidd.

Cyhoeddiad busnes: Cyfnodolyn a gaiff ei ysgrifennu gan ymarferwyr neu newyddiadurwyr sy’n arbenigo mewn maes. Mae’r rhain ar gyfer pobl mewn busnes neu broffesiwn penodol.

Yn ôl i’r brig

Ch

Chwiliad uwch: Un o'r dewisiadau chwilio yn iFind a llawer o gronfeydd data llyfrgelloedd. Mae'n eich galluogi i chwilio'n well drwy gyfuno allweddeiriau. Dylai hyn roi canlyniadau chwilio mwy cywir a pherthnasol i chi.

Yn ôl i’r brig

D

Daliadau: Pan fydd llyfrgelloedd yn cyfeirio at eu daliadau, maent yn cyfeirio at yr holl ddeunydd (llyfrau, cyfnodolion, etc) yn y casgliad.

Desg Wasanaeth TG: Desg Wasanaeth TG yw'r cyfrwng ar gyfer cyflwyno ceisiadau am wasanaethau TG, neu roi gwybod am broblemau TG. 

Desg Wybodaeth: Dyma'r prif leoliad ar gyfer ymholiadau wrth fynedfeydd ein llyfrgelloedd.

Device functions (Argraffu): Wrth ddefnyddio'r argraffwyr a cheisio copïo dogfennau, bydd angen i fyfyrwyr glicio ar yr eicon ‘device functions’ sy'n ymddangos ar ôl mewngofnodi i'r argraffydd, sydd yn ei dro'n rhoi'r opsiwn i gopïo.

Dirwyon y Llyfrgell: Gellir gosod dirwy ar unrhyw eitemau na chânt eu dychwelyd erbyn y dyddiad dychwelyd presennol. Y benthyciwr sy'n gyfrifol am gadw golwg ar ei gyfrif yn rheolaidd er mwyn sicrhau y caiff pob eitem ei dychwelyd yn brydlon. Ceir manylion llawn ar dudalen we'r gwasanaethau llyfrgell

DOI: Mae DOI, neu Ddynodwr Gwrthrych Digidol, yn gyfres o rifau, llythrennau a symbolau a ddefnyddir i adnabod erthygl neu ddogfen yn barhaol a chysylltu â hi ar y we. Bydd y DOI bob amser yn cyfeirio at yr erthygl honno, a dim ond at yr un honno. Er y gallai cyfeiriad gwe (URL) newid, ni fydd y DOI yn newid byth.

Dolen barhaol: Hyperddolen sefydlog barhaol i dudalen we benodol.

Yn ôl i’r brig

E

Eitemau a gaiff eu galw yn ôl: Eitemau sydd ar fenthyg ar hyn o bryd y mae defnyddiwr arall wedi cyflwyno cais amdanynt. Os bydd rhywun yn cyflwyno cais am lyfr sydd ar fenthyg i chi, mae'n bosib y cewch e-bost yn gofyn i chi ei ddychwelyd. Os na fyddwch yn dychwelyd eitemau a gaiff eu galw yn ôl, caiff eich cyfrif ei rewi nes y caiff pob un o'r eitemau eu dychwelyd.

Eitemau cyfeirio yn unig: Mae rhai mathau o ddeunyddiau llyfrgell – gan gynnwys rhifynnau presennol cyfnodolion, traethodau ymchwil a gwaith cyfeirio – na ellir eu benthyca na mynd â hwy y tu allan i’r adeilad.

e-Lyfr: Fersiwn electronig o lyfr.

Embargo: Cyfnod (6, 12 neu 18 mis yn aml) cyn y gallwch gael gafael ar destun llawn erthyglau mewn cyfnodolion. Os bydd angen i chi gael gafael ar erthygl sydd dan embargo, defnyddiwch ein gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau

EndNote: Mae EndNote yn adnodd a all eich helpu i storio a threfnu'r cyfeiriadau rydych yn dod o hyd iddynt yn ystod eich gwaith ymchwil. Yna gallwch osod mynegeion cyfeirio a rhestr gyfeirio yn y fformat priodol yn eich dogfennau Word. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein cyfarwyddyd Ynghylch EndNote.

Erthygl mewn Cyfnodolyn: Mae erthyglau mewn cyfnodolion yn fyrrach na llyfrau a chânt eu hysgrifennu am bynciau penodol iawn.

Erthygl :  Darn byr o ysgrifennu ar bwnc penodol. Fe'i cyhoeddir yn aml mewn cyfnodolyn, cylchgrawn neu bapur newydd.

Erthyglau a mwy: Un o'r dewisiadau chwilio yn iFind. Defnyddiwch y dewis hwn i ddod o hyd i erthyglau mewn cyfnodolion, cylchgronau a phapurau newydd, papurau cynadleddau ac adnoddau tebyg eraill.

Yn ôl i’r brig

Ff

Ffolios: Os cewch eitem yn iFind sydd wedi'i dynodi'n Ffolio, mae'n golygu ei bod hi'n fawr iawn (yn rhy fawr i'w gosod ar silffoedd arferol) a'i bod ar silff ar wahân i'r prif gasgliad o lyfrau.

Yn ôl i’r brig

G

Golygydd: Yr unigolyn sy'n dod â chasgliad o ddogfennau (megis erthyglau mewn cyfnodolion neu benodau o lyfrau) wedi'u hysgrifennu gan awduron gwahanol ynghyd.

Gweithredwyr boolean: Gweithredwyr boolean yw'r geiriau "AND", "OR" a "NOT". Pan ddefnyddir y rhain yn iFind a chronfeydd data llyfrgelloedd, gallant wneud pob chwiliad yn fwy manwl gywir. Gellir cael mwy o wybodaeth am ddefnyddio gweithredwyr boolean yn ein tiwtorial Dod o hyd i erthyglau

Yn ôl i’r brig

H

HidlyddionMae gan gronfeydd data llyfrgelloedd ac iFind hidlyddion a all eich helpu i gyfyngu ar ganlyniadau eich chwiliad. Mae hidlyddion cyffredin yn cynnwys dyddiad cyhoeddi, math o ffynhonnell, ffynonellau wedi'u hadolygu gan gymheiriaid (ysgolheigaidd), iaith a thermau pwnc.

Hanfodion Llyfrgell MyUni: Cyfres o diwtorialau ar-lein sy’n eich cyflwyno i’r llyfrgell ac arddulliau cyfeirio gwahanol, ac sy’n eich addysgu sut i ddod o hyd i lyfrau, erthyglau mewn cyfnodolion a mathau eraill o wybodaeth. Gall myfyrwyr Prifysgol Abertawe gael mynediad at bob tiwtorial drwy Canvas.  

Yn ôl i’r brig

I

iFind: iFind yw catalog llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe. Gallwch ddefnyddio iFind i chwilio holl eitemau ein llyfrgelloedd, gan gynnwys llyfrau/e-lyfrau, cyfnodolion, erthyglau mewn cyfnodolion a llawer mwy. Os byddwch yn mewngofnodi i iFind, gallwch ofyn am eitemau ar fenthyciad i bobl eraill a chael mynediad at eich cyfrif llyfrgell.

iFindReading: iFindReading yw sytem rhest ddarllen ar-lein Prifysgol Abertawe. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein gwybodaeth am iFindReading

Yn ôl i’r brig

Ll

Llyfrgell Banwen: Mae Llyfrgell Banwen yn gangen o Lyfrgell Glowyr De Cymru yng ngweithdy DOVE, Banwen, 25 milltir i ffwrdd o Abertawe yng Nghwm Dulais. Mae'r llyfrgell yn cynnal dosbarthiadau addysg oedolion a addysgir yng ngweithdy DOVE a'r ardal gyfagos. Mae croeso i holl staff, myfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd ddefnyddio'r llyfrgell.

Llyfrgell Caerfyrddin: Gweler Llyfrgell Parc Dewi Sant 

Llyfrgell Glowyr De Cymru : Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru ar Gampws Hendrefoelan. Mae'r llyfrgell hon yn cefnogi cyrsiau'r Addysg Barhaus i Oedolion (ABO) ond mae hawl gan unrhyw fyfyriwr cofrestredig neu aelod staff i ddefnyddio'r cyfleusterau a benthyca eitemau'r llyfrgell yn bersonol.

Llyfrgell Parc Dewi Sant: Mae Llyfrgell Parc Dewi Sant ar Gampws Parc Dewi Sant, Caerfyrddin. Mae’r llyfrgell yn cefnogi myfyrwyr gwyddorau iechyd a addysgir yng Nghaerfyrddin. Yn bennaf, mae’r llyfrgell yn gwasanaethu myfyrwyr gwyddorau iechyd Prifysgol Abertawe, ond mae hawl gan unrhyw fyfyriwr cofrestredig neu aelod staff i ddefnyddio'r cyfleusterau a benthyca eitemau'r llyfrgell yn bersonol.

Llyfrgell Parc Singleton: Mae Llyfrgell Parc Singleton ar Gampws Singleton, Abertawe. Ceir ynddi ddetholiad mawr o lyfrau, gweithfannau a chyfrifiaduron niferus, gwasanaeth Cyflenwi Dogfennau ac Archifau Richard Burton. Gall aelodau staff a myfyrwyr hefyd ddod yma i gael cymorth TG.

Llyfrgell y Glowyr: Mae Llyfrgell Glowyr De Cymru ar Gampws Hendrefoelan. Mae'r llyfrgell hon yn cefnogi cyrsiau'r  Addysg Barhaus i Oedolion (ABO) ond mae gan unrhyw fyfyriwr cofrestredig neu aelod staff yr hawl i ddefnyddio'r cyfleusterau a benthyca eitemau'r llyfrgell yn bersonol.

Llyfrgell y Gyfraith: Mae Llyfrgell y Gyfraith yn hen adran Llyfrgell Singleton (Lefel 4, Adain y Dwyrain) ac ynddi y ceir y mwyafrif o'n llyfrau a chyfnodolion ar bwnc y Gyfraith.

Llyfryddiaeth: Rhestr o'r deunyddiau (llyfrau, erthyglau mewn cyfnodolion, etc) y cyfeiriwyd atynt mewn darn o waith yn ogystal â deunyddiau darllen cefndir na chyfeiriwyd atynt. Fel arfer, bydd eich aseiniadau'n gofyn am restr gyfeirio yn unig, yn hytrach na llyfryddiaeth.

Yn ôl i’r brig

M

Mendeley:  Adnodd am ddim yw Mendeley a all eich helpu i storio a threfnu'r cyfeiriadau rydych yn dod o hyd iddynt yn ystod eich gwaith ymchwil. Yna gellir defnyddio'r wybodaeth hon i osod mynegeion cyfeirio a rhestr gyfeirio yn y fformat priodol yn eich dogfennau Word. Ceir mwy o fanylion yn ein gwybodaeth am Mendeley

Microffilm: Caiff staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe fynediad am ddim at archifau papurau newydd yn ogystal â gwefannau sydd ar gael yn unrhyw le ar y rhyngrwyd. Mae copïau caled o rai hen bapurau newydd wedi cael eu sganio er mwyn creu cofnodion microffilm (digidol) at ddibenion eu cadw.

Mynediad Agored:  Mae Mynediad Agored (OA) yn darparu mynediad ar-lein, ar unwaith ac am ddim at ymchwil ysgolheigaidd wedi'i hariannu gan gyllid cyhoeddus. Caniateir i ddarllenwyr ddarllen, lawrlwytho, copïo ac ailddosbarthu allbynnau ymchwil. Mae Mynediad Agored yn sicrhau bod eich ymchwil yn cyrraedd cynulleidfa eang. 

Mynediad ar-lein: Mae rhai o'r eitemau yn iFind ar gael fel adnoddau rhithwir. Adnabyddir y rhain fel ‘mynediad ar-lein’. Dylid nodi bod llawer o eitemau ar gael fel copïau caled yn ein llyfrgell yn ogystal â chopïau rhithwir drwy fynediad ar-lein.

Mynegai cyfeirio: Pan fyddwch yn dyfynnu, yn aralleirio neu'n crynhoi gwaith neu syniadau rhywun neu'n cyfeirio at y rhain, bydd angen i chi gynnwys mynegai cyfeirio. Rhoddir mynegai cyfeirio yn y testun, ger y ffynhonnell. Cysylltir y mynegai at gyfeiriad llawn.  

Yn ôl i’r brig

O

OSCOLA: OSCOLA (Oxford University Standard for Citation of Legal Authorities) yw safon y diwydiant ar gyfer cyfeirio at ddeunyddiau cyfreithiol. System cyfeirio drwy droednodiadau yw arddull OSCOLA. Mae hyn yn golygu bod gan yr arddull dair elfen: mynegai cyfeirio (pan fyddwch yn cydnabod ffynhonnell yn y testun), troednodyn (cyfeiriad sy'n ymddangos ar waelod y dudalen) a llyfryddiaeth (rhestr ar ddiwedd y darn sy'n cynnwys yr holl ffynonellau y cyfeiriwyd atynt). Ceir rhagor o fanylion yn ein canllaw ar gyfeirio yn arddull OSCOLA

Yn ôl i’r brig

P

Pamffledi: Mae pamffled yn llyfr heb ei rwymo. Fel arfer, mae'r rhain yn llawer llai na llyfrau ac mae adran ar wahân ar eu cyfer yn Llyfrgell Parc Singleton.

Papurau Newydd: Cyhoeddiad dyddiol neu wythnosol sy'n cynnwys newyddion, barn, hysbysebion ac eitemau eraill o ddiddordeb cyffredinol.

Pod astudio mewn grŵp: Ceir podiau astudio mewn grŵp yn Llyfrgell Parc Singleton a Llyfrgell y Bae. Gall grwpiau bach o ddau fyfyriwr neu fwy gadw lle yn y podiau i'w defnyddio am hyd at ddwy awr. Mae gan yr ystafelloedd hyn sgriniau mawr fel y gallwch ymarfer cyflwyniadau.

Pori rhithwir: Mae pori rhithwir yn ymddangos yng nghanlyniadau iFind ar gyfer llyfrau argraffedig. Mae’n eich galluogi i bori drwy lyfrau eraill sydd yn yr un lleoliad yn y llyfrgell.

Porwr: Rhaglen gyfrifiadurol â rhyngwyneb defnyddwyr graffig ar gyfer dangos tudalennau gwe a llywio rhyngddynt. Mae enghreifftiau'n cynnwys Microsoft Edge, Chrome, Firefox a Safari. 

Prif Gasgliad o lyfrau yn y llyfrgell yn cadw'r mwyafrif o lyfrau yng nghasgliad ein llyfrgelloedd.

Yn ôl i’r brig

Rh

Rhestr o gyfeiriadau: Rhestr o bob cyfeiriad a ddefnyddir mewn darn o waith.

Rhif galw: Adnabyddir hyn fel marc dosbarth neu farc silff. Mae'r rhif galw'n gyfuniad o lythrennau a rhifau sy'n eich galluogi i ddod o hyd i'r eitem ar y silff. Mae'r llyfrgell yn trefnu llyfrau yn ôl pwnc, felly bydd gan lyfrau ar bynciau tebyg yr un rhif galw a gellir dod o hyd iddynt yn yr un lleoliad.

Yn ôl i’r brig

S

Sgwrsio: Mae'r llyfrgell yn cynnig gwasanaeth sgwrsio ar-lein. Mae hwn yn gweithredu yn ystod oriau craidd ac yn eich galluogi i ofyn cwestiynau a chael ymateb cyflym. 

Storfa Tŵr Vivian: Mae’r llyfrgell yn cadw rhai llyfrau a chyfnodlion nas defnyddir yn aml yn Storfa Tŵr Vivian. Dim ond staff llyfrgell sy’n cael mynediad at y storfa hon, felly os hoffech gael gafael ar eitem a gedwir yma, bydd yn rhaid i chi gyflwyno cais amdani drwy iFind

Yn ôl i’r brig

T

Testun Llawn: Mae testun llawn dogfen ar gael i chi ei ddarllen. Yn aml, defnyddir y term mewn cronfeydd data i nodi bod erthygl lawn mewn cyfnodolyn ar gael i chi ei darllen ar-lein.

Traethawd estynedig: Darn hir o waith ysgrifenedig, fel arfer ar bwnc y mae'r myfyriwr wedi'i ddewis. Fel arfer, y traethawd estynedig yw'r asesiad mawr olaf ar ddiwedd cwrs astudio.

Traethawd ymchwil: Darn ysgrifenedig helaeth sy’n trafod ac yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil fel rhan o radd ymchwil ôl-raddedig.

Yn ôl i’r brig

U

Uniondeb Academaidd: Mae Uniondeb Academaidd yn golygu bod yn rhaid i’ch gwaith darddu o’ch ymchwil a’ch syniadau eich hun. Mae’n rhaid i wybodaeth gan ffynonellau eraill gael ei chydnabod yn llawn os yw’n ddyfyniad uniongyrchol, yn aralleiriad, neu’n grynodeb. Mae diffiniad Uniondeb Academaidd y Brifysgol a’r egwyddorion craidd y mae wedi’i seilio arnynt ar gael yma.

Yn ôl i’r brig

V

Vancouver: Mae system Vancouver, a adnabyddir hefyd fel arddull gyfeirio Vancouver neu’r system awdur–rhif, yn arddull cyfeirio sy’n defnyddio rhifau yn y testun sy’n cyfeirio at gofnodion wedi’u rhifo yn y rhestr o gyfeiriadau. Mae’n boblogaidd ym maes y gwyddorau ffisegol. Ceir manylion llawn ynghylch sut i ddefnyddio system gyfeirio Vancouver yn ein canllaw ar arddull Vancouver.

Yn ôl i’r brig