Skip to Main Content

Gwleidyddiaeth a Pherthnasau Rhyngwladol: Cymorth traethawd hir

This page is also available in English

Sage Research Methods

Y Ganolfan Llwyddiant Academaidd

O help wrth strwythuro ac ysgrifennu aseiniadau, i gefnogaeth gyda mathemateg ac ystadegau, gall y Ganolfan Llwyddiant Academaidd eich helpu. Cliciwch ar y linc isod i gael rhagor o wybodaeth am eu gwasanaethau:

Tiwtorialau Ar-lein iView

Mae Prifysgol Abertawe wedi buddsoddi mewn amrywiaeth o dechnoleg gynorthwyol yn cynnwys Offer Mapio Meddwl a Chymryd Nodiadau. Er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i ddefnyddio’r cynnyrch hyn, bydd pob myfyriwr sydd yn gofrestredig â Phrifysgol Abertawe yn gallu cael mynediad at hyfforddiant ar fideo, gellir dod o hyd iddynt ar wefan iView.

Dod o hyd i Draethodau Hir

Mae’r llyfrgell yn cadw traethodau hir Prifysgol Abertawe ar lefel ddoethurol a rhai traethodau hir gradd meistr. Maent yn cael eu cadw mewn storfa yn Llyfrgell Parc Singleton. Gallwch ddefnyddio iFind i chwilio am draethawd hir a gwneud cais i’w weld yn Llyfrgell y Bae, Llyfrgell Parc Singleton neu Lyfrgell Glowyr De Cymru. Dilynwch ein canllaw ar Ddod o hyd i Draethodau Hir Prifysgol Abertawe.

Mae hefyd detholiad o draethodau hir doethurol, meistr ac israddedig ar gael yn Llyfrgell y Bae. Holwch wrth y Ddesg Wybodaeth os ydych yn dymuno eu gweld.

Gallwch chwilio am draethodau hir doethurol yn rhai o’n cronfeydd data. Rhowch gynnig ar EThOS neu ProQuest.

LibKey Nomad

Ffurflen Gais Cyflenwi Dogfen

Ffurflen Gais Cyflenwi Dogfen

Gwneud cais am fenthyciad, pennod neu gopi o erthygl at ddibenion astudio preifat ac ymchwil anfasnachol.

Cyflwyno Cais

 

Chwilio am Gynnwys Mynediad Agored

Chwilio Mynediad Agored

Logo for Open Access

Mynediad i gynnwys testun llawn, Mynediad Agored, am ddim ac yn gyfreithlon.

Chwilio CORE

 

Chwilio'n effeithiol gyda Google

Gall Google fod yn offeryn defnyddiol at ddiben dod o hyd i wybodaeth ar-lein. Fodd bynnag, gall fod yn anodd nodi'r ffynonellau mwyaf perthnasol a dibynadwy o wybodaeth o restr o filoedd neu filiynau o ganlyniadau. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd y rhai gorau ar frig y rhestr! Bydd y strategaethau canlynol yn eich helpu i chwilio'n fwy effeithiol ar Google.

Chwilio ar wefan neu grŵp o wefannau

Defnyddiwch eich allweddeiriau a'r gorchymyn site:url i ddod o hyd i ganlyniadau o un wefan neu grŵp o wefannau. Er enghraifft, bydd chwilio am cyfnod sylfaen site:gov.wales yn dod o hyd i wybodaeth am y Cyfnod Sylfaen o wefan Llywodraeth Cymru. Gallech ddefnyddio site:ac:uk i chwilio gwefannau academaidd.

Chwilio am fath penodol o ddogfen

Defnyddiwch y gorchymyn filetype: i gyfyngu'ch chwiliad i fath penodol o ddogfen. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych yn chwilio am fath penodol o wybodaeth. Er enghraifft, os ydych yn meddwl bod dogfennau'r llywodraeth yn fwy tebygol o gael eu cyhoeddi ar ffurf PDF, gallech ddefnyddio filetype:pdf i gyfyngu'ch canlyniadau i ffeiliau PDF a'i gwneud yn haws dod o hyd i'r wybodaeth mae ei hangen arnoch. Mae data rhifiadol yn debygol o ymddangos mewn taenlen, felly gallech ddefnyddio filetype:xls i chwilio am ddogfennau Excel.

Mae Google Scholar yn chwilio llenyddiaeth ysgolheigaidd megis erthyglau mewn cyfnodolion a chrynodebau, ond efallai y bydd yn anodd dod o hyd i destun llawn y deunydd yn eich canlyniadau. Bydd cysylltu'ch cyfrif Google Scholar â Phrifysgol Abertawe yn helpu gyda hyn. Ewch i'r eicon gosodiadau ar frig y sgrin.  

Wedyn ewch i Library Links i ddod o hyd i Brifysgol Abertawe.

Pam defnyddio cronfeydd data'r llyfrgell yn lle Google Scholar?

Er bod Google Scholar yn gallu bod yn ddefnyddiol, mae gan iFind a chronfeydd data pwnc eraill, megis Science Direct, rai manteision allweddol:

  • Y gallu i nodi erthyglau sydd wedi cael eu hadolygu gan gymheiriaid

  • Mynediad hawdd i grynodeb o'r erthygl

  • Mynediad hawdd i'r erthygl lawn, os yw ar gael, heb unrhyw gost ychwanegol.

  • Dyfyniadau a rhestrau o gyfeiriadau ar gyfer pob erthygl - yn ddefnyddiol ar gyfer ehangu'ch deunydd darllen.

  • Y gallu i chwilio am destunau cyn eu cyhoeddi.

  • Y gallu i fod yn fwy trefnus - opsiynau i e-bostio, lawrlwytho ac integreiddio â rheolwyr llyfryddiaeth (fel EndNote).