Beth yw cyfeirnodi Vancouver?
Mae’r arddull Vancouver yn seiliedig ar Citing Medicine, canllaw swyddogol i gyfeirnodi yn arddull Vancouver.
Beth yw arddull Vancouver ar gyfer cyfeirnodi gwaith?
Dyma ambell bwynt i'w gofio:
- Mae arddull Vancouver yn system rifiadol.
- Dynodir rhif i bob cyfeiriad y tro cyntaf iddo ymddangos yn y testun.
- Y rhif a roddir fydd y dynodwr unigryw ar gyfer y cyfeiriad hwnnw felly
- Gellir ysgrifennu rhif y cyfeiriad mewn cromfachau crwm (1), cromfachau sgwâr neu [1] neu fel uwchysgrif1.
- Mae system Vancouver yn rhestru'r cyfeiriadau a ddyfynnwyd ar ddiwedd y testun a rhestrir y cyfeiriadau mewn trefn rifol.
Ble gallaf gael gwybodaeth am gyfeirnodi Vancouver?
Ceir gwybodaeth a chanllawiau ar gyfeirnodi Vancouver:
- Drwy wefan Cyfeirnodi Vancouver sy'n cynnig llawer o enghreifftiau defnyddiol
- Yng Nghanllawiau eich Llyfrgell dan y tab Cyfeirnodi
- Yn y Canllaw Cyfeirnodi Vancouver (Byr) neu Canllaw Cyfeirnodi Vancouver (Llawn)
Ble gallaf gael mwy o gymorth?
Edrychwch ar dudalen Canllawiau'r Llyfrgell eich pwnc. Yno, cewch lawer o ffyrdd i ofyn am gymorth:
- Gofynnwch gwestiwn drwy ddefnyddio sgwrsio sydyn Gofynnwch i Lyfrgellydd
- E-bostiwch eich llyfrgellwyr pwnc
- Trefnwch apwyntiad gyda'ch llyfrgellwyr pwnc