Beth yw cyfeirnodi MHRA?
Arddull troednodiadau yw MHRA lle caiff rhifau uwchysgrif eu osod yn y testun, ac yna troednodiadau ar waelod y dudalen i roi manylion y ffynonellau rydych yn cyfeirio atynt. Mae’r holl ffynonellau yn cael eu rhestru mewn llyfryddiaeth ar ddiwedd eich gwaith.

Sut mae’r arddull MHRA o gyfeirnodi yn gweithio?
Dyma ambell bwynt i’w gofio:

Wrth gyfeirio at ffynhonnell am y tro gyntaf yn y testun, mae angen rhoi y manylion llawn fel troednodiad.  Os ydych yn ddyfynnu’r un troednodiad am yr eilwaith yn y testun, yna ddefnyddiwch ddyfyniad wedi’i byrhau ond yn hawdd i’w hadnabod.

Esiampl:

The Athenian Mercury articulated the suffering of men whose reputations were in decline.1 These themes provide further evidence, as Peter Earle reminded us, that the middling sorts were not inevitably rising at this time.2

1. Peter Earle, The Making of the English Middle Class: Business, Society and Family Life in London, 1660-1730 (London: Methuen, 1989), pp. 302

 2. Earle, p. 333.

  • Rhestrwch yr holl ffynonellau a ddefnyddir yn y testun mewn llyfryddiaeth ar ddiwedd eich aseiniad:

Earle, Peter, The Making of the English Middle Class: Business, Society and Family Life in London, 1660-1730 (London: Methuen, 1989)

Ble gallaf gael gwybodaeth am gyfeirnodi MHRA?
Ceir gwybodaeth a chanllawiau ar gyfeirnodi MHRA:

Ble gallaf gael mwy o gymorth?
Edrychwch ar dudalen Canllawiau'r Llyfrgell eich pwnc. Yno, cewch lawer o ffyrdd i ofyn am gymorth:

  • Gofynnwch gwestiwn drwy ddefnyddio sgwrsio sydyn Gofynnwch i Lyfrgellydd
  • E-bostiwch eich llyfrgellwyr pwnc
  • Trefnwch apwyntiad gyda'ch llyfrgellwyr pwnc