Mewn ymateb i geisiadau gan staff a myfyrwyr, yn enwedig yn yr Ysgol Reolaeth, rydyn ni'n hynod falch o gyhoeddi eich bod chi'n gallu cyrchu Statista bellach.
Mae gan Statista ffocws byd-eang ac mae'n rhoi'r ffeithiau a'r data diweddaraf a mwyaf perthnasol am farchnadoedd, defnyddwyr a diwydiannau. Mae'n cynnwys 1.9m o ystadegau, rhagolygon ac astudiaethau ynghylch 80,000 o bynciau a 170 o ddiwydiannau ledled y byd. Mae modd lawrlwytho data'n hawdd i'r rhan fwyaf o fformatau cyffredin.
Gallwch bellach gyrchu Statista o iFind, ein cronfa ddata A-Z a chanllawiau pynciau amrywiol.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'ch llyfrgellydd pwnc.