Y tymor hwn rydyn ni'n cynnig cwrs Llyfrgell a ddyluniwyd yn benodol i ôl-raddedigion!
Ar y cwrs, byddi di'n dod o hyd i ddolenni i lawer o wybodaeth a fydd yn dy helpu i gael y gorau o’r Llyfrgell wrth i ti astudio ym Mhrifysgol Abertawe; o strategaethau chwilio uwch i ymchwil agored i gyhoeddi twyllodrus. Gwna'n siŵr dy fod yn cofrestru ar y cwrs Canvas hwn os wyt ti'n fyfyriwr ôl-raddedig yma yn Abertawe. Cofia hefyd y gall pawb gofrestru ar gyfer Hanfodion Llyfrgell MyUni; mae'r cwrs hanfodol hwn yn cynnwys tiwtorialau a fideos byr a fydd yn eich atgoffa o'r hyn rydych wedi'i ddysgu yn eich sesiynau cynefino yn y Llyfrgell, yn ogystal â dangos technegau chwilio a chyfeirnodi i chi.