Mae’n Wythnos Llyfrgelloedd rhwng yr 7 a’r 12 o Hydref! Y thema yw ‘Dathlu llyfrgelloedd mewn byd digidol’. Dewch i’n sesiynau galw heibio yn y llyfrgelloedd ar Gampws y Bae a Champws Parc Singleton i gwrdd â staff y llyfrgell a chael rhagor o wybodaeth am ein hadnoddau a’n cymorth digidol. Hefyd gallwch ganfod sut y gall ein cydweithwyr yn y Ganolfan Llwyddiant Academaidd eich helpu chi. Bydd cacennau ar gael hefyd! Mae croeso i bawb, nid oes angen archebu, byddwn yn darparu ar gyfer gwahanol anghenion dietegol!
Llyfrgell Parc Singleton
Cacennau yn y Cwtsh rhwng 10.00-14.00 ar ddydd Mawrth ar 8 o Hydref.
Llyfrgell y Bae
Cacennau yn y Caffi rhwng 14.00-16.00 dydd Iau'r 10 o Hydref.