Mae Ffydd a Chymuned @BywydCampws a Llyfrgelloedd ac Archifau Prifysgol Abertawe wedi dod ynghyd i ddathlu Wythnos Genedlaethol Adrodd Straeon. Gall straeon ein diddanu ni a’n cysylltu ni ynghyd. Gall adrodd straeon gynnig cyswllt â’n hanes diwylliannol ein hunain a’n helpu ni i ddeall hanes pobl eraill. Os hoffech chi adrodd eich stori eich hun neu glywed straeon gan ein cymunedau, mae digwyddiadau a gweithgareddau y gallwch chi ymuno â nhw.
Straeon Myfyrwyr o’r Archifau
Ymunwch ag Archifau Richard Burton drwy’r wythnos ar Twitter wrth iddynt rannu straeon o gasgliadau’r Brifysgol. Caiff straeon am fuddugoliaethau ym myd chwaraeon, digwyddiadau trychinebus, a bywyd y tu hwnt i ddarlithoedd eu hadrodd trwy ffotograffau, erthyglau newyddion, a deunydd arall o’r archifau. Dilynwch @SwanUniArchives a #StudentStories ar gyfer stori wahanol bob dydd.
Rhannu Straeon Mudwyr: Prosiectau’r Pandemig o Abertawe
Cyflwyniad
16.30-17.30 Dydd Llun 1 Chwefor 2021 (Zoom)
Mae Tom Cheesman (Prifysgol Abertawe) a Marie Gillespsie (Y Brifysgol Agored) wedi creu llwyfannau ar gyfer lleisiau sydd ar y cyrion, gan gefnogi sgyrsiau rhyngddynt a’r mwyafrifoedd. Gwrandewch arnynt yn trafod eu prosiectau ac yn ateb cwestiynau.
cov19chronicles.com – profiad o leisiau ar y cyrion yn ystod pandemig Covid-19 wedi’u hadrodd drwy nifer o ffurfiau
tinyurl.com/swanseatales – yn cyflwyno straeon clywedol a recordiwyd ar gyfer plant, wedi’u recordio gan bobl yn Abertawe yn eu mamiaith.
Cofrestrwch eich lle er mwyn derbyn y manylion ymuno â Zoom.
Wythnos Genedlaethol Adrodd Stori: Adrodd eich stori eich hun drwy gyfrwng ysgrifennu myfyrgar
Gweithdy
16.00-17.00 Dydd Mercher 3 Chwefor 2021 (Zoom)
Treuliwch rywfaint o amser gyda phobl o’r un anian sydd â diddordeb mewn ysgrifennu eu stori eu hun gan ddefnyddio technegau ysgrifennu myfyrgar. Mae’r sesiwn hon yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb. Does dim rhaid eich bod chi wedi ysgrifennu unrhyw beth cyn hyn. Y cwbl sydd ei. Cofrestrwch eich lle er mwyn derbyn y manylion ymuno â Zoom.