Mae Her Darllen yn Well Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn dod i ben y penwythnos hwn. Mae ei lansio ar ddechrau mis Mawrth yn teimlo fel amser hir yn ôl erbyn hyn! Mwy na thebyg, byddwch chi wedi bod yn defnyddio’ch egni gyda materion sy’n ymwneud â phandemig y coronafeirws, ond efallai y daethoch chi o hyd i amser i ddianc gyda llyfr hefyd.

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi wedi gorffen eto – mae’n ychydig o hwyl, felly cymerwch eich amser! Beth roeddech chi’n ei feddwl am yr her? Gobeithiwn eich bod chi wedi darganfod llyfrau ac awduron newydd y byddwch yn dychwelyd atyn nhw yn y dyfodol. Rhannwch eich barn yn y sylwadau neu drwy ddefnyddio’r hashnod #paDarllenYnWell ar Twitter, Instagram a Facebook. Mae ein hargymhellion darllen yn dal i fod ar gael os ydych yn chwilio am ysbrydoliaeth.

An open book