Cynhelir Noson Ddarllen y Byd ar 23 Ebrill. Y llynedd, cafodd ein tylwythau llyfrau amser penigamp yn cwrdd â myfyrwyr a dosbarthu llyfrau am ddim! Eleni, bydd Noson Ddarllen y Byd yn ddigidol i gyd-fynd â’r newidiadau i’n ffordd o fyw oherwydd pandemig y coronafeirws. Rhwng 19.00 a 20.00 nos Iau, ymunwch â ni am #AwrDdarllen ar Noson Ddarllen y Byd. Gallwch ddarllen ar eich pen eich hun neu gydag eraill, yn bersonol neu drwy gysylltu ar-lein. Rhannwch eich hoff lyfrau neu cymerwch awr fach o hoe i ddarllen. Gallwch ddarllen llyfr argraffedig, gwrando ar lyfr sain neu ddarllen e-lyfr!

 

World Book Night logo in Welsh