Beth yw’r Clwb Dyddlyfr Dad-drefedigaethu Gwybodaeth?
Mae’r Clwb Dyddlyfr Dad-drefedigaethu Gwybodaeth yn fforwm diogel, agored ac anffurfiol i drafod llenyddiaeth ymchwil gyfredol i agweddau amrywiol dad-drefedigaethu ym myd addysg uwch. Mae’n gyfle i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o ystyr dad-drefedigaethu ac i annog cymryd camau i lywio a gwella eich ymarfer addysgu ac ymchwil. Mae’r Clwb ar agor i holl academyddion, staff y gwasanaethau proffesiynol, ac ymchwilwyr ôl-raddedig.
Sut mae Clwb Cyfnodolion yn gweithio?
Bydd y Clwb Cyfnodolion Dad-drefedigaethu Gwybodaeth yn cwrdd am un awr dros ginio unwaith y mis. Arweinir pob sesiwn gan hwylusydd gwahanol bob mis a fydd yn rhoi cyflwyniad bras ar ddau bapur o’i ddewis: un o gyfnodolyn academaidd, ac erthygl arall o gyhoeddiad neu adnodd gwe mwy amrywiol, neu o ffynhonnell y tu allan i’r gorllewin/y gogledd . Caiff erthyglau neu ddolenni i adnoddau eu dosbarthu i gyfranogwyr wythnos cyn cyfarfod y Clwb er mwyn eu darllen. Bydd trafodaeth ar ôl y cyflwyniad, a'r nod fydd nodi meysydd ar gyfer eich datblygiad proffesiynol eich hun a chamau ymarferol i gefnogi gwaith dadwladychu eich addysgu a'ch ymchwil.
Ystyriaethau ymarferol ar gyfer dewis erthyglau:
- Adnoddau ar-lein yn unig
- Erthyglau testun llawn ar gael drwy'r Llyfrgell neu drwy Fynediad Agored
- Mae'r cynnwys yn berthnasol i Addysg Uwch ac ymarfer neu ddealltwriaeth academaidd
- Ni ddylai erthyglau fod yn hwy na 10 tudalen.
Cynhelir y sesiwn gyntaf ddydd Mercher 30 Mehefin am 4pm. Bydd yr Athro Alys Einion-Waller yn hwyluso.
Am ragor o wybodaeth:
Prof Alys Einion-Waller (Athro Cyswllt, Coleg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd), A.B.Einion-Waller@Swansea.ac.uk
Lori Havard (Pennaeth Cymorth Academaidd, Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau), L.D.Havard@Swansea.ac.uk