Croeso i ddiwrnod 3! Pwnc heddiw yw rhannu gwybodaeth ar Twitter
Dim ond hyn a hyn y gallwch ei ddweud mewn 280 o nodau – ond gallwch gysylltu â lleoedd eraill ar y we lle gellir trafod pwnc mewn mwy o fanylder, efallai mewn erthygl neu bost blog. Efallai y byddwch chi wedi gweld cyhoeddiad, eitemau yn y newyddion neu wefan newydd rydych chi am adael sylw arnynt neu anfon at eich dilynwyr. Efallai eich bod wedi postio rhywbeth ar blog neu wefan, wedi uwchlwytho adnodd neu wedi cyhoeddi erthygl ac rydych chi am annog i bobl edrych arno. Mae Twitter yn gweithio'n dda iawn fel ffordd o ddenu sylw pobl at bethau eraill, a hirach ar-lein.
Mae'n ddigon syml – copïwch a gludwch URL gwefan o fewn trydariad. Fodd bynnag, mae llawer o URLs yn hir, a hyd yn oed os ydynt yn ffitio o fewn 280 o nodau, mae'n gadael llai o le i chi ychwanegu esboniad o'r cyd-destun neu sylw a fydd yn annog pobl i glicio ar y ddolen. Yn ffodus, mae Twitter yn cynnwys adnodd byrhau y gallwch ei ddefnyddio.
Hefyd, mae gwefannau eraill lle gallwch fyrhau URL, a fydd yn torri'r ddolen i fod yn fyrrach. Rhowch gynnig ar y rhai hyn:
Wrth drydaru dolen, mae'n arfer da i gychwyn eich trydariad gyda sylw cryno sy'n esbonio beth yw'r ddolen a pham rydych chi'n ei drydaru. Ar ei ben ei hun, nid yw URL o reidrwydd yn dweud llawer am gynnwys neu darfiad, ac nid yw byrhau URL gan ddefnyddio un o'r gwasanaethau uchod yn dweud llawer o gwbl amdano. Bydd eich dilynwyr yn anwybyddu'ch trydariad a'r ddolen yn fwy na thebyg os na allant weld yn syth am beth yw e, o ble mae'n dod a pham y byddai ganddynt ddiddordeb.
Mae'n debygol y caiff trydariad gyda dolen fer yn unig ei drin fel sothach ac mae'n debygol y caiff anfonwyr trydadariau o'r fath eu rhwystro. At hynny, gellir cymryd yn ganiataol drwy rannu dolen eich bod yn cymeradwyo'r cynnwys felly, os nad ydych chi, byddai'n ddoeth ychwanegu sylw yn datgan eich barn amdano – hynny yw, ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno? Neu, ai'r rheswm am ei rannu yw eich bod chi wedi’i chael yn ddiddorol a’ch bod yn meddwl y gallai fod o ddiddordeb i'ch dilynwyr hefyd?
Rheswm arall dros gadw'r URL fel y mae yn hytrach na'i fyrhau yw os caiff y gwasanaethu byrhau URL ei dynnu'n ôl, ni fydd y ddolen yn gweithio mwyach. Mae angen cydbwyso ei gadw'n fyr a chynnwys sylwadau a dadansoddeg o ryw fath, a hirhoedledd ac ychydig fwy o gyd-destun yn yr URL.
Felly, at beth y gallech chi gynnwys dolenni?
- stori newyddion am Addysg Uwch a sylw am sut yr adroddir amdano
- galwad cynhadledd neu gyllido a gyhoeddwyd
- llyfr neu erthygl rydych chi'n ei (h)argymell (ai peidio...)
- post blog a oedd yn ddiddorol i chi (a ph'un a ydych yn cytuno ai peidio)
- sleidiau neu ddeunydd arall o gyflwyniad yr aethoch chi iddo (neu a roddwyd gennych chi!)
- fideo ar YouTube, neu Vimeo, cyflwyniad neu sgwrs o bosib, neu ddigwyddiad cyhoeddus
- rhywbeth rydych chi eich hun wedi ei uwchlwytho. Mae'r blog hwn wedi'i osod ar Twitter fel ei fod yn diweddaru’n awtomatig pan fyddaf yn postio rhywbeth newydd (a dyma pam mae hashnod yn nheitl y post blog!) Bydd yn troi'n drydariad hefyd). Ceisiwch bersonoli'r neges diweddaru awtomatig os gallwch chi
- eich cyhoeddiadau. Mae tystiolaeth bod trydaru am eich ymchwil yn gymorth mawr i gynyddu nifer y gweithiau mae pobl yn edrych arnynt, ac felly dyfyniadau o bosib, yn enwedig os ydych chi'n dilyn strategaethau fel y rhai sy'n cael eu hawgrymu yma: https://www.altmetric.com/blog/strategies-to-get-your-research-mentioned-online/
Does dim disgwyl i chi dreulio amser yn chwilio'n fwriadol am ddolenni i drydaru i'ch dilynwyr; gallwch wneud hyn wrth i chi fod ar-lein ta beth. Gan fod gan fwyfwy o wefannau fotwm neu fotymau 'Share This' ar gyfer llwyfannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol, mae hyn yn hawdd ac yn gyflym i’w wneud. Mae hyn yn rhannol yr hyn rydym ni'n cyfeirio ato wrth ddweud 'Ysgolhaig Agored' yn yr oes ddigidol – mae'n dasg ysgafn i chi rannu’r pethau defnyddiol bob dydd y dewch chi ar eu traws gydag eraill, felly pam lai?
Tasg 1
Gweld yr hyn rydych chi'n dod ar ei draws heddiw, a thrydaru dolen i'ch dilynwyr!
Aildrydaru
Rydych chi wedi anfon ambell drydariad dros y ddau ddydd diwethaf – gobeithio eich bod wedi canfod digon yn eich arferion bob dydd a fyddai o ddiddordeb i eraill, p'un ai a ydynt yn gydweithwyr ym Mhrifysgol Abertawe, yn gymheiriaid yn eich maes neu mewn swyddi eraill mewn Addysg Uwch neu'r tu hwnt iddi, megis ym maes polisi, newyddiaduriaeth neu gyhoeddi, neu'r cyhoedd.
Byddai'n waith caled iawn i greu'r holl ddeunydd eich hun er mwyn bwydo trydariadau rheolaidd a diddorol i'ch dilynwyr! Wrth lwc, does dim rhaid – gallwch aildrydaru’r hyn mae pobl eraill yn ei drydaru. Mae ychydig fel anfon e-bost ymlaen, ond at bawb sy'n eich dilyn. Maent yn gweld cynnwys y trydariad gwreiddiol, gan bwy y daeth yn wreiddiol a hefyd, sylw sy'n rhoi ychydig o gyd-destun gennych chi o bosib. Drwy wneud hyn, rydych chi'n cyflawni gwasanaeth gwerthfawr:
- i'ch dilynwyr, drwy nithio'r wybodaeth sydd ar gael iddynt, hidlo'r hyn a allai fod o ddiddordeb iddynt, a hefyd drwy eu gwneud yn ymwybodol o gysylltiadau newydd posib y gallant eu hychwanegu at eu rhwydwaith. Efallai y byddant eisoes yn dilyn yr unigolion rydych chi wedi’u haildrydaru, ac yn yr achos hwnnw, rydych chi'n tynnu eu sylw at rywbeth y gallant fod wedi'i golli'r tro cyntaf. Mae'n bosib na fyddant yn dilyn y trydarwr gwreiddiol eto, ac yn yr achos hwnnw, rydych chi wedi gwneud gwybodaeth yn hygyrch iddynt nad oedd mynediad ganddynt iddi o'r blaen, ac wedi rhoi cyswllt newydd iddynt i’w ddilyn.
- i'r bobl rydych chi'n eu dilyn – drwy ehangu eu neges a'i lledaenu'r tu allan i'r rhwydwaith (a'u rhoi mewn cysylltiad â chysylltiadau newydd efallai) ac wrth gwrs, rydych chi'n dangos i bobl eraill eich bod chi wedi'ch cysylltu â phobl bwysig a diddorol, a'ch bod yn ddetholgar o ran pa wybodaeth sy'n ddiddorol ac o bwys!
Rydym ni wedi bod yn aildrydaru eitemau rydym ni'n gobeithio y byddant o ddiddordeb i chi a'n dilynwyr eraill yn @KarenDewick1 a @philippaprice dros y diwrnodau diwethaf. I aildrydaru neges, mae'n syml iawn, cliciwch ar y botwm 'retweet' sy'n ymddangos o dan bob trydariad pan fyddwch yn symud drosto.
Yna, bydd y neges yn ymddangos yn ffrwd Twitter eich dilynwyr fel ei bod yn deillio o'r anfonwr gwreiddiol, hyd yn oed os nad ydynt yn eu dilyn (er efallai eu bod nhw!). Nawr, caiff y trydariad y byddant yn ei weld wedi'i nodi gyda 'username retweeted' mewn llythrennau bach felly, os ydynt yn edrych, byddant yn gwybod mai chi sydd wedi'i aildrydaru.
Weithiau, byddwch chi am ychwanegu eich syniadau chi at drydariadYn hytrach na dewis anfon ‘Retweet,’ dewiswch ‘Retweet with comment’ i ychwanegu cyd-destun i’ch ail-drydariad. Bydd y canlyniad yn edrych ychydig fel hyn:
Cofiwch, er mwyn defnyddio Twitter yn effeithiol i hyrwyddo'ch gwaith chi, mae'n rhaid i chi ddiweddaru'n rheolaidd gyda chynnwys diddorol i ennyn grŵp o ddilynwyr, ac mae hefyd angen i chi ymateb i waith pobl eraill a'i hyrwyddo. Does neb am ddarllen neu aildrydaru ffrwd Twitter sydd yn darlledu cyhoeddiadau ei hun byth a beunydd a dim byd arall! Wrth gwrs, gallwch dorri unrhyw ddarn o'r trydariad gwreiddiol os ydych chi'n teimlo nad oes ei angen, neu er mwyn gwneud lle i ychwanegu sylw personol, ond er mwyn dangos eich bod wedi gwneud hynny, mae'n gwrtais i ysgrifennu MT (trydariad wedi'i addasu) yn lle RT. Mae'r rhain oll yn rhesymau da dros gadw eich trydariadau mor gryno â phosib a pheidio â defnyddio pob un o'r 280 o nodau, er mwyn i eraill allu aildrydaru eich trydariadau chi'n hwylus!
Tasg 2
Bwrwch lygad dros eich ffrwd Twitter i weld a allwch chi ddod o hyd i drydariadau a allai fod o ddiddordeb i'ch dilynwyr – cyfleoedd cyllido, galwadau am bapurau, eitem o newyddion, post blog newydd neu gyhoeddiad y mae rhywun wedi trydaru amdano, sylw rydych chi'n cytuno ag ef.... ac aildrydarwch!