Croeso i ddiwrnod 5, a'r diwrnod olaf!

Gan mai dydd Gwener yw hi, beth am ddechrau gyda rhoi cynnig ar y confensiwn #ff neu Follow Friday. A wnaethoch chi ddilyn unrhyw un ddydd Mawrth â thrydariadau defnyddiol iawn? Ydych chi'n meddwl y dylem ni fod yn ei ddilyn? Rhowch wybod i ni! Gallai trydaru Follow Friday nodweddiadol edrych fel hyn:

Dilynwch lyfrgellwyr gwych! #ff @ned_potter @jsecker @InfoPro_Tasha @libgoddess @jennydelasalle @LibnOfCongress

Rheoli pobl
Dros y pum niwrnod diwethaf, wrth i chi ddefnyddio Twitter yn fwy efallai y byddwch chi wedi sylweddoli eich bod yn dod ar draws mwy a mwy o bobl ddiddorol i’w dilyn, a bod nifer y bobl sy'n eich dilyn chi'n tyfu'n sylweddol. Gall dilyn pawb fod yn her, ac weithiau byddwch chi am ffocysu ar rai grwpiau penodol yn lle eraill, neu edrych ar rai pobl yn achlysurol. Mae'n anodd gwneud hyn yn llifau diwahaniaeth eich ffrwd Twitter, lle maent oll wedi'u cymysgu. Yn ffodus, mae ffyrdd o dorri'ch ffrwd Twitter a'r grŵp o bobl rydych chi'n ei ddilyn i ffrydiau gwahanol, er mwyn i chi gadw llygad ar y trydaru yn ôl yr hyn sy'n eich siwtio chi.

Efallai y byddwch chi am roi pobl mewn grwpiau i'w dilyn yn ôl y mathau o grwpiau gwnaethom ni eu hystyried ar Ddiwrnod Dau. Dyma rai enghreifftiau

  • Cydweithwyr neu wasanaethau yn eich sefydliad
  • Cydweithwyr a chyfoedion ar draws y wlad/byd mewn maes penodol
  • Cyrff proffesiynol neu gyllido
  • Cyfrifon newydd
  • Cyfrifon cymdeithasol, personol neu am hwyl

Rhestrau Twitter

Mae gan Twitter nodwedd sy'n eich galluogi chi i wneud rhestrau o bobl – a does dim angen i chi ddilyn pob un ohonynt i’w hychwanegu at restr. Gall y rhestrau hyn fod yn breifat, felly chi yn unig fydd yn gallu eu gweld, neu gallant fod yn gyhoeddus er mwyn i chi eu rhannu ag eraill. Creais i restr debyg i gyfranogwyr y cwrs hwn ar Ddiwrnod Un, er mwyn i chi ddod o hyd i'ch gilydd ar Ddiwrnod Dau. Efallai y gallwch chi greu rhestr er budd eraill, er enghraifft, i ddod â chynadleddwyr gweithdy neu gynhadledd ynghyd, neu fyfyrwyr ar fodiwl neu raglen benodol, neu'r cyfrifon pwysicaf ar bwnc penodol rydych chi'n argymell y dylaieraill eu ddilyn. Gallwch rannu rhestr drwy roi URL y dudalen restr i bobl, neu eu galluogi i weld y rhestrau a grëwyd gennych ar eich proffil lle gallant danysgrifio i'ch rhestrau chi hefyd.

I greu rhestr ar Twitter, cliciwch ar eich llun proffil yng nghornel dde uchaf y dudalen. Dewiswch 'Lists', a byddwch yn gweld tudalen sy'n cynnwys unrhyw restrau a wnaed gennych. Cliciwch ar 'Create new list', a gofynnir i chi roi enw i'ch rhestr newydd ac ychwanegu disgrifiad cryno. Bydd y disgrifiad yn ddefnyddiol iawn os ydych chi'n dewis gwneud y rhestr yn gyhoeddus er mwyn i eraill ddod o hyd iddi a thanysgrifio iddi.

Nawr, fe'ch gwahoddir i chwilio am bobl i’w hychwanegu at eich rhestr. Gallwch hefyd eu hychwanegu'n hwyrach, drwy glicio ar eu @name a mynd i'w proffil. Os ydych chi'n clicio ar y ddewislen (y tri dot), byddwch yn gweld opsiynau sy'n cynnwys 'add or remove from lists.' Gan ein bod yn trafod y pwnc ‘rheoli pobl’, gallwch hefyd rwystro pobl neu adrodd amdanynt o'r ddewislen hon,  er enghraifft os yw ffug gyfrif yn eich dilyn neu rywun arall nad ydych chi am iddo eich dilyn.

Pan fyddwch yn dewis Lists o'ch llun proffil, byddwch yn gweld y rhestrau a grëwyd, y rhestrau rydych chi wedi tanysgrifio iddynt a'r rhestrau rydych chi'n rhan ohonynt. Cliciwch ar y rhestrau i weld y trydariadau o'r cyfrifon ar y rhestr honno'n unig.

I ddilyn rhestr rhywun arall, edrych ar Lists yn yr opsiynau ar hyd brig ei dudalen proffil. (Os nad oes un, does dim rhestrau gan yr unigolyn hwnnw). Cliciwch ar yr un sydd o ddiddordeb i chi a dewiswch Subscribe.

Mwy:

Os ydych chi'n awyddus i ymchwilio ymhellach, darllenwch y canllawiau canlynol, neu dewch yn ôl atynt yn hwyrach, pan fyddwch wedi bod wrthi'n defnyddio Twitter ers tro:

Apiau trydydd parti

Yr hyn sy'n wych am Twitter yw pa mor syml yw e fel llwyfan. Fodd bynnag, weithiau mae angen ychydig fwy o nodweddion. Mae rhai cymwysiadau trydydd parti a grëwyd gan gwmnïoedd eraill fel ychwanegiadau i Twitter , i'ch helpu gyda rhai o'r pethau am Twitter a fydd efallai braidd yn frawychus i chi. Gyda rhai ohonynt, bydd angen integreiddio eich cyfrif Twitter i dynnu gwybodaeth drwyddynt, ac i wneud hyn, bydd angen i chi roi mynediad at eich cyfrif iddynt (gallwch ddad-wneud hyn o osodiadau eich cyfrif Twitter).

Efallai y bydd angen ffordd fwy hwylus o weld agweddau gwahanol eich ffrwd Twitter, neu hyd yn oed ychwanegu diweddariadau o lwyfannau eraill megis Facebook neu LinkedIn ar y cyd â Twitter, er mwyn gwneud eich holl ffrwd cyfryngau cymdeithasol yn weladwy mewn un man. I wneud hyn, gallwch ddefnyddio un o'r cymwysiadau trydydd parti a ddatblygwyd i wneud Twitter yn haws i'w ddefnyddio.

TweetDeck

Eiddo Twitter yw TweetDeck, ac mae'n ffordd dda o reoli mwy nag un cyfrif, os oes gennych fwy nag un (at ddibenion personol a phroffesiynol, neu efallai un personol ac un swyddogol ar ran sefydliad). Gallwch ddefnyddio TweetDeck i drydaru o sawl cyfrif Twitter gwahanol heb orfod allgofnodi o un cyfrif a mewngofnodi i un arall – mae'n rhwydd drysu a thrydaru o'r cyfrif anghywir! Fodd bynnag, gallwch hefyd ddefnyddio TweetDeck i rannu eich ffrwd Twitter i golofnau yn ôl unigolion. Bydd yn mewnforio unrhyw restrau a wnaed gennych ar Twitter hefyd.

I ddefnyddio TweetDeck, bydd angen i chi fewngofnodi drwy ddefnyddio eich cyfrif Twitter. Gallwch ei ddefnyddio fel cymhwysiad ar y we a'i gyrchu o bobman, neu gallwch lawrlwytho ap TweetDeck i'ch cyfrifiadur (does dim ap i ffonau clyfar na llechi). Mae TweetDeck wedi'i rannu'n nifer o golofnau, gan roi nifer benodol o golofnau'n awtomatig, megis eich llinell amser, eich trydariadau personol neu'ch @mentions (trydariadau sy'n eich enwi chi), a gallwch ychwanegu colofnau newydd ar gyfer y rhestrau a grëwyd gennych. Gallwch hefyd greu rhestrau  newydd yn TweetDeck. Cliciwch ar ‘add column' a dewisiwch 'lists' (neu unrhyw golofn arall rydych chi am ei hychwanegu!).

Hootsuite

Mae Hootsuite yn gymhwysiad tebyg i TweetDeck, ond mae hefyd yn eich galluogi chi i fewnforio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol eraill megis Facebook, ac mae hefyd ar gael fel ap i ddyfeisiau symudol. Mae Hootsuite yn wasanaeth mae'n rhaid i chi danysgrifio iddo, ond mae cynllun am ddim sy'n eich galluogi chi i gysylltu hyd at 3 rhwydwaith.

Gallwch gofrestru ar gyfer Hootsuite drwy ddefnyddio Facebook, ond os yw'n well gennych gadw Facebook ar wahân i'ch defnydd cyfryngau cymdeithasol proffesiynol, gallwch gofrestru gydag enw, cyfeiriad e-bost a chyfrinair. Yna, bydd yn gofyn i chi ychwanegu eich cyfrifon rhwydwaith cyfryngau cymdeithasol. Gallwch ychwanegu ffrydiau o gynnwys yn debyg i’r modd  y gallwch wneud hynny gyda TweetDeck, a thabiau ar gyfer rhwydweithiau cymdeithasol gwahanol. Mae gan Hootsuite ganllaw dechrau hwylus i'ch helpu i osod eich cyfrif.

Tasg

Meddyliwch am y mathau o ddiweddariadau rydych chi wedi eu gweld ar Twitter hyd yma gan bobl rydych chi'n eu dilyn. Trydariadau pwy sydd o ddiddordeb mwyaf i chi? Efallai y byddwch am roi cynnig ar greu rhestr o'ch cydweithwyr ar Twitter, neu efallai un ar gyfer y cyrff proffesiynol a chyllido rydych chi'n eu dilyn.

Wel, dyna'r diwrnod olaf o'n Pum Niwrnod o Twitter, ond peidiwch â phoeni os ydych chi o hyd yn ceisio cael gafael arni – mae pobl eraill yn yr un cwch, a bydd y sgwrs yn parhau ar #SU5DoT am beth amser gobeithio! Efallai y byddwch chi am gadw llygad ar hashnod y rhaglen a chefnogi cydweithwyr academaidd wrth iddynt ddysgu sut i ddefnyddio Twitter. Gobeithio bod y rhaglen wedi bod o fudd i chi, a diolch am ymuno â ni! Trydarwch yn llon!

(Os ydych chi wedi arbrofi â Twitter ac wedi penderfynu nad yw'n gweithio i chi, yna gobeithio eich bod wedi datblygu dealltwriaeth well ohono ac wedi dod at benderfyniad gwybodus am ei ddefnyddio ai peidio. Os ydych chi am ddileu'ch cyfrif nawr, mae'n hawdd ei wneud. Rydym yn eich annog i gadw olion traed digidol taclus!).