Mae Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe yn dymuno Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda i chi.

  • Os oes gennych lyfrau neu gyfnodolion ar fenthyg dros y cyfnod gwyliau, bydd y rhain yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig ac nid oes angen ichi boeni amdanynt oni bai fod defnyddiwr arall yn y Llyfrgell yn gwneud cais amdanynt. Bydd y rheolau arferol yn berthnasol i fenthyciadau un noson. Ni chaiff y rhain eu hadnewyddu'n awtomatig.

     

  • A wnewch chi ddychwelyd unrhyw liniaduron sydd wedi'u benthyca'n brydlon. Ni chaiff y rhain eu hadnewyddu'n awtomatig a chodir dirwyon o £10.00 y diwrnod.

     

  • Os bydd defnyddiwr arall yn y Llyfrgell yn gwneud cais am eitem sydd gennych chi, byddwch yn derbyn neges e-bost i'ch cyfrif myfyriwr er mwyn rhoi gwybod i chi. A wnewch chi ddychwelyd yr eitem erbyn y dyddiad a nodir yn yr e-bost. Os ydych wedi benthyg eitemau, cofiwch wirio'ch cyfrif yn rheolaidd.

     

  • Cofiwch y caiff dirwy o £2.00 ei chodi arnoch bob dydd am eitemau hwyr sydd wedi'u hadalw nad ydynt yn cael eu dychwelyd erbyn y dyddiad dyledus. Os oes gennych unrhyw bryderon ynglŷn â dychwelyd eitem mewn pryd, cysylltwch â Thîm Gwasanaeth Cwsmer GIGS ar unwaith os gwelwch yn dda. Gallwch anfon llyfrau drwy'r post atom os oes angen. Edrychwch ar dudalennau gwe'r llyfrgell am fanylion cyswllt a chyfeiriadau post.

 

Mae pob tipyn yn gymorth...

 

Newyddion da! O’r 1af Ionawr 2020 rydym yn lleihau'r tal am ail-argraffu cardiau adnabod/llyfrgell o £5.00 i £4.00. Rhannodd yr Undeb Myfyrwyr pryderon myfyrwyr am bryder a achoswyd gan boeni dros arian gyda ni, ac fe gytunom ni fod hwn yn un ffordd y gallwn ni helpu ychydig.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â Thîm Gwasanaeth Cwsmeriaid GGS. Mwynhewch y gwyliau!