Mae diwedd y tymor yn agosáu! Er y bydd rhai ohonoch yn dal i astudio dros wyliau’r Nadolig, gwnewch yn siwr eich bod yn ymlacio hefyd. Mae codi llyfr yn ffordd wych o wneud hynny. Rydym wedi gofyn i Inês Teixeira-Dias, Swyddog Cymdeithasau a Gwasanaethau Undeb y Myfyrwyr, i ddweud wrthym sut mae Swyddogion UM wedi bod yn rhannu eu cariad at ddarllen ers iddynt ddechrau yn eu gwaith:

Mae'r tîm o Swyddogion Llawn amser yn Undeb y Myfyrwyr erioed wedi bod yn ddarllenwyr brwd. Ers dechrau gweithio yn y Swyddfa, rydym wedi sefydlu silff lyfrau’r swyddfa, lle mae ein hoff lyfrau a’r rhai gorau'n aros yn barod i gael eu benthyca gan un ohonom ar ddiwrnod o law (neu ddiwrnod o haul ar y traeth!). Dim llyfrau diesiau: dim ond ein hoff lyfrau. Mae hen lyfrau racsiog yn aml yn gorffen eu dyddiau mewn siopau elusennol pan na fydd pobl yn mwynhau eu darllen mwyach. Fodd bynnag, mae’n werth rhannu'r hyn rydych chi'n ei fwynhau fwyaf. O hunangofiannau i lyfrau gwyddoniaeth poblogaidd, megis 'Why We Sleep,' i lyfrau rhamantus cyfoes megis ‘Eleanor Oliphant Is Completely Fine’ a llyfrau amrywiol am wleidyddiaeth fodern, mae ein hamrywiaeth eang o lyfrau wedi ein hannog i ddarllen y tu hwnt i'n genres arferol a mentro i fydoedd ein cydweithwyr agos. Does dim rhaid i chi roi llyfr yn lle'r un rydych chi'n ei gymryd, ond i atal llyfrau rhag mynd ar goll, gofynnir i bwy bynnag sy'n dymuno cael y pleser o ddarllen un ohonynt ddyddio a llofnodi'r llyfr benthyg. Ar y cyfan, mae'r system wedi rhoi dealltwriaeth wych i ni am feysydd na fyddem ni fel arall wedi ystyried ymddiddori ynddynt ac mae wedi bod yn bwnc trafod braf ymhlith ein Swyddogion sydd wedi gallu trafod materion a chysyniadau cyfoes â'i gilydd! Mae'r casgliad yn tyfu ac rydym yn llawn cyffro i weld sut y bydd yn ehangu dros y flwyddyn nesaf.