Wel, dyna ddiwedd Pum Niwrnod o Twitter! Gobeithio eich bod wedi mwynhau'r profiad a'ch bod bellach yn trydar yn hyderus ac yn gynhyrchiol os oeddech chi'n ddechreuwr, neu eich bod wedi adolygu'ch ymarfer ac wedi dysgu ychydig o bethau newydd os oeddech chi'n hen law ar Twitter. Roedd yn hyfryd gweld cynifer o drydarwyr profiadol yn cynnig cymorth a chyngor hefyd - arddangosiad gwych o sut gall Twitter fod yn rhwydwaith dysgu pwerus ar gyfer datblygiad proffesiynol!

Os ydych yn dal i fyny o hyd, peidiwch â phoeni! Bydd y deunyddiau ar gael ar-lein i chi weithio drwyddynt yn eich amser eich hun a, gobeithio, bydd y rhai sydd eisoes wedi cwblhau'r cwrs wrth law ar Twitter i gynnig cymorth, cyngor a chwmni! 

Felly, ble ewch chi o fan hyn? Ydych chi wedi penderfynu nad yw Twitter at eich dant chi (o leiaf gallwch benderfynu ar sail gwybodaeth nawr!) neu a fyddwch chi'n parhau i drydar a chymryd rhan yn y trafodaethau a'r cymunedau proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe, yn eich maes pwnc penodol ac ym maes addysg uwch ar Twitter? Yn bersonol, dwi'n meddwl ei fod yn offeryn rhagorol ar gyfer DPP ac i rannu ymarfer a dysgu gan eraill, ac mae wedi bod yn wych gwneud cynifer o gysylltiadau newydd.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i ddefnyddio Twitter, mae tudalennau cymorth y safle ei hun yn gyflwyniad da i'r amrywiaeth o bethau mae'n gallu eu gwneud. Neu os ydych yn gwglo'ch cwestiynau neu'n chwilio ar YouTube am diwtorialau fideo, byddwch hefyd yn dod ar draws llwyth o adnoddau mae pobl wedi eu creu a'u lanlwytho i helpu eraill. Ond efallai y peth gorau am eich rhwydwaith Twitter yw ei fod yn lle heb ei ail i ofyn cwestiynau a dod o hyd i bobl sy'n gallu eu hateb, fel rydym wedi dysgu ar y cwrs hwn!

Gwerthusiad

Maes o law byddwn yn anfon arolwg gwerthuso i glywed eich barn am 5 Niwrnod o Twitter. Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r rhaglen ac efallai cynnal cyrsiau tebyg yn y dyfodol ar agweddau eraill ar y cyfryngau cymdeithasol!

Y Dyfodol

Nawr eich bod wedi dysgu defnyddio Twitter fel rhan o gymuned #SU5DoT, byddai'n wych pe gallem gadw'r sgyrsiau a'r gymuned yn y cyfryngau cymdeithasol a'r byd academaidd ym Mhrifysgol Abertawe i fynd.

Anfonwch negeseuon atom i ofyn cwestiynau, cymerwch ran yn ein sgyrsiau neu tynnwch ein sylw at bethau rydych yn meddwl y dylem wybod amdanynt!

Byddwn yn dal i fod ar gael ar Twitter fel @philippaprice ac @karendewick1 ac, wrth gwrs, yn trydar am amrywiaeth eang o faterion ym maes addysg uwch.

Edrychwn ymlaen at ryngweithio â chi yn y dyfodol - cadwch mewn cysylltiad!

Yn olaf, os hoffech gynnal cwrs 5 Niwrnod o Twitter yn eich adran neu eich prosiect eich hun, mae gwybodaeth a deunyddiau ar gyfer y cwrs ar gael ar wefan Helen Webster: http://10daysoftwitter.wordpress.com/