Mae gan y Brifysgol ystod o wasanaethau cymorth iechyd a lles, ond a wyddech fod cefnogaeth hunangymorth ar gael yn y llyfrgell hefyd? P'un a ydych yn ymdrin â materion o'ch gorffennol, anawsterau presennol, neu'n pendroni ynghylch sut i goginio pryd o fwyd ar eich cyllideb myfyriwr, mae gan y llyfrgell lyfrau i'ch helpu! Mae'r Casgliad Lles yn cynnwys teitlau ar reoli straen, gorbryder, ADHD, awtistiaeth, anhwylder obsesiynol cymhellol, anhwylderau bwyta, diffyg cwsg, ymdopi â chamdriniaeth a mwy. Hefyd mae llyfrau ar reoli'ch arian a detholiad o lyfrau coginio i fyfyrwyr.
Mae'r Casgliad Lles ar gael i bob myfyriwr ac aelod o staff. Gallwch ddod o hyd i'r llyfrau yn y Cwtsh ar mezzanine Lefel 4 Llyfrgell Parc Singleton a'r Gornel Les gerllaw'r pod astudio grŵp yn Llyfrgell y Bae. Hefyd, mae fersiynau e-lyfr ar gael i rai ohonynt.
Mae rhestr lawn o deitlau'r Casgliad Lles ar gael ar-lein. Gallwch:
- bori yn ôl categori
- gwirio lleoliad y llyfr ac os yw ar gael drwy glicio ar y teitl
- defnyddio'r dull Gwneud Cais i gasglu llyfr o lyfrgell wahanol ym Mhrifysgol Abertawe
- darllen e-lyfr drwy glicio ar y ddolen i weld y Testun Llawn
Mae tystiolaeth dda bod bibliotherapi - defnyddio llyfrau ar gyfer therapi hunangymorth - yn gallu bod yn effeithiol iawn, felly edrychwch ar y casgliad os credwch eich bod wedi'ch effeithio gan unrhyw faterion a nodir uchod.