Ar hyn o bryd mae Desgiau Gwybodaeth Llyfrgell yn y Bae a Singleton yn cael eu staffio gan y Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid sy'n cefnogi myfyrwyr, staff ac ymwelwyr ag ymholiadau Llyfrgell a TG.

Mae MyUniHub wedi ymuno â'r Tîm Gwasanaethau Cwsmeriaid yn Nesg Wybodaeth Llyfrgell Parc Singleton yn ddiweddar. Bydd MyUniHub yn aros yn eu lleoliad presennol ar Gampws y Bae (Canolfan Wybodaeth y Tŵr). Mae tîm MyUniHub yn cefnogi myfyrwyr gyda phrawf o gofrestru, copïau ardystiedig a chopïau amnewid o dystysgrifau, trawsgrifiadau, ymholiadau cofrestru, newid statws cofrestru ar gyfer tynnu'n ôl a chyfeirio cyffredinol at wasanaethau'r Brifysgol a'r Gyfadran.

Bydd mis Awst a mis Medi yn gyfnod o drawsnewid gan y bydd y Tîm Gwasanaethau Cwsmer yn cael ei ailenwi yn MyUniLibrary. I gefnogi'r newid hwn, bydd arwyddion newydd yn cael eu gosod ar Ddesgiau Llyfrgell Parc Singleton a Champws y Bae i nodi'r gwasanaethau newydd.

Bydd MyUniLibrary yn parhau i gefnogi ymholiadau TG tan Ionawr 2023, pan fydd Desg Gwasanaeth TG newydd yn cymryd drosodd.

Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu mewn diweddariadau i'r holl fyfyrwyr a staff wrth i wasanaethau ddatblygu ac i gefnogi lansiad y Ddesg Gwasanaeth TG newydd.

O 30ain Awst, bydd Llyfrgell y Bae a Llyfrgell Parc Singleton ar agor 24 awr, saith diwrnod yr wythnos. Oriau agor Gwasanaeth Cwsmer/MyUniLibrary fydd:

Dydd Llun - Dydd Gwener:        08:00 - 20:00

Dydd Sadwrn a Dydd Sul:         12:00 – 20:00

O 5ed Medi, oriau agor MyUniHub fydd:

Llun-Gwener:                             09:00 – 16:00

Dydd Sadwrn a Dydd Sul:        Ar gau

Mae'n syniad da edrych ar dudalennau gwe'r Llyfrgell a thudalennau gwe MyUniHub i gael y wybodaeth ddiweddaraf am ein holl wasanaethau ac oriau agor.