Mae'r llyfrgell yn chwilio am fyfyrwyr rhyngwladol i'n helpu i wella'r mannau, y cyfleusterau a'r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi.  

Gofynnir i wirfoddolwyr gerdded o gwmpas llyfrgell eu campws gydag aelod o staff y llyfrgell. Yr unig beth y bydd angen iddynt ei wneud yw siarad yn uchel am yr hyn y maent yn ei weld. Mae diddordeb penodol gan y llyfrgell mewn darganfod sut defnyddir mannau, beth sy'n bwysig i fyfyrwyr, unrhyw brofiadau sydd wedi peri rhwystredigaeth neu ddryswch, a sut gellid gwella pethau.

Bydd gwirfoddolwyr yn derbyn taleb Amazon gwerth £5 i ddiolch iddynt am gymryd rhan.  

I wirfoddoli I helpu cysylltwch a Naomi Prady