Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod gennym fynediad bellach at Kanopy.
Gwasanaeth ffrydio ar-lein ar gyfer ffilmiau a rhaglenni dogfen yw Kanopy. Ymhlith y cynnwys y mae rhaglenni dogfen diddorol, ffilmiau arobryn/a enwebwyd ar gyfer gwobrau, ffilmiau mewn ieithoedd eraill, a rhaglenni teledu a ganmolwyd gan y beirniaid.
Cewch gyrchu Kanopy drwy IFind i fanteisio ar ein mynediad prifysgol.
Bydd angen creu cyfrif personol i gyrchu cynnwys personol wedi'i gadw ar draws dyfeisiau gwahanol.
· Mewngofnodwch drwy'ch cyfrifiadur, eich teledu neu eich dyfais symudol gyda'n hapiau ar iOS, Android, Roku, Apple TV, Chromecast, Samsung TV, ac Amazon Fire Tablet.
· Cadwch ffilmiau i'ch rhestr wylio a chreu eich casgliad eich hun o ffilmiau i'w mwynhau ar adeg arall.
· Crëwch gasgliadau o eiliadau sinematig arwyddocaol. Gallwch ddewis darnau o ffilmiau penodol i'w dangos yn eich dosbarth a chreu rhestri chwarae o wahanol ddarnau y gellir eu rhannu a'u gwylio drwy URL unigol.
Beth am ddechrau archwilio Kanopy nawr!
We are pleased to announce we now have access to Kanopy.
Kanopy is an online streaming service for films and documentaries. Contents includes compelling documentaries, award winning/nominated movies, non-English language films, and critically acclaimed TV shows.
Access Kanopy via iFind to take advantage of our university access.
Create a personal account to access saved and personalised content across different devices.
Start exploring Kanopy now!