Library News. Newyddion y Llyfrgell

Showing 6 of 6 Results

06/28/2021
profile-icon Bernie Williams
No Subjects

Gobeithiwn eich bod chi i gyd yn cadw’n dda, yn gorfforol ac yn feddyliol, yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae poen profedigaeth yn rhywbeth y mae nifer ohonom ni, yn fyfyrwyr ac yn aelodau staff, wedi ei bofi. Er mwyn ein helpu ni gyda hyn, mae’r Llyfrgelloedd a Ffydd@BywydCampws wedi creu detholiad o lyfrau ac adnoddau ar-lein a fydd yn rhoi cymorth i ymdopi â phrofedigaeth i chi. Mae’r dolenni i’rholl adnoddau hyn a manylion am leoliad y llyfrau, wedi’u nodi ar restr ddarllen y Casgliad Lles (gweler yr adran Profedigaeth a Galar). 

Yn ogystal â hyn, mae Ffydd@BywydCampws yn cynnal grŵp Cymorth Profedigaeth ar gyfer myfyrwyr. Maent hefyd yn cynnig Gwasanaeth Gwrando y mae croeso i fyfyrwyr ac aelodau staff ei ddefnyddio. 

This post has no comments.
06/28/2021
profile-icon Bernie Williams
No Subjects

We hope that you are all keeping well in these difficult times, both physically and mentally.  The pain of bereavement is something that many of us, students and staff members, have had to endure.  To help with this the Libraries and Faith@CampusLife have put together a selection of books and online resources that provide support with bereavement.  You will find links to all of these resources, and details of where the books are kept, on the Wellbeing Collection reading list (see the Bereavement and Grief section).

In addition to this, Faith@CampusLife run a Bereavement Support group for students.  They also offer a Listening Service that both students and staff members are welcome to make use of.

This post has no comments.
06/11/2021
profile-icon Bernie Williams
No Subjects

Mae Gwasanaethau Llyfrgelloedd a TG Prifysgol Abertawe yn dymuno pob lwc i chi yn eich asesiadau diweddar.

I'r rhai hynny sy'n gorffen eich astudiaethau ac yn gadael Abertawe, pob lwc!

Cofiwch ddychwelyd unrhyw eitemau sydd gennych ar fenthyg i'r Llyfrgell, a thalu am unrhyw ddirwyon ar eich cyfrif. Byddwch yn debyn tair neges e-bost yn eich atgoffa y caiff eich cyfrif TG ei ddileu ar ôl graddio. Rhowch gyfeiriad e-bost amgen i'ch cysylltiadau a dylech ddiogelu data personol efallai bydd ei angen arnoch yn y dyfodol.

I'r rhai a fydd yn dychwelyd ym mis Medi, byddwch yn ymwybodol:

  • Os oes gennych lyfrau neu gyfnodolion ar fenthyg dros yr haf, bydd y rhain yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig ac nid oes angen ichi boeni amdanynt.

  • Dewch â gliniaduron sy'n dal i fod gennych ar fenthyg yn ôl i'r locer hunanwasanaeth yn y Llyfrgell lle gwnaethoch eu benthyg. Ni fydd y rhain yn adnewyddu'n awtomatig, a bydd y dirywon yn costio £10.00 y dydd.

  • Os oes gennych bryderon ynghylch dychwelyd eitemau, rhowch wybod i dîm Gwasanaeth Cwsmeriaid GGS ar unwaith. Gallwch anfon llyfrau'n ôl drwy'r post atom, os oes angen. Edrychwch ar dudalennau gwe'r llyfrgell am fanylion cyswllt a chyfeiriadau post.

Os byddwch yn defnyddio Gwasanaethau’r Llyfrgell a TG dros yr haf:

  • Ceir gwybodaeth gyfredol am oriau agor ac archebu mannau astudio ar ein tudalennau gwe.
  • Bydd mynediad o bell at Gyfrifiaduron Personol myfyrwyr yn parhau i fod ar gael.
  • Bydd benthyciadau gliniaduron hunanwasanaeth am bythefnos yn dal i fod ar gael gan Lyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton. Ni ellir adnewyddu'r rhain a bydd yn rhaid eu dychwelyd i'r locer lle cawsant eu benthyg erbyn y dyddiad dyledus.

Os oes gennych gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â Thîm Gwasanaeth Cwsmeriaid GGS.

Rydym wedi gweithio'n galed i alluogi mynediad at adnoddau a darparu'r gwasanaeth gorau posibl wrth gadw staff a myfyrwyr yn ddiogel. Rydym wedi gwerthfawrogi eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn ystod y flwyddyn heriol hon. Rydym yn croesawu eich adborth a'ch awgrymiadau er mwyn i ni allu gwneud gwelliannau, a byddem yn ddiolchgar pe tasech yn cysylltu â Thîm Gwasanaeth Cwsmeriaid GGS er mwyn eu rhannu.

This post has no comments.
06/11/2021
profile-icon Bernie Williams
No Subjects

SU Libraries and IT Services wish you all the best of luck on your recent assessments.

To those of you who are finishing your studies and leaving Swansea, good luck!

Don’t forget to return any items you have out on loan to the Library and to clear any fines from your account. You will receive emails reminding you that your IT account will be disabled after graduation. Please advise contacts of an alternative email address and secure any personal data you may require in the future.

For those of you returning in September, please be aware:

  • If you have books or journals out on loan over the summer, they will continue to auto-renew and you don’t need to worry about them.

  • Please return any outstanding laptop loans promptly to the self-service locker at the Library where you borrowed them. These will not auto-renew and fines are £10.00 per day.

  • If you have concerns about returning any items, please let the ISS Customer Service team know right away. You can post books back to us, if necessary. Please look at the Library webpages for contact details and postal addresses.

If you’re using Library and IT Services over the Summer:

  • You’ll find up to date information on opening times and study space bookings on our webpages.
  • Remote access to student PCs will continue to be available.
  • Two-week self-service laptop loans will continue to be available from Bay and Singleton Park Libraries. These are non-renewable and must be returned to the locker where they were borrowed by the due date.

If you have any questions or concerns, please get in touch with the ISS Customer Service Team.

We have worked hard to enable access to resources and to provide the best service we possibly could while keeping staff and students safe. We have appreciated your patience and understanding during this challenging year. We welcome your feedback and suggestions so we can make improvements and would be grateful if you would get in touch with ISS Customer Services to share them.

This post has no comments.
06/10/2021
profile-icon Elen Davies
No Subjects

 On June 29th 2021 our iFind system supplier will be updating iFind for us. 

This will have many benefits and will bring new features to iFind, but there is one thing you need to be aware of:

 Notice: Saved searches will be cleared 

In iFind, you can save items and save searches.

Saved searches

Save searches using the Save Query button below the search box (must be signed in). 

Saved Searches will not transfer to the new version of iFind and will be cleared on June 29th 2021. We apologize for any inconvenience.

 Saved items/records

Save items using the Pin icon. 

Saved Items (also called records) will transfer to the updated iFind.

View your saved searches

To view your current saved searches, select the Saved Searches tab under My Favorites. We recommend saving a screenshot of your saved searches to re-create them after the system update.

View a list of your saved searches here (login required)

For help recreating your saved searches, please contact your Library Subject team.

_____________________________________________________________________________________________________________

Ar Fehefin 29ain 2021, bydd cyflenwr ein system iFind yn diweddaru iFind ar ein cyfer ni.

 Bydd hyn yn cynnig nifer o fuddion a bydd yn ychwanegu nodweddion newydd at iFind, ond mae un peth dylech fod yn ymwybodol ohono:

Hysbysiad: Caiff eich chwiliadau a gadwyd eu dileu

Yn system iFind, gallwch chi gadw eitemau a chadw chwiliadau.

Chwiliadau a gadwyd

Gallwch chi gadw chwiliadau gan ddefnyddio’r botwm Save Query o dan y blwch chwilio (mae’n rhaid eich bod chi wedi mewngofnodi). 

Ni fydd chwiliadau a gadwyd yn trosglwyddo i fersiwn newydd iFind a chânt eu dileu ar Fehefin 29ain 2021. Ymddiheurwn am anghyfleustra a achosir.

Eitemau/cofnodion a gadwyd

Cadwch eitemau gan ddefnyddio eicon y Pin. 

Caiff eitemau a gadwyd (a elwir yn gofnodion hefyd) eu trosglwyddo i’r system iFind a ddiweddarwyd.

Gweld eich chwiliadau a gadwyd

I weld eich chwiliadau presennol a gadwyd, dewiswch y tab Saved Searches dan My Favorites. Argymhellwn eich bod chi’n cadw sgrinlun o’ch chwiliadau a gadwyd er mwyn eu hail-greu ar ôl i’r system gael ei diweddaru.

Gallwch weld rhestr o’ch chwiliadau a gadwyd yma (bydd angen i chi fewngofnodi)

I dderbyn cymorth ar gyfer ail-greu eich chwiliadau a gadwyd, cysylltwch â’ch tîm Pwnc yn y Llyfrgell.

This post has no comments.
06/08/2021
profile-icon Naomi Prady
No Subjects

Working on your dissertation this summer? The library can help you develop your research and referencing skills.

Throughout June we will be holding a series of zoom drop-in sessions.

You can find out more and register to attend at our events calendar.


Ydych chi’n gweithio ar eich traethawd estynedig yr haf hwn? Gall y llyfrgell eich helpu chi i hogi eich sgiliau ymchwil a chyfeiriadu.

Drwy gydol mis Mehefin byddwn ni’n cynnal cyfres o sesiynau galw heibio ar Zoom.

Gallwch chi ddysgu mwy a chofrestru yn ein calendr digwyddiadau.

 

 

 

This post has no comments.
Provided email address is invalid.
Field is required.
Field is required.