Mae eich llyfrgellwyr pwnc yma i'ch helpu chi. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth, defnyddio adnoddau llyfrgell, ymgymryd ag ymchwil a chyfeirio'n gywir. Gallwch hefyd gysylltu â ni gydag unrhyw beth sy'n gysylltiedig â'r llyfrgell.
Helo, ni yw Naomi Prady (Llyfrgellydd Cyswllt Academaidd), Sian Neilson (Llyfrgellydd Pwnc), Bernie Williams (Llyfrgellydd Pwnc), a Carine Harston (Llyfrgellydd Pwnc) ac rydym yma i’ch helpu i ddod o hyd i wybodaeth, i ddefnyddio cronfeydd data, cyfeirnodi ac unrhyw beth arall sy’n ymwneud â’r llyfrgell.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys fideos a thiwtorialau a gynlluniwyd gan eich llyfrgellwyr, a byddant yn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar y llyfrgell, ar-lein ac ar y campws. Gallwch chi weithio eich ffordd drwy'r cwrs cyfan drwy glicio ar bob un o'r blychau isod. Pan fyddwch chi wedi cwblhau'r cwrs, bydd gennych chi wybodaeth ymarferol dda am sut i ddefnyddio'r Llyfrgell. Fel arall, gallwch chi ddewis a dethol pa bynciau rydych chi am eu hystyried o'r opsiynau isod. Ni waeth sut rydych chi'n dewis dysgu, gallwch chi bob amser fynd yn ôl a defnyddio'r cwrs hwn pryd bynnag y bydd angen cwrs gloywi arnoch.
O economeg a gwleidyddiaeth i lenyddiaeth ac athroniaeth, mae Oxford Handbooks yn ymdrin ag ystod eang o bynciau ar draws y dyniaethau, y gwyddorau cymdeithasol, y gwyddorau, a’r gyfraith.
Mae JSTOR yn cynnwys testun llawn cyfnodolion, fel arfer o'r rhifyn cyntaf hyd at oddeutu 5 mlynedd yn ôl. Ar gyfer rhifynnau mwy diweddar, yn aml darperir dolenni i destun llawn erthyglau ar wefannau allanol. Mae'r pynciau'n cynnwys ecoleg, economeg, addysg, cyllid, hanes, iaith a llenyddiaeth, mathemateg ac ystadegau, athroniaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, gwleidyddiaeth ac astudiaethau poblogaeth.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.