Mae'r Llyfrgell a Chanolfan Gwybodaeth ar Gampws Parc Singleton ar 4 llawr ac mae wedi'i rhannu'n adenydd y Dwyrain a'r Gorllewin. Rydych yn mynd i mewn i'r Llyfrgell ar lefel 3 yn Adain y Gorllewin. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, a gallwch weld y rhif galw ar feingefn pob llyfr.
Mae'r Ganolfan Adnoddau Dysgu ar Gampws Parc Dewi Sant ar y llawr cyntaf. Mae llyfrau wedi'u trefnu fesul pwnc ar silffoedd y Llyfrgell. Mae gan bob pwnc ei rif galw ei hun, a gallwch weld y rhif galw ar feingefn pob llyfr.
Edrychwch ar ein canllawiau ar sut i ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell, i chwilio am adnoddau.
Mae'r rhan fwyaf o lyfrau (a chyfnodolion) Ymarfer Adran Weithredu wedi'u cadw dan rifau galw R ar Lefel 1 Adain y Dwyrain yn Llyfrgell Parc Singleton.
Mae rhestr ddarllen eich modiwl yn ffynhonnell hanfodol o ddeunyddiau adolygu. Gallwch ddod o hyd i’ch rhestr ddarllen drwy chwilio yn iFindReading neu drwy fynd i adran rhestrau darllen ar Canvas.